Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol x3 (De Ynys Môn a Gogledd Gwynedd/ Gogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion/ Talaith y De Ddwyrain, lleoliad yn hyblyg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.

  • Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro (Oherwydd cyfyngiadau Covid19 mae rhain i gyd tu allan am y tro neu yn rhithiol)

  • Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.

  • Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.

  • Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin

  • Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.

  • Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.

  • Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.

  • Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.

  • Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.

  • Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.

  • Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

  • Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog

  • Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.

  • Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.

  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £19,138

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau