Swyddog Prosiect Bywgraffiadur i Blant
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Prosiect Bywgraffiadur i Blant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y person sy'n dal y swydd yn arwain y gwaith o greu Bywgraffiadur i Blant. Bydd yn arwain ar y gwaith o addasu cynnwys sydd eisoes yn bodoli a'i wneud yn hygyrch i bobl ifanc, a chyfoethogi erthyglau gyda deunydd gweledol a deunydd sgrin a sain o gasgliadau'r Llyfrgell a mannau eraill. Bydd hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion, ac o bosib y tu allan i ysgolion, i fynd ati i greu rhan o’r cynnwys fydd ar y wefan honno.
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Technegydd Delweddau
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Dechnegydd Delweddau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio ar raglen i ddigideiddio eu casgliadau. Bydd deilydd y swydd yn gweithio ar Brosiect Sgriptiau'r Archif Ddarlledu Genedlaethol. Bydd deilydd y swydd yn sganio deunydd gwreiddiol, paratoi deunydd ar gyfer sganio, prosesu a dal metadata, sicrhau ansawdd o’r prosesau digideiddio, ynghyd ac unrhyw dasgau arall sydd yn cyd fynd a’r swydd.
Cyflog
💰 £22,223 - £23,202
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Mae S4C yn edrych am Brentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae' NS4C yn wasanaeth newyddion digidol Cymraeg gafodd ei lawnsio yn Ebrill 2021. Mae swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Chaerdydd. Rydym yn chwilio am ddau brentis fyddai'n gallu ymuno a'r tîm wrth i'r gwasanaeth dyfu.
Bydd prentisiaeth newyddion digidol yn S4C yn rhoi cyfle i chi:
• Fod yn rhan o'r tîm newyddion digidol yn S4C.
• Gweithio gyda'r tîm i becynnu cynnwys newyddion.
• Ymchwilio a datblygu syniadau am straeon.
• Ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan ac App newyddion a phenawdau bachog ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
• Ffilmio a golygu deunydd digidol ar gyfer platfformau fel Instagram, Facebook, Twitter yn ogystal a'r App Newyddion.
• Creu graffeg ar gyfer platfformau digidol.
• Gweithio gyda phartneriaid ac adrannau eraill o fewn S4C i rhoi llwyfan i'n cynnwys.
• Helpu S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Manylion Eraill
Dyddiad Cychwyn: Canol/diwedd Medi 2022
Lleoliad: Caerfyrddin/Caerdydd/Caernarfon
Cyflog: £15,000 y flwyddyn
Pensiwn: Mi fydd S4C yn cyfrannu 3% a disgwylir i chi cyfrannu 4%. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfanswm cyflog.
Cytundeb: 18 mis
Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio patrwm sifft yn unol â'r gwasanaeth sydd ar draws 7 diwrnod yr wythnos.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Nifer o brentisiaeth ar gael: 2
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Sul 4 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mi fydd angen i chi fod ar gael ar gyfer cyfweliad ar ddydd Mercher 7 Medi 2022.
Cyflog
💰 £15,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Gwasg y Bwthyn yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg y Bwthyn awyddus i benodi unigolyn i wneud gwaith marchnata am gyfnod o 6-7 mis i gyflawni prosiect penodol ar ran y wasg.
Rydym yn chwilio am rhywun â dealltwriaeth dda o egwyddorion cyfathrebu effeithiol ynghyd â phrofiad o waith marchnata, neu sydd wedi dilyn cwrs coleg mewn marchnata, ac yn deall y maes gwaith.
Bydd angen i’r sawl a benodir fod yn gwbl gyfforddus gyda’r cyfryngau cymdeithasol, a pharatoi deunydd ar gyfer Facebook, Trydar, Instagram ac unrhyw gyfryngau eraill perthnasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau ysgrifennu, ac yn gallu llunio testun bywiog, atyniadol, cryno a glân. Bydd yn meddu ar synnwyr da o beth sy’n effeithiol yn weledol. Bydd yn mwynhau’r elfen greadigol o greu deunydd deinamig a difyr ar gyfer y wasg.
Rydym yn ceisio unigolyn sydd â phrofiad o ffilmio a golygu fideos er mwyn creu cynnwys o ansawdd uchel i safon broffesiynol.
Hoffem i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda staff y wasg ac Aelodau Bwrdd y Wasg i’w hyfforddi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol a hyderus.
Tasg bwysig i’r ymgeisydd llwyddiannus fydd llunio cynllun marchnata ymarferol ac effeithiol, hwylus i’w ddefnyddio, ar ôl i gyfnod y prosiect penodol ddirwyn i ben.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus greu cronfa o adnoddau digidol, yn cynnwys templedau, i’r staff golygyddol eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys portreadau o awduron a’u gwaith, hysbysrwydd am gyfresi a deunydd i hyrwyddo’r ôl-restr. Bydd angen i’r holl ddeunydd a roddir ar y we fod yn gywir, glân a dengar.
Gofynion yr unigolyn
Rydym yn chwilio am berson trefnus a chydwybodol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar ei liwt ei hun, gan ddilyn rhaglen waith a gytunwyd, trefnu ei amser a chyflawni holl nodau’r prosiect o fewn y rhaglen amser a gytunwyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda Chymraeg cywir a graenus.
Hoffem benodi unigolyn sy’n mwynhau darllen ac yn frwd dros hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Oriau Gwaith
14 awr yr wythnos neu oriau eraill fel y cytunir gyda’r Bwrdd. Swydd ran amser fydd hon, a bydd croeso i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaernarfon neu gartref, neu gyfuniad o’r ddau. Ond bydd angen bod yn y swyddfa am gyfnod ar y dechrau er mwyn cael cyfnod o ddod i adnabod y staff, a dysgu am y wasg, a’r maes gwaith.
Bydd angen bod ar gael yn ystod oriau gwaith yn ystod hanner cyntaf yr wythnos yn benodol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogaidd, safonol i oedolion a llyfrau er lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
**Rhaglen waith **
Cyd-destun
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i gryfhau agwedd farchnata’r busnes. Ar hyn o bryd y golygyddion sy’n gwneud yr holl waith marchnata a chyhoeddusrwydd. Ar adegau prysur, mae’r agwedd hon ar waith y wasg yn tueddu i fynd ar ôl ac rydym yn gobeithio y bydd y sawl a benodir yn cyflawni darn pwysig o waith a fydd yn gosod seiliau cadarn i’r dyfodol ym maes marchnata er mwyn gwella'r agwedd hon ar waith y wasg. Un o’r prif nodau yw gwella sgiliau marchnata’r golygyddion a’u hyder yn y maes, yn cynnwys darparu templedi hwylus a hyblyg ar gyfer y dyfodol.
Creu cynllun marchnata i'r Wasg ei weithredu yn y dyfodol
Creu asedau digidol a thempledau digidol y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Cynllun marchnata
Bydd y ddogfen hon yn nodi sut mae’r wasg yn mynd i fod yn hyrwyddo a marchnata ei llyfrau yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys:
· rhoi sylw i hyrwyddo a marchnata cyn cyhoeddi, a chreu diddordeb cyn i lyfrau gyrraedd y siopau.
· datblygu briff ar gyfer lansio cyfrolau newydd, ac yn benodol y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a zoom.
· datblygu rhestr e-bost ar gyfer anfon gwybodaeth a chadw mewn cyswllt rhwydd a rheolaidd â chyfeillion a chefnogwyr y Bwthyn, y wasg yn cynnwys papurau bro, adolygwyr a siopau llyfrau.
· llunio patrymau cymeradwy o ran amserlen farchnata llyfrau newydd gan ganolbwyntio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel y cyfnod ar ddechrau’r flwyddyn, y farchnad Nadolig a’r eisteddfodau cenedlaethol.
· darparu amrywiol dempledau marchnata parod hwylus, hawdd eu defnyddio a’u haddasu.
· argymell system atgoffa i brocio’r staff i ddal ati i hyrwyddo teitlau sydd mewn print o bryd i’w gilydd (ee y rhaglen Llyfr y Dydd a gyflwynwyd gennym yn ystod y cyfnod covid) a stoc sy’n sefyll.
Creu asedau a thempledau digidol
Fel rhan o’r prosiect, bydd y sawl a benodir yn paratoi deunyddiau digidol at ddefnydd y staff. Bydd hyn yn cynnwys templedau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, a fydd yn arbed amser ac yn golygu fod Gwasg y Bwthyn yn gallu rhoi llawer mwy o gynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd brand y Bwthyn yn cael ei hyrwyddo ac yn dod yn hawdd ei adnabod ac yn gyfarwydd fel rhan o’r gwaith yma.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i wella cyfnod gwerthu eu llyfrau, ac i gynnal y diddordeb yn eu hôl-restr. Gyda hyn mewn golwg, bydd y swyddog prosiect yn creu system i hwyluso parhau i farchnata’r ôl-restr mewn dull systematig, hwylus ac effeithiol. Gwnaed hyn i raddau gyda’n cynllun Llyfr y Dydd yn ystod y ddau glo dros gyfnod covid, a fu’n arbrawf llwyddiannus. Mae angen adeiladu ar hyn a sefydlu fframwaith effeithiol er mwyn sicrhau fod llyfrau yn dal i werthu ar ôl y misoedd cyntaf, ac yn cael eu dwyn i sylw darpar brynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Mae gan Wasg y Bwthyn sawl awdur sy’n ysgrifennu cyfresi o nofelau, yn eu plith Dyfed Edwards, Sonia Edwards a Gwen Parrott sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar. Bydd y swyddog yn creu deunydd addas i hyrwyddo cynnyrch yr awduron hyn, a theitlau unigol o fewn cyfresi, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd darllenwyr sydd wedi mwynhau teitlau cynharach mewn cyfres, a denu ffans newydd. Mae potensial gwerthiant sylweddol i gyfresi gan fod darllenwyr yn hoffi dilyn cyfres, ac yn teimlo’n hyderus o wybod pa arlwy a ddarperir gan awduron cyfarwydd.
Mae’r un peth yn wir am waith awduron triw i’r Bwthyn sydd wedi cyhoeddi nifer dda o deitlau gyda ni, fel Harri Parri, lle gellid cynhyrchu ‘portreadau’ o’r awduron ar ffurf ffilm, y gellid eu defnyddio dro ar ôl tro. Felly bydd angen i’r swyddog prosiect fod â’r sgiliau i allu ffilmio a golygu fideos gan greu cynnwys o ansawdd uchel i’w roi ar ein gwefan, a’r cyfryngau cymdeithasol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogiadd, safonol i oedolion a llyfrau lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
Cyflog
💰 I'w drafod yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd – GWASANAETH Cefnogaeth Gorfforaethol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfieithydd – GWASANAETH Cefnogaeth Gorfforaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Mae hon yn hysbyseb ar gyfer swydd Cyfieithydd llawn amser, ond rydym yn barod i ystyried ceisiadau i weithio’n rhan amser.
Rydym yn dymuno penodi unigolyn sydd â phrofiad o gyfieithu a chyfieithu ar y pryd, fodd bynnag, byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion di-brofiad sy’n fodlon ymroi i ddysgu’r grefft. Bydd graddfa cyflog y swydd yn adlewyrchu lefel y profiad.
Cysylltwch â Bethan Mair Evans [email protected] neu 01286 679050 am sgwrs.
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076
eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 25/08/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £30,984 - £32,798
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol Gwasanaethau'r Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Swyddog Gweinyddol Gwasanaethau'r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson trefnus a brwdfrydig i ymuno â Gwasanaeth y Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cefnogaeth weinyddol i Dîm y Gymraeg, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n drefnus ac yn effeithiol.
Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu gweithio'n gydwybodol i ymateb i anghenion y gwasanaeth, a hynny o fewn tîm cefnogol a chyfeillgar.
Disgrifiad:
Gan weithio fel rhan o Dîm y Gymraeg, bydd deilydd y swydd yn rhoi cymorth gweinyddol llawn i'r Tîm. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeilydd y swydd reoli Porth Gwasanaethau'r Gymraeg, gan ddyrannu gwaith i aelodau'r Tîm Cyfieithu, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei ddychwelyd at gleientiaid yn brydlon. Bydd gofyn hefyd i ddeilydd y swydd reoli dyddiaduron, trefnu cyfarfodydd, paratoi papurau cyfarfodydd a chymryd cofnodion. Bydd deilydd y swydd hefyd yn rhoi cymorth o ran rhaglen hyfforddiant y Gymraeg, gan gydlynu'r gronfa ddata a rheoli blwch negeseuon Tiwtor y Gymraeg trwy ddarparu gwybodaeth am gyrsiau i staff.
Gan weithio fel rhan o'r tîm, deilydd y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf i'r tîm; gallai hyn hefyd gynnwys rhanddeiliaid mewnol ac allanol eraill.
Cyflog
💰 £21,730 - £23,177
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Casgliadau a Thŷ
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Casgliadau a Thŷ
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Plas Newydd ar dro cyfnod cyffrous ar gyfer y tŷ. Ar ôl gorfod oedi'r prosiect ail-wasanaethu sylweddol oherwydd y pandemig, rydym nawr yn paratoi i ail-afael ynddi. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad sylweddol mewn rheoli casgliadau a chynllunio dogfennaeth i ymgymryd â rôl arweiniol wrth baratoi'r tŷ a'r casgliad ar gyfer y gwaith hwn.
Cynhelir cyfweliadau ddydd Mercher 5 Medi.
Sut brofiad yw gweithio yma?
Mae Plas Newydd yn blasty a gardd rhestredig Gradd I sydd â chasgliad amrywiol, sylweddol. Mae gweithio tuag at brosiect sylweddol yn gyfnod prysur wrth ymuno â'r tîm ac mae llawer o gyfleoedd i bob aelod o'r tîm gymryd rhan. Ochr yn ochr â'r gwaith technegol i ddiweddaru'r gwasanaethau ar draws y plasty, rydym hefyd yn datblygu gweledigaeth gyffrous newydd i sicrhau arwyddocâd a pherthnasedd y tu hwnt i'r prosiect. Ein nod yw ceisio canfod ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno ac adrodd straeon, a fydd wedi'u harwain gan y Curadur Prosiect, a bydd y Rheolwr Casgliadau a Thŷ yn rhan allweddol o'r tîm wrth gyflwyno a phrofi cyflwyniad creadigol. Wrth weithio i hyrwyddo 'un tîm', byddwch yn arwain y tîm Casgliadau a Thŷ yn yr amgylchedd dynamig a newidiol hwn.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Byddwch yn rheoli'r gwaith cynllunio strategol a gofalu am gasgliadau sylweddol a nodweddion mewnol Plas Newydd o ddydd i ddydd wrth baratoi ar gyfer y Prosiect. Fel perchennog y rhestr casgliadau, bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar fodloni Safonau Achredu'r Amgueddfa a chwtogi ar yr ôl-groniad mewn meysydd allweddol sydd wedi pentyrru, dros gyfnod y contract. Mae arwain y gwaith achub casgliadau yn faes pwysig arall, gan sicrhau bod y gwaith papur a'r tîm yn barod i ymateb wrth i ni baratoi i fynd i'r afael â newidiadau gwaith adeiladu sylweddol.
Mae gweithredu a gofalu am y tŷ o ddydd i ddydd yn llwyddiannus yn rhan allweddol o'r rôl, a byddwch yn aelod pwysig o Dîm Arwain yr Eiddo. Bydd hyn yn cynnwys bod ar y rota Rheolwr Dyletswydd a gweithio ar benwythnosau'n rheolaidd. Byddwch yn cefnogi Tîm y Prosiect gyda'r gwaith o greu cynigion a dulliau newydd o fewn y tŷ.
Am bwy ydym yn chwilio?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych chi'n bodloni'r canlynol:
Cyfarwydd â safonau Achrediad Amgueddfeydd (Spectrum), cadwraeth a gofalu am gasgliadau.
Profiad o reoli casgliadau mewn amgueddfa neu amgylchedd eiddo hanesyddol, gan gynnwys catalogio a chronfa ddata rhestr eiddo
Dealltwriaeth gref ac arfer da o gadwraeth ataliol a sut i'w gymhwyso mewn sefyllfaoedd amrywiol.
Profiad ymarferol a llwyddiannus o weithrediadau a chyflwyno profiad i ymwelwyr mewn amgueddfa, tŷ hanesyddol neu atyniadau i ymwelwyr.
Profiad o reoli gweithdrefnau cydymffurfio, iechyd a diogelwch a brys perthnasol.
Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol.
Yn gallu hyfforddi a chefnogi unigolion sy’n rheoli a goruchwylio gwirfoddolwyr ac sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw, wrth ofalu am gasgliadau a nodweddion mewnol.
Sgiliau cyfathrebu cryf.
Y Pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £30,000
Lleoliad
📍 Llanfairpwll
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Addysg Gymunedol
Mae Y Groes Goch Brydeinig yn edrych am Gydlynydd Addysg Gymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Addysg Gymunedol i ymuno â’n tîm yn y Groes Goch Brydeinig. Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau a gwirfoddolwyr yn yr ardal er mwyn cynyddu ôl troed daearyddol y Groes Goch a’n capasiti mewn cymunedau. Gan adrodd i’r Rheolwr Addysg Gymunedol, byddwch yn rheoli partneriaethau a pherthnasoedd allanol yn y gymuned, ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu partneriaethau a phrosiectau sy’n cael eu hariannu’n allanol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar ddarpariaeth dysgu cyfunol Addysg Gymunedol yn eich ardal a byddwch yn sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol yn gyson ac yn bodloni’r safon briodol o ran ansawdd. Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith go iawn, drwy ddysgu sy’n cael ei hwyluso ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Byddwch yn ein helpu i sicrhau bod miloedd o bobl wedi’u paratoi’n well i ddygymod a gweithredu os bydd argyfwng yn codi.
Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i weithio ambell gyda’r nos a phenwythnos yn ôl y galw.
Dywedwch helo wrth y tîm: Ein gweledigaeth yw byd lle bydd pawb yn cael yr help y mae arno ei angen mewn argyfwng Datblygwyd ein darpariaeth addysg ar gyfer y rhai y mae mwy o risg y byddant yn wynebu argyfwng. Rydym wedi cynllunio ein gwasanaeth er mwyn datblygu gwytnwch pobl fel unigolion ac mewn cymunedau, gan ddarparu sgiliau hanfodol sy’n helpu pobl i ddygymod yn effeithiol a gweithredu mewn argyfwng. Mae arnom eisiau i bawb yn y DU gael cyfle i ddysgu cymorth cyntaf/cael addysg, ac rydym wedi nodi grwpiau risg i gael y sgiliau a’r hyder i allu dygymod mewn argyfwng, er mwyn iddynt allu helpu eu hunain a phobl eraill.
Gallai hon fod yn swydd i chi:
· Os oes gennych addysg gydnabyddedig, hyfforddiant neu gymhwyster hwyluso (neu brofiad cyfatebol) a sgiliau hyfforddi ac ysgogi rhagorol
· Os oes gennych brofiad o recriwtio, dewis, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr
· Os oes gennych brofiad o ddysgu wedi’i hwyluso ac addasu cynnwys dysgu wedi’i gymeradwyo’n genedlaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr
Cyflog
💰 £21,914
Lleoliad
📍 Abergele, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)
Mae Cwmni Ymchwil Arad yn edrych am Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cwmni ymchwil wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw Arad. Mae Arad yn darparu gwasanaethau ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori o’r safon uchaf ar ran cleientiaid yng Nghymru a gweddill y DU. Ymhlith ein cleientiaid presennol mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Mae gan ein tîm arbenigeddau ym meysydd addysg a sgiliau; datblygiad economaidd; diwylliant a threftadaeth; polisi plant a phobl ifanc; cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol.
Y swydd
Mae ein hymchwilwyr yn cyfrannu at gyflawni prosiectau ymchwil a gwerthuso ansoddol a meintiol. Mae hyn yn cynnwys dylunio offer ymchwil data, cynnal cyfweliadau ansoddol â grwpiau ffocws; cefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu arolygon; drafftio cynigion ymchwil, ysgrifennu adroddiadau a chysylltu'n broffesiynol â chleientiaid allanol.
Rydym yn bwriadu penodi ar lefel ymchwilydd, gyda dilyniant i lefel uwch ymchwilydd. Mae uwch ymchwilwyr yn rheoli astudiaethau ymchwil gyda goruchwyliaeth, cysylltu â chleientiaid, adolygu cyfleoedd tendro; arwain ar ysgrifennu tendrau; cydlynu gwaith maes; drafftio adroddiadau ymchwil ac ymgymryd â chyflwyniadau.
Sgiliau a Phrofiad
**Angenrheidiol **
Bydd gan yr ymgeisydd:
· brofiad o gwblhau gwaith maes (e.e. cyfweliadau, grwpiau ffocws) dadansoddi ac adrodd;
· y gallu i ddadansoddi a chrynhoi gwybodaeth gymhleth;
· y gallu i fod yn flaengar a gweithio’n annibynnol;
· gymhwyster lefel gradd;
· sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i weithio yn uniongyrchol gyda chleientiaid;
· sgiliau TGCh da a phrofiad o ddefnyddio pecynnau Office.
Manteisiol
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd:
· sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog yn y Gymraeg;
· brofiad fel ymchwilydd neu swyddog polisi;
· gymhwyster ôl-radd neu brofiad mewn gwyddorau cymdeithasol / economeg / dulliau ymchwil;
· brofiad o ysgrifennu adroddiadau;
· ddealltwriaeth o’r cyd-destun polisi yng Nghymru;
· brofiad o ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol neu ansoddol. **SUT I WNEUD CAIS **
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cyflwyno at Sioned Lewis at [email protected]. Cysylltwch ar yr e-bost hwnnw hefyd os ydych am drefnu sgwrs anffurfiol am y swyddi hyn.
Cyflog
💰 £23,625 - £27,825
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyflwyno a gweithredu strategaeth uchelgeisiol i ddiffinio rôl S4C yn y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn cynghori ac yn cydweithio gyda'r adran Gynnwys a Chyhoeddi byddwch yn sicrhau bod S4C yn darparu cynnwys deniadol a phwrpasol i siaradwyr Cymraeg newydd ar amrywiol lwyfannau.
Mewn cydweithrediad gyda'r Cydlynydd Gwasanaethau Mynediad, byddwch yn sicrhau darpariaeth is-deitlau eang a phwrpasol ac unrhyw ddatblygiadau eraill addas i hwyluso'r ymwneud â'r cynnwys.
Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda chymunedau sy'n dysgu Cymraeg ar draws Cymru er mwyn cyflwyno S4C fel adnodd a chartref i'r rhai sydd am ddysgu neu ddatblygu eu defnydd o'r iaith ac yn gweithio yn agos gyda'r adrannau cynnwys, cyhoeddi, cyfathrebu a phartneriaethau.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin. Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 1 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Addysg- Dysgu Cymraeg y Fro
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn edrych am Swyddog Datblygu Addysg- Dysgu Cymraeg y Fro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n gwasanaethu oedolion ledled Bro Morgannwg. O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Swyddog Datblygu Addysg newydd i reoli’r ddarpariaeth a thîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.
Ynglŷn â'r rôl
JNC Youth & Community Pwynt 23-26
37 awr yr wythnos (Llawn amser)
Canolfan Ddysgu Cymunedol Palmerston, y Barri CF63 2NT
Cytundeb tair blynedd yn y lle cyntaf
Disgrifiad:
Yn atebol i Reolwr Diwylliant ac Addysg Gymunedol, bydd y Swyddog Datblygu Addysg- Dysgu Cymraeg yn cyflawni rôl allweddol, yn gyfrifol am:
- Rheoli darpariaeth Dysgu Cymraeg a Chymraeg Gwaith
- Rheoli tîm o diwtoriaid a staff gweinyddol
- Cynnal ansawdd y ddarpariaeth i safonau Estyn
- Cyllid, data a mesurau perfformiad
- Cynllunio a darparu rhaglen gynhwysfawr o ddysgu
- Hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chyfleoedd dysgu i oedolion
Amdanat ti
- Sgiliau iaith ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Profiad o lwyddiant mewn rol addysgiadol
- Sgiliau rhagorol mewn trefnu, rheoli amser, cyflwyno ac hyfforddi
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
- Gradd Anrhydedd a chymhwyster Addysgu neu Hyfforddiant
- Ystod eang o sgiliau digidol a thechnoleg chyfathrebu
Cyflog
💰 £34,015 - £36,973
Lleoliad
📍 Y Barri
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Marchnata
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y prif gampws fydd Abertawe neu Gaerfyrddin, ond dylid bod yn gallu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen, a bod yn barod i wneud hynny
£36,382 - £42,149 y flwyddyn
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Reolwr Marchnata i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Gaerfyrddin, a hynny'n llawn-amser ac yn barhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn gyfrifol am reoli tîm o Swyddogion Marchnata, a byddwch yn cael eich rheoli gan y Pennaeth Marchnata. Byddwch yn cynllunio, rheoli a gweithredu prosesau a fydd yn galluogi'r tîm Marchnata i gyflawni ei gynlluniau marchnata blynyddol. Byddwch yn datblygu strategaeth gynnwys 'orau yn y dosbarth' a phrosesau cwbl archwiliadwy er mwyn sicrhau cydymffurfedd parhaus â gofynion rheoliadol.
Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, rheoli, mesur ac adrodd ar weithgarwch ac ymgyrchoedd marchnata, a disgwylir y bydd deiliad y swydd yn goruchwylio'r gwaith o lunio cynnwys, gan fonitro a gwerthuso gweithgarwch marchnata yn barhaus. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i feithrin perthnasoedd partneriaid busnes cynhyrchiol. Bydd disgwyl i chi hefyd ddirprwyo ar ran y Pennaeth Marchnata yn ôl yr angen. Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'. -** AMDANOCH CHI** -
I gael eich ystyried ar gyfer swydd Rheolwr Marchnata, bydd arnoch angen y canlynol:
- Cymhwyster lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster proffesiynol mewn marchnata neu faes perthnasol arall
- Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd marchnata
- Profiad amlwg o reoli prosiectau
- Profiad amlwg o lunio a lledaenu dirnadaeth farchnata, a hynny ym maes Addysg Uwch yn ddelfrydol
- Profiad o gyflwyno i gynulleidfaoedd lefel uchel
- Sgiliau rhwydweithio, negodi a dylanwadu mewn perthynas â rhanddeiliaid uwch
- Profiad o'r gallu i flaenoriaethu'n effeithiol a rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Sgiliau TG rhagorol
- Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch
- Profiad o reoli cyllideb
- Yn gallu gweithio'n rhan o dîm, mewn partneriaeth ag eraill, a heb oruchwyliaeth
- Yn cydnabod yr angen am gyfrinachedd ac yn amlygu cyfrinachedd priodol
- Yn gallu gweithio'n hyblyg ac yn barod i wneud hynny, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau eraill yn ôl y gofyn Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Profiad blaenorol o reoli llinell
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig). Gwybodaeth am arferion cyfathrebu effeithiol a phrofiad o lunio deunyddiau marchnata dwyieithog atyniadol
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Rheolwr Marchnata, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Cyflog
💰 £36,382 - £42,149
Lleoliad
📍 Abertawe, Caerfyrddin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Mae Barcud Cyf yn edrych am Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
**Cyfrifoldebau allweddol **
Cyfleusterau:
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan denantiaid busnes ynghylch Creuddyn, gan geisio ymdrin â materion tenantiaid busnes yn gyflym ac yn llwyddiannus ac mewn modd croesawgar, proffesiynol a chyfeillgar.
· Datblygu a chyflwyno dulliau gweithredu a strategaethau ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau yng nghyswllt rheoli cyfleusterau.
· Hyrwyddo a marchnata’n weithredol y cyfleusterau cynadledda a hyfforddi, gan ddefnyddio amryw ddulliau sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
· Bod yn gyfrifol am drefnu’r ystafelloedd hyfforddi / cynadledda fel eu bod yn addas i anghenion y sawl sy’n cynnal digwyddiadau.
· Bod yn gyfrifol am gynnwys y wefan / sianelau ar gyfryngau cymdeithasol ac am drefniadau archebu ystafelloedd neu ddesgiau a rennir, ar-lein a thros y ffôn.
· Yn gallu gweithio’n achlysurol gyda’r nos a phenwythnosau yn ddibynnol ar hyfforddiant/digwyddiadau cynadleddau.
· Cysylltu â sefydliadau arlwyo lleol er mwyn darparu gwasanaeth arlwyo allanol ar gyfer digwyddiadau yn ôl y gofyn.
· Trefnu te a choffi ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yng Nghreuddyn.
· Datblygu cydberthnasau â darparwyr llety lleol er mwyn cynnig cyfleoedd i’r sawl sy’n mynychu cynadleddau aros dros nos.
· Rhoi gwybod i denantiaid busnes am y prosesau a’r gweithdrefnau y bydd y Gymdeithas yn eu dilyn wrth ymdrin â’r materion y maent wedi’u codi ynghylch y cyfleusterau.
· Rhoi gwybod i denantiaid am gyfrifoldebau Barcud a’u cyfrifoldebau nhw o ran rheoli cyfleusterau ac eiddo.
· Cysylltu â’r Syrfëwr Cynnal a Chadw er mwyn ymchwilio i faterion a godir, a defnyddio’r weithdrefn gywir i roi gwybod am unrhyw angen am waith atgyweirio.
· Bod yn gyfrifol am gario allan a recordio profion Iechyd a Diogelwch wythnosol megis larymau, goleuadau brys ag ati.
· Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws y sefydliad i ddatrys unrhyw faterion a godir gan denantiaid busnes yng nghyswllt problemau sy’n ymwneud â chyfleusterau ac elfennau hanfodol.
· Gweithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Ddatblygu a Rheoli Asedau i gyflawni gwaith cynnal a chadw a chydymffurfio sydd wedi’i gynllunio, gan sicrhau bod tenantiaid busnes yn gwybod am y gwaith cyn iddo ddechrau ac yn gwybod am ba hyd y disgwylir iddo bara.
· Ymdrin â chwynion a chanmoliaeth ynghylch cyfleusterau Barcud, gan ddosbarthu’r cwynion a’r ganmoliaeth dan sylw i’r staff perthnasol fel y bo’n briodol.
· Cynnal a rheoli cronfeydd data ar gyfer ymholiadau tenantiaid ynghylch y cyfleusterau, gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n gywir ac yn briodol.
· Cynorthwyo gyda gweithgareddau ehangach yn y swyddogaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau.
· Dirprwyo dros y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau pan fo angen.
Pobl:
· Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
· Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
· Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
· Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
· Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
· Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
· Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
· Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
· Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.
Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn rhestr gyflawn, ac o gofio y bydd gofynion, deddfwriaeth a rheoliadau’n newid, efallai y bydd angen adolygu a diwygio’r dyletswyddau fel y bernir yn rhesymol ac yn briodol.
Cyflog
💰 £23,174 - £25,579
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd
Mae Grŵp Ymgynghori Lafan yn edrych am Ymgynghorydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn blaengar, sy’n rhannu ein brwdfrydedd a’n hangerdd i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig.
Disgrifiad:
Rydym yn cynnig:
Oriau gwaith hyblyg o’ch cartref.
Cyfle i gynnig eich arbenigedd er budd cleientiaid Lafan.
Cefnogaeth reolaidd i'ch arwain a’ch dysgu am yr economi wledig.
Cyfle i fod yn rhan o’r uchelgais i gefnogi busnesau a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru i ffynnu.
Gweithio fel rhan o dîm sydd am weld economi wledig gref a phawb ar hyd y gadwyn gyflenwi yn llwyddo.
Cyflog
💰 £34,000 - £40,000
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiectau Hyfforddiant Iaith
Mae IAITH yn edrych am Reolwr Prosiectau Hyfforddiant Iaith
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle cyffrous i arwain a datblygu ein prosiectau hyfforddiant iaith. Mae IAITH wedi bod yn arwain y maes hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith ers 1993 ac rydym yn darparu nifer o gyrsiau amrywiol mewn agweddau o bolisi, cynllunio ac ymddygiad iaith. Mae ein Academi IAITH yn darparu rhaglen o gyrsiau achlysurol yn ogystal â bwydlen o gyrsiau a ellid eu darparu i sefydliadau cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol a chwmnïau preifat yn uniongyrchol. Cewch ragor o wybodaeth am rai o’n cyrsiau yma: https://www.iaith.cymru/cy/academi-iaith/hyfforddiant-pwrpasol/. Rydym hefyd yn gweithredu nifer o brosiectau sy’n datblygu hyfforddiant iaith newydd https://www.iaith.cymru/cy/prosiectau/listen/ ac sy’n cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a’r mentrau iaith.
Cyflog
💰 £26,823 - £34,906
Lleoliad
📍 Castellnewydd Emlyn, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata
Mae Cwmni Theatr Volcano yn edrych am Reolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Volcano yn chwilio am berson egnïol, trefnus sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill, yn hyfedr gyda Google Workspace, WordPress, Canva, Photoshop a chymwysiadau perthnasol eraill, ac yn defnyddio ac yn mwynhau’r cyfryngau cymdeithasol.
Prif Leoliad: Swyddfa Volcano (Abertawe)
Oriau gwaith: Rhan amser 0.6 (22.5 awr yr wythnos)
Cyflog: £24,000 y flwyddyn pro rata
Bydd deiliad y Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata yn creu a datblygu ein presenoldeb drwy’r cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau argraffedig, a’n gwefan, gan sicrhau bod gwaith sy’n cael ei greu, ei gomisiynu neu ei gefnogi gan Volcano yn sylw’r cyhoedd cyn gynted ag y bo modd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol hefyd am oruchwylio seilwaith Volcano gan ddefnyddio Google Workspace. Byddant yn gyfrifol am farchnata gwaith Volcano a’r cyfleusterau sydd gan y cwmni i’w cynnig.
Dyddiad cau: 31/08/2022
Cyflog
💰 £24K pro rata
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Swyddfa Gweithredol
Mae Senedd Cymru yn edrych am Gynorthwy-ydd Swyddfa Gweithredol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A hoffech weithio mewn rôl brysur, gyfeillgar, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru?
Byddwch yn darparu cymorth o ddydd i ddydd i Gyfarwyddwyr unigol penodol gyda’u swyddogaethau a bod yn bwynt cyswllt cyntaf mewn perthynas â phob agwedd ar eu dyletswyddau.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n eithriadol o drefnus ac wedi arfer rheoli tasgau lluosog ar yr un pryd i fod yn rhan o'r tîm bach hwn sy'n darparu cymorth gweithredol i'n huwch-dîm a chyrff sy'n gwneud penderfyniadau.
Bydd angen ichi fod yn dda am weithio'n gywir i derfynau amser tyn, blaenoriaethu a pharhau’n ddigynnwrf.
Bydd angen profiad arnoch o weithio mewn amgylchedd prysur a gallu meithrin a chynnal ymddiriedaeth a hyder ein tîm uwch, ac ymdrin â materion sensitif a chyfrinachol.
Cyflog
💰 £25,945 - £31,137
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr/Cynorthwyydd Cyllid
Mae Innvois LTD yn edrych am Weinyddwr/Cynorthwyydd Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn rôl allweddol i weinyddu'r System Gynhyrchu Hyrddod, gan weithio gyda'r Tîm Bridio, Tyfwyr Hyrddod a'r Partneriaid Bridio.
Disgrifiad:
Yn adrodd i Brif Weithredwr a Chyfrifydd Rheolaeth y cwmni, mi fydd y Gweinyddwr yn gweithio ochr yn ochr a'r Tim Cynhyrchu/Bridio Hyrddod a staff y Swyddfa Gyllid.
- Yn gyfrifol am cadw taenlen Ram Master yn gyfoes
- Yn gyfirfol am gofnodi'r hyrddod sy'n tyfu mewn lleoliadau amrywiol, gan wneud anfonebau a hunan-filiau ble fo angen
- Yn gyfrifol am gynnal datganiadau Partneriaid Bridio Magu
- Cynorthwyro ar ddiwrnodau arwerthianau hyrddod er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth i'r tim anfonebu; gall hyn gynnwys teithio rhywfaint o fewn y DU
- Cynorthwyo i gynnal Cronfa Ddata Cwsmeriaid Sage (System CRM)
- Yn gyfrifol am uwchlwytho gwybodaeth hyrddod o'r Brif daenlen i system gyllid Sage 200
- Cynorthwyo i gynnal cofnodion stoc ar Sage 200
- Creu anfonebau cwsmeriaid ar Sage 200 pan fo angen
- Cyflwyno derbynebau arian parod ar Sage 200 pan fo angen
- Cymeryd taliadau cerdyn o gwmseriaid pan fo angen
- Cynorthwyo gyda gweinyddu arwerthianau a gwaith marchnata
- Cynorthywo gyda gweinyddu cofnodion symudiadau da byw
- Darparu dyletswyddau gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol gan gynnwys delio ag ymholiadau ffôn, cymryd a dosbarthu negeseuon
- Cynorthwyo â gwirio a nodi anfonebau cyflenwyr ar Sage 200
- Cynhyrchu sieciau a gwybodaeth ategol ar gyfer talu cyflenwyr yn ôl yr angen
- Bancio (fel bo angen)
- Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol cyffredinol i sicrhau rhediad esmwyth y swyddfa
- Dyletswyddau eraill y mae'r Prif Weithredwr neu'r Cyfrifydd Rheoli yn gofyn yn rhesymol amdanynt
Ar adegau bydd y swydd yn golygu teithio ledled Cymru a'r DU. Gofynnir i ymgeiswyd anfon CV a llythyr eglurhaol i Dewi Jones ar [email protected].
I drafod y rol, ffoniwch 01970 828236
Dyddiad Cau: 12pm, 22ain Awst 2022 Dyddiad Cyfweliad: 26ain Awst 2022
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyletswyddau penodol
1. Gweithredu prosesau cyllid yn unol â pholisïau a gweithdrefnau mewnol y sefydliad ac yn unol ag egwyddorion ac arferion da y maes cyfrifyddu.
2. Codi archebion ar gais ac yn unol ag awdurdodaeth fframwaith rheolaeth fewnol y sefydliad a’u dosbarthu at gyflenwyr.
3. Prosesu a thalu anfonebau cyflenwyr a threuliau staff yn amserol a gywir gan sicrhau bod y trafodion wedi eu cofnodi yn briodol, yn cydymffurfio â pholisïau’r Comisiynydd, a bod yr awdurdodaeth briodol wedi ei dderbyn.
4. Cadw cofnodion a thystiolaeth gyflawn a chywir o’r trafodion cyfrifyddu ar systemau’r cyfrifyddu a systemau eraill y sefydliad.
5. Delio gydag ymholiadau gan gyflenwyr a datrys unrhyw anghydfod.
6. Cwblhau prosesau rheolaeth ariannol sylfaenol diwedd y mis yn gywir a chyflawn, ac yn unol â’r amserlen.
7. Paratoi adroddiadau safonol i’r Dalwyr Cyllideb yn fisol, eu dosbarthu ac ymchwilio i ac ymateb i unrhyw ymholiadau gan y Dalwyr Cyllideb.
8. Paratoi’r Adroddiad Cyllid misol sy’n cael ei gyflwyno i’r Tîm Rheoli yn adrodd ar berfformiad ariannol y sefydliad.
9. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda chynllunio ariannol, megis paratoi'r Amcangyfrif ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chyllideb Flynyddol y sefydliad.
10. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda pharatoi’r Cyfrifon Blynyddol a chefnogi gyda’r archwiliad.
11. Mewn cydweithrediad gyda’r Tîm Adnoddau Dynol prosesu cyflogau staff, gan:
§ Sicrhau bod y prosesu yn gywir â chyflawn yn unol â chyfarwyddiadau a rheoliadau a chyfreithiau perthnasol;
§ Gwneud ymholiadau perthnasol a datrys ymholiadau yn ôl yr angen;
§ Derbyn awdurdodaeth briodol i’r trafodion;
§ Codi taliadau i staff ac i’r awdurdodau perthnasol yn unol â’r amserlen;
§ Prosesu trafodion cyflogau i’r system gyfrifyddu yn gywir, yn gyflawn ac yn amserol; a
§ Sicrhau bod adroddiadau a datganiadau yn cael eu hanfon at awdurdodau perthnasol yn unol ag amserlenni.
12. Cydymffurfio gyda, a chael dealltwriaeth fanwl o bolisïau a gweithdrefnau yn y meysydd dan gyfrifoldeb y tîm. Gweithredu yn unol â’r polisïau a chynghori staff ar y polisïau:
§ Polisi Rheolaeth Ariannol
§ Polisi a Gweithdrefnau Prynu Nwyddau a Gwasanaethau
§ Polisi Teithio a Chynhaliaeth.
13. Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol
14. Adnabod a chynorthwyo gyda’r gwaith gweinyddol yn y maes cyllid
15. Cynorthwyo gydag unrhyw waith gweinyddol ac ymarferol er mwyn darparu adnoddau a gwasanaethau swyddfa i staff y sefydliad yn unrhyw un o’r lleoliadau.
16. Cynorthwyo’r Swyddog TG gydag unrhyw waith gweinyddol ac ymarferol, yn ôl y gofyn.
Dyletswyddau gweinyddol canolog achlysurol (fel rhan o dîm Swyddogion Cefnogi / Gweinyddol). Gweithredir ar sail rota i gyfro gwyliau a salwch.
17. Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
18. Monitro negeseuon e-bost post@ yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
19. Gweinyddu ceisiadau am gyfieithu dogfennaeth, rhedeg pob dogfen drwy feddalwedd cof cyfieithu, codi archebion a chysylltu â chyfieithwyr yn ôl yr angen yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
20. Cofnodi manylion ceisiadau Iaith Gwaith, dosbarthu’r nwyddau a sicrhau cyflenwad digonol o nwyddau Iaith Gwaith i’w cadw gerllaw’r dderbynfa yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
21. Ymgymryd â thasgau redactio ar gyfer y tîm Llywodraethiant yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant, a hefyd i fod yn barod i ddarparu cymorth redactio i dimoedd eraill yn ôl yr angen.
22. Darparu ysgrifenyddiaeth i gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Panel Cynghori yn absenoldeb y Cynorthwyydd Personol.
Dyletswyddau cyffredinol:
1. Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
2. Ymgymryd â gwaith gweinyddol i gynorthwyo’r timoedd eraill sy’n cynnal gwasanaethau cefnogi’r sefydliad.
3. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol, rhesymol eraill yn ôl y galw.
Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd
Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol di-elw sy’n bodoli i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac sydd â’r nod o gyfrannu at gynnal y defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol, cefnogi rhwydweithiau cymdeithasol y Gymraeg a chynyddu statws y Gymraeg ym mhob sector o fewn Dinas a Sir Casnewydd.
Gwaith Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd yw datblygu a chryfhau cynnig a gwasanaethau’r Fenter i gymunedau Casnewydd a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith o fewn cymunedau Casnewydd. Prif ddyletswyddau’r rôl yw llunio, cydlynu a gweithredu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau amrywiol a chynhwysfawr i bobl o bob oed ar hyd a lled sir Dinas Casnewydd er mwyn iddynt gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Bydd yr unigolyn delfrydol yn gallu datblygu syniadau newydd ac arloesol i barhau i adeiladu a datblygu darpariaeth a rhaglenni presennol y Fenter. Chwiliwn am berson egnïol a brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm yn effeithiol. Byddwch yn gallu cysylltu’n hyderus gydag ystod o bobl ac yn awyddus ac yn barod i ddysgu pethau newydd ar hyd y ffordd hefyd.
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol.
Cyflog
💰 £21,074- £23,111
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru. Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. **Nod y Rôl ** I ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen i brosiect Cyswllt Ffermio. Prif Gyfrifoldebau · Cyfieithu trawsgrifiadau fideo, papurau, adroddiadau, taflenni, manylebau, erthyglau, ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill ar gyfer Cyswllt Ffermio yn ôl y galw
· Prawf ddarllen deunydd ysgrifenedig gan sicrhau cywirdeb ac ansawdd
· Defnyddio meddalwedd cof cyfieithu
· Gweithio’n agos gyda’r tîm marchnata i sicrhau fod deunyddiau’n cael eu cynhyrchu’n gywir
· Cynnal gwybodaeth gyfredol ar faterion yn ymwneud â chyfieithu a phrawfddarllen a mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol
· Diweddaru cronfa ddata o waith cyfieithu mewnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
• Addysg hyd at lefel gradd
• Profiad gwaith dangosol mewn maes perthnasol
• Aelodaeth sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg) neu barodrwydd i weithio tuag at ennill y safon honno o fewn cyfnod penodol
• Profiad ymarferol o gyfieithu o Gymraeg i Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg
• Gwybodaeth arbenigol o Gymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau cyfieithu’n fanwl gywir, gydag ymwybyddiaeth o ofynion/geirfa’r maes sydd ynghlwm â’r deunydd
• Sgiliau ysgrifennu rhagorol gyda’r gallu i gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd glir
• Sgiliau prawf ddarllen eithriadol
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio gyda staff a chyfieithwyr eraill
• Gallu cwblhau cyfieithiadau cywir yn y ddwy iaith, a chynnal ansawdd a safon uchel ym mhob agwedd o’r broses
• Sgiliau cydlynu a gweinyddol rhagorol
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
• Sgiliau technoleg gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, meddalwedd cof cyfieithu, E-bost a’r Rhyngrwyd
• Gallu ysgogi ei hun i reoli rhaglen waith gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethu gwaith yn effeithiol o fewn amserlen dynn, gyda ffocws clir ar ansawdd • Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm • Gallu cadw data mewn cydymffurfiaeth â deddfau diogelu data perthnasol Dymunol
· Aelodaeth Gyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg)
· Dealltwriaeth o hanfodion llunio copi dwyieithog o’r briff cychwynnol hyd at gyflwyno’r deunydd gorffenedig gan gydlynu bob agwedd o’r broses
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Gwybodaeth am y rhaglen Cyswllt Ffermio **Gwneud Cais ** Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Helen Lowcock James ar 02920 467 402 Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 yb, 5 Medi 2022. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd ar 12 Medi 2022. Os nad yw’r dyddiad hwn yn gyfleus, nodwch hyn ar eich ffurflen gais. Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £24,657-£30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd/Rheolwr Rhaglen
Mae Barnardo's yn edrych am Arweinydd/Rheolwr Rhaglen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n chwilio am her newydd yn eich bywyd? Oes gennych chi'r angerdd a'r sgiliau i newid dyfodol llesiant pobl ifanc yn Ynys Môn a Gwynedd? A hoffech wneud hynny drwy sicrhau bod y bobl ifanc eu hunain yn gyrru'r newid hwn? Yna darllenwch ymlaen!
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig i fwrw ymlaen â phrosiect 5 mlynedd newydd y Loteri Genedlaethol sy'n cael ei ariannu gan y Gymuned ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd, lle mae'r weledigaeth yn creu dyfodol o fwy o lesiant a gwytnwch i bobl ifanc. Fel Arweinydd/Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn gyfrifol am ddechrau a rheoli'r prosiect arloesol drwy gyfnod datblygu cychwynnol o 12 mis ac wedyn ymgorffori a dylanwadu ar newid am gyfnod pellach o 4 blynedd. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gynllunio a'i ddefnyddio'n llawn gyda phobl ifanc, asiantaethau partner a chymunedau Ynys Môn a Gwynedd i sicrhau bod y systemau sy'n cael eu newid yn cyd-fynd ag anghenion lleol.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Cyflog
💰 £46,380
Lleoliad
📍 Ynys Môn, Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu'r Gymraeg yn y Gweithle
Mae Cyngor Sir Penfro yn edrych am Swyddog Datblygu'r Gymraeg yn y Gweithle
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
Bod yn gyfrifol am gydlynu cyrsiau hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle ar draws y Cyngor.
Gweithio tuag at dargedau fel y’u gosodwyd ac y cytunwyd arnynt mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Sir Penfro a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i gynyddu’r canfyddiad o’r Cyngor fel un sy’n darparu amgylchedd gwaith dwyieithog ac i fodloni gofynion Rheoliadau Safonau’r Gymraeg yn well.
Gwella dealltwriaeth a chanfyddiadau o’r defnydd o’r Gymraeg yn ysgolion a chymunedau Sir Benfro er mwyn ysgogi mwy o barodrwydd ymhlith staff, gan gynnwys rheolwyr, ac aelodau i ymgysylltu’n gadarnhaol â’r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a ddarperir drwy’r rhaglen.
Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith cadarnhaol gyda’r rheolwyr y mae eu staff yn ymwneud â’r rhaglen gan gydnabod natur ddeinamig hyfforddiant a datblygiad, a’r angen am agwedd hyblyg a rhagweithiol at y rôl er mwyn ymgysylltu’n weithredol ag unigolion a grwpiau.
Arwain ar nodi anghenion hyfforddi a datblygu iaith Gymraeg y cyflogeion ac aelodau.
Cynllunio rhaglenni hyfforddi a datblygu, a hwyluso dysgu gyda grwpiau unigol, wrth adolygu cynnydd a chyfrannu at systemau gwerthuso, i sicrhau gwelliant ac effeithiolrwydd parhaus.
Datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu iaith Gymraeg dwys, hwyluso dysgu gydag unigolion a grwpiau tra’n cyfrannu at fonitro’r rhaglenni er mwyn adrodd i Grŵp Cyflawni Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Darparu hyfforddiant pwrpasol i feysydd penodol o'r busnes pan ofynnir amdano.
Darparu cynllun cymorth un-i-un i bartneru a chefnogi uwch-reolwyr (targed rhif 2). Datblygu, cynnal a hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau cymorth dysgu anffurfiol, sy'n ysgogi recriwtio a chadw, ac yn hyrwyddo cysylltedd a hyder ymhlith dysgwyr.
Ystyried costau ac amserlenni gweithgareddau a gynllunnir gan gadw o fewn y cyllidebau a'r amserlenni a nodwyd.
Datblygu adnoddau hyfforddi, gan gynnwys paratoi nodiadau ac arddangosiadau gweledol gan ddefnyddio gwybodaeth ac ymchwil eich hun.
Cadw cofnodion ar bresenoldeb/absenoldeb mewn hyfforddiant a digwyddiadau i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n gyfredol at ddibenion monitro ac adrodd.
Meddu ar wybodaeth am bolisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol.
Hyrwyddo diogelwch gwybodaeth a chyfrinachedd yn unol â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau'r cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw waith ychwanegol a ystyrir yn briodol i natur y swydd.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Sir Benfro
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu Cynlluniau Tai – Tai ac Eiddo
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu Cynlluniau Tai – Tai ac Eiddo
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y (Pecyn Gwybodaeth)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
• Cyfrannu’n weithredol at gyfathrebu cynlluniau tai yr Adran
• Datblygu a gweithredu Cynllun Cyfathrebu ar gyfer y Cynllun Gweithredu Tai
• Cydweithio gyda’r Uwch Swyddog Gweithredol, swyddogion prosiect a gwasanaeth cyfathrebu corfforaethol y Cyngor ar sicrhau bod materion yn ymwneud â chynlluniau tai yn cael eu rhannu’n rhagweithiol gydag Aelodau Etholedig ac yn gyhoeddus yn ôl yr angen
• Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer materion cyfathrebu cynlluniau tai yr Adran
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sion Elwyn Hughes ar 01286 679660
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 25/08/22
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £28,226 - £30,095
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!