Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi Talaith y De Ddwyrain

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cefnogi Talaith y De Ddwyrain

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:   Cefnogaeth Gyffredinol

  • Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol Polisi Iaith Mudiad Meithrin

  • Cefnogi, cynghori a bugeilio darpariaethau gofal plant e.e. Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, a Meithrinfeydd Dydd trwy ymweliadau a chyswllt cyson.

  • Cynnig cefnogaeth busnes i Bwyllgorau Rheoli gwirfoddol (sef yr endidau sy’n rheoli cylchoedd meithrin gan amlaf) ar amryw o faterion e.e. materion ariannol/busnes, cynaliadwyedd, materion elusennol ac anwytho pwyllgorau, trwy dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin.

  • Datblygu ac ehangu gwasanaethau’r darpariaethau o fewn yr ardal.

  • Cynghori a chynnig arweiniad ar faterion rheoleiddio AGC gan sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau'r Arolygaeth

  • Cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon megis AGC, Estyn, yr Awdurdod Lleol, Dechrau’n Deg, Athrawon Ymgynghorol ac Adran Iechyd

  • Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau a data (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth, P1 ayyb

  • Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision gofal ac addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol e.e. taith plentyn o’r Cylch Ti a Fi i’r Cylch Meithrin ac yna i Addysg Gymraeg.

  • Cyfrannu at grwpiau Arbenigedd Mudiad Meithrin

  • Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e. hyfforddiant Academi, Mewnrwyd a gwefan, polisïau a gwasanaeth cyfieithu hyfforddiant Academi, gwasanaeth cyfieithu

  • Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus

  • Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, eisteddfodau a digwyddiadau perthnasol eraill o fewn y cymunedau yn ôl yr angen

  • Mynychu cyfarfodydd tîm taleithiol yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn 

  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Dyddiad Cyfweliadau: 9.6.2022 dros Teams

Cyflog

💰 £21,453 - £25,017

Lleoliad

📍 Caerffili

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau