Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd Cymraeg

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

💰 £27k - £28k 📍 Llanelwy Ar gau

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn edrych am Gyfieithydd Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae gennym gyfle cyffrous i Gyfieithydd Cymraeg ymuno â'n tîm - rydym yn chwilio am y person iawn a all ddefnyddio ei sgiliau ieithyddol a'i wybodaeth arbenigol am faterion Cymraeg i helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein hymrwymiadau dwyieithrwydd, yn ein cymunedau ac o fewn ein staff.

Mae ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn golygu mwy na thrin Saesneg a Chymraeg yn gyfartal yn unig. Mae achub bywyd a lleihau risg yn ganolog i’n gorchwyl fel gwasanaeth tan ac achub – ac mae’r iaith Gymraeg yn hanfodol i’n llwyddiant.

Gan weithio fel rhan o'r tîm Cyfathrebu Corfforaethol, bydd y Cyfieithydd Cymraeg yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg/Saesneg ysgrifenedig ar gyfer staff a chyhoeddiadau a chyfathrebiadau gwasanaeth tân ac achub i fodloni'r gofynion statudol a nodir yn safonau'r Gymraeg. Byddant hefyd yn darparu cyfieithu dogfennau ac adroddiadau, yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar yr un pryd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau eraill, yn unol â gofynion y Gwasanaeth.

A oes_ gennych yr arbenigedd i'n helpu i ddarparu'r gwasanaeth dwyieithog gorau posibl a sicrhau ein bod yn llwyddo i gyflawni ein hymrwymiad i'r Gymraeg?_

Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg rhugl, sydd wedi'i addysgu i lefel gradd mewn pwnc sy'n gysylltiedig â'r Iaith Gymraeg a chymhwyster cydnabyddedig mewn cyfieithu neu brofiad amlwg mewn sgiliau cyfieithu. Gyda sgiliau ysgrifennu a rhyngbersonol rhagorol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i gyfieithu, darllen a chywiro proflenni gan roi sylw craff i fanylion a chysondeb, wrth weithio i derfynau amser tynn.

Am ragor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys y disgrifiad swydd lawn a manyleb yr unigolyn, ewch i’r pecyn Gwybodaeth Recriwtio Cyfieithydd Cymraeg. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos, gyda thystiolaeth, yn erbyn y meini prawf hanfodol fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn er mwyn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Mae’r tîm fel arfer wedi eu lleoli yn Pencadlys y Gwasanaeth yn Llanelwy, ond rydym wedi cyflwyno polisi gweithio hyblyg i hyrwyddo gweithio rhithiol ac yn y cartref lle bo’n ymarferol.

Cyflog

💰 £26,975 - £28,226

Lleoliad

📍 Llanelwy

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau