Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Cymraeg Gwaith

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £30k - £33k 📍 Y Barri Ar gau

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn edrych am Gydlynydd Cymraeg Gwaith

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd gyffrous newydd, Cydlynydd Cymraeg Gwaith. Bydd y swydd hon yn galluogi i’r Cyngor fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Grant Cymraeg Gwaith gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Lleolir y rôl o fewn i dîm Dysgu Cymraeg y Fro, rhan o ddarpariaeth Addysg Gymunedol Oedolion y Gyfadran Dysgu a Sgiliau. Bydd y cydlynydd newydd yn gweithio gyda staff y Cyngor ym mhob adran ac ar bob lefel, i sefydlu ac addysgu cyrsiau Cymraeg a chyfleoedd atodol i ddysgu. Mae adnabod anghenion dysgu, annog, trefnu, addysgu a mentora i gyd yn rhannau allweddol o’r rôl, ac o’r herwydd rydym yn chwilio am gyfathrebwr gwych gyda sgiliau rhwydweithio da.

Oriau/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos (Llawn amser)

Prif leoliad gwaith: Canolfan Ddysgu Cymunedol Palmerston, y Barri

Rheswm y mae dros dro: Ariennir y swydd am 12 mis yn y lle cyntaf. Mae’r posibiliad o adnewyddu ar ddiwedd y cyfnod yn ddibynnol ar gynnig grant pellach.

Bydd y Cydlynydd Cymraeg Gwaith yn:

  • Cynllunio, trefnu ac addysgu cyrsiau Cymraeg i staff

  • Cyflawni dyletswyddau a thargedau cytundeb Cymraeg Gwaith gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

  • Monitro mynychder, cadw cofnodion cywir am ddysgwyr, a mynd i’r afael ag unrhyw absenoldeb.

  • Paratoi adroddiadau a mynychu cyfarfodydd monitro.

  • Chwarae rhan allweddol mewn datblygu partneriaeth dda rhwng Dysgu Cymraeg y Fro, Tîm Cydraddoldeb y Cyngor, uwch-swyddogion sy’n gyfrifol am y Gymraeg, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Am Wybodaeth Bellach, Cysylltwch â: Mared Whelan: [email protected] 

Cyflog

💰 £30,364 - £33,039

Lleoliad

📍 Y Barri

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau