Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau

💰 £16,380 📍 Betws y Coed Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych yn unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio mewn cymunedau Cymreig? A hoffech chwarae rôl allweddol yn datblygu dyfodol newydd a chyffrous ar gyfer Tŷ Mawr? Os ydych, hoffem glywed gennych. Helpwch ni i roi Tŷ Mawr Wybrnant a gwaddol cyfieithiad yr Esgob William Morgan o’r Beibl yn ôl yn gadarn ar fap treftadaeth Cymru yn dilyn cyfnod o fod wedi cau oherwydd y pandemig. Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid a’r gymuned i archwilio opsiynau o ran beth yw’r ffordd orau i ni ddefnyddio ac ymgysylltu â’r lleoliad arbennig hwn wrth symud ymlaen. Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain y gwaith hwn fel bod gennym y model cywir a’r cymorth cymunedol ar waith er mwyn iddo ffynnu. 

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV os gwelwch yn dda. Rydym yn chwilio am isafswm o lefel 3 Gwrando a Deall a Siarad. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais a bydd cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.  

Rydym yn croesawu ymgeiswyr mewnol sy’n edrych am ddatblygiad gyrfaol.  

Cyfweliadau: 31 Mai. 

Mae hwn yn gontract rhan amser cyfnod penodol sy’n golygu gweithio tri diwrnod yr wythnos hyd at ddiwedd Tachwedd 2023. Gall patrymau gwaith gael eu trafod ond bydd yn cynnwys gweithio ar benwythnos a gwyliau’r banc yn achlysurol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: [email protected]

Sut beth yw gweithio yma

Mae Tŷ Mawr yn ffermdy traddodiadol o’r 16eg ganrif sydd wedi’i leoli yng nghwm Wybrnant ger Penmachno. Yma y ganed yr Esgob William Morgan, ac ef oedd y cyntaf i gyfieithu’r Beibl cyfan i'r Gymraeg, ac i raddau helaeth mae ei rôl yn cael ei hystyried yn allweddol i sicrhau parhad yr iaith. Rydym hefyd yn gofalu am gasgliad anhygoel o dros 200 o Feiblau gan gynnwys un o gyfieithiadau gwreiddiol 1588 a chopïau mewn nifer o ieithoedd ar draws y byd.  

Byddwch wedi’ch lleoli yn Nhŷ Mawr yn rheolaidd a byddwch hefyd yn gallu gweithio o’n swyddfa lawr y ffordd yn ein Swyddfa Ystad Dinas. Bydd eich cyrhaeddiad yn ymestyn drwy ddyffryn Conwy, gan weithio’n rheolaidd gyda chymunedau yn lleoliadau fel Pentrefoelas, Penmachno, Llanrwst a Chonwy. Mae hon yn ardal wledig sy’n gyfoethog o ran traddodiadau, a’r Gymraeg yn iaith bob dydd i’r mwyafrif. Mae balchder amlwg ymysg y cymunedau oherwydd arwyddocâd diwylliannol Tŷ Mawr ac rydym yn ymrwymedig i ddathlu ei stori arbennig am genedlaethau i ddod.

Beth y byddwch yn ei wneud 

Yn rhan allweddol o dîm ehangach sy’n awyddus i ddatblygu Tŷ Mawr Wybrnant, bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar feithrin perthynas â’r gymuned leol, sefydliadau partner ac unigolion sy’n awyddus i chwarae rhan yn nyfodol Tŷ Mawr. Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid presennol a newydd, byddwch yn gyfrifol am drefnu, hwyluso a darparu ystod o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â straeon Tŷ Mawr a’r Beibl. Gall hyn fod ar ffurfiau amrywiol e.e. diwrnodau agored, gweithdai, pererindodau, ymweliadau addysgol, gweithgareddau allgymorth o fewn cymunedau a chynnwys ar-lein. Eich gwaith chi fydd meddwl am syniadau creadigol sy’n ein galluogi i ymgysylltu pobl o bob cwr o Gymru - a'r byd - gyda’r lleoliad arbennig hwn a’r casgliad beiblaidd rhyfeddol sydd dan ein gofal.   

Byddwch yn profi ac yn gwerthuso gweithgareddau ymgysylltu amrywiol ac yn gweithio i ddeall yn llawn sut yr hoffai ein cefnogwyr a’n partneriaid weld Tŷ Mawr yn gweithredu yn y dyfodol. Bydd y gwaith yn llywio ein cynllun ar gyfer y dyfodol o ran sut fydd pobl yn ymgysylltu â Thŷ Mawr o 2024 ymlaen.

Am bwy ydym yn chwilio 

Unigolyn egnïol a hyblyg i ddatblygu amrywiaeth o bartneriaethau a phrofiadau, ar y safle ac oddi ar y safle, a fydd yn arwain at ddyfodol disglair a chyffrous i Dŷ Mawr. 

Os ydych chi'n bodloni'r canlynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych: 

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg 

  • Sgiliau pobl da, sy'n galluogi perthnasoedd gweithio da yn fewnol ac yn allanol 

  • Profiad o weithio o fewn cymunedau Cymreig 

  • Diddordeb mewn hanes Cymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, gan gynnwys arwyddocâd Tŷ Mawr Wybrnant 

  • Profiad o gyfleu syniadau creadigol yn effeithiol i ystod o randeiliaid gyda’r gallu i addasu cynlluniau ar gyfer anghenion partneriaid, aelodau tîm a chynulleidfaoedd 

  • Profiad o fagu, cynnal a datblygu partneriaethau er mwyn cynnig cyfleoedd ymgysylltu i ymwelwyr, gwirfoddolwyr neu gyfranogwyr cymunedol 

  • Dealltwriaeth am yr hyn sy’n gwneud profiad da i ymwelwyr

  • Profiad o gyflwyno rhaglenni ymwelwyr a/neu weithio gyda chymuned neu bartneriaid masnachol i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau, yn ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd y sector treftadaeth, ac ar eu cyfer 

  • Diddordeb mewn cadwraeth adeiladau neu gasgliadau

Y pecyn

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

  • Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd

  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

  • Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cyflog

💰 £16,380

Lleoliad

📍 Betws y Coed

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £52,303 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21,460 – £30,023 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn ddibynol ar sgiliau yr ymgeisydd 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £25,000 - £27,000 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caerffili Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25,860 - £29,430 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £20,852 - £22,129 📍 Bae Colwyn Ar gau

💰 £29,174 - £30,984 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37,474 – £43,414 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Cwmbrân Ar gau

💰 £42,828 - £47,483 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau