Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwydd Gweinyddol (rhan amser)

Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig

💰 £11 yr awr 📍 Llanfair-ym-Muallt Ar gau

Mae Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yn edrych am Gynorthwydd Gweinyddol (rhan amser)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Teitl swydd

Cynorthwyydd Gweinyddol

Nod y swydd:

I ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol i Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig a’i aelodau

Adrodd i:

Ymddiriedolwyr Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig

Rheolwr Llinell:

Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig

Lleoliad

Bydd deilydd y swydd yn gweithio yn swyddfa Llanfair ym Muallt ond mae’n bosib bydd angen teithio i leoliadau eraill yn rhinwedd gwaith y Gymdeithas o bryd i’w gilydd

Prif ddyletswyddau

Dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr, ymgymryd ag ystod o dasgau gweinyddol i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon busnes dydd i ddydd y Gymdeithas

Gweinyddu proses tanysgrifio aelodaeth blynyddol y Gymdeithas, gan gynnwys danfon anfonebau, derbynebau, nodiadau atgoffa, prosesu gohiriadau a datrys unrhyw ymholiadau dilynol

Gweinyddu cofrestriadau gwartheg a chysylltu gydag asiantaethau perthnasol

Cynorthwyo gyda choladu gwybodaeth ar gyfer eu cynnwys yn amrywiol gyhoeddiadau y Gymdeithas, gan gynnwys yr Herd Book and Journal

Darparu gwybodaeth angenrheidiol i Arwerthwyr Gwerthiant a Gwasgariad Cynnal cofnodion papur a chyfrifiadurol ynghylch aelodau, cofrestriadau, gwerthiannau ac ati

Cynorthwyo gyda chyfrifoldebau eraill yn ystod absenoldeb staff

Unrhyw dasgau rhesymol eraill a roddir yn achlysurol

Priodoleddau ychwanegol

Gallu rheoli amser yn effeithiol

Dangos ymroddiad i gyfartaledd ac amrywedd

Mynychu hyfforddiant, cyfarfodydd y Gymdeithas a digwyddiadau tim yn ol yr angen

Yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ei hun

Manyleb Person

SGILIAU

Hanfodol

Profiad o weinyddiaeth swyddfa

Sgiliau llythrennedd a rhifedd addas

Sgiliau TG I lefel canolradd

Sgiliau cyfathrebu

Hunan-ysgogol

Gallu gweithio fel rhan o dim

Dymunol

Gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg

Gwybodaeth elfennol o faterion ffermio

Nid yw proffil y rol yn drwyadl; bydd yn cael ei adolygu yn gyfnodol a gellir ei addasu er mwyn cwrdd ag anghenion newidiol y Gymdeithas, ond bydd y dyletswyddau wastad yn gymesur a gradd cyflog a’r profiad sy’n ofynnol i’r rol.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Cyflog

💰 £11 yr awr

Lleoliad

📍 Llanfair-ym-Muallt

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau