Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Datblygu Asedau

Menter Iaith Conwy

💰 £29k 📍 Llanrwst Ar gau

Mae Menter Iaith Conwy yn edrych am Swyddog Datblygu Asedau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle i weithio gyda Menter Iaith Conwy a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg

Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?

Swyddog Datblygu Asedau (cyllidwyd gan Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru Cam 3, a weinyddwyd gan CGGC)

Dyma gyfle i weithio ar gynlluniau cyffroes ac arloesol sydd wedi cael eu datblygu gan Menter Iaith Conwy. Mae Menter Iaith Conwy yn rhan o 2 gynllun cyfalaf sydd angen eu datblygu. Bydd gwaith y swyddog yn cynnwys:

- Parhau efo gwaith ceisiadau ariannol

- Cydlynu’r gwaith datblygu efo adran Gynllunio Cyngor Conwy

- Mynd â’r gwaith i dendr a goruchwylio y cyfnod adeiladu.

- Gweinyddu y cyllid grant ac adrodd yn ôl i’r cyllidwyr.

- Penodi a gweithio efo arbenigwyr megis Maint Mesurydd (Quantity Surveyor), Penseiri lle mae angen.

- Adrodd yn ôl i Byrddau Menter Iaith Conwy a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg

Mae dwy wedd i’r cynllun ar hyn o bryd:

  1. Adeilad Menter Iaith Conwy. Er fod y ddau lawr cyntaf o hen adeilad y Banc wedi eu atgyweirio mae’n dal angen datblygu’r Hen Neuadd drawiadol sydd yn y to fel fod y bydd modd eto i’r cyhoedd ei defnyddio, gweler; (20+) Facebook
  2. Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg. Oherwydd poblogrwydd y Feithrinfa, mae angen mwy o le i ofalu am blant. Ar gyfer hyn, mae angen adeiladu estyniad.

Oriau: 37 awr yr wythnos Cyflog NJC 31 (2020) £28,785 a Phensiwn (Bydd hyn i’w drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Rydym yn agored i geisiadau i weithio yn hyblyg neu hefyd i ystyried ceisiadau gan weithwyr llawrydd.)

Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst

Am fanylion a disgrifiad swydd neu sgwrs anffurfiol cysylltwch efo [email protected]

Neu ewch i’r wefan

Dyddiad Cau 20/5/22. Cais drwy lythyr a CV.

Cyflog

💰 £28,785

Lleoliad

📍 Llanrwst

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau