Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Aelod tîm, Rheoli Cwsmeriaid

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych am Aelod tîm, Rheoli Cwsmeriaid

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Buddion:

Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, 28 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 33 diwrnod dros 5 mlynedd, opsiynau gweithio hyblyg, iechyd galwedigaethol gan gynnwys gwasanaethau cwnsela a chynghori a gofal llygaid, talebau gofal plant a chynlluniau aberthu cyflog.

Diben y Rôl

Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio fel Uwch Gynghorydd o fewn Hwb Cwsmeriaid CNC. Byddwch yn gweithredu fel arbenigwr mewn swyddogaeth benodol, a fydd yn cynnwys naill ai ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Cwynion neu geisiadau cymhleth am wybodaeth gan gwsmeriaid, gan weithredu fel cyswllt a chynghori’r busnes i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn darparu gwasanaeth cwsmer o’r radd flaenaf. Byddwch hefyd yn cefnogi datblygiad yr Hwb Cwsmeriaid ac yn bod yn rhagweithiol wrth gynghori gweddill y busnes i sicrhau’r lefel uchaf o wasanaeth cwsmer ar draws y sefydliad.

Cymwysterau a Sgiliau

  1. Sgiliau gofal cwsmer ardderchog ynghyd â'r cymhelliant i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n holl gwsmeriaid.
  2. Gwybodaeth drylwyr o'r sefydliad a'r gallu i ddylanwadu a chyfarwyddo ar draws holl lefelau'r sefydliad.
  3. Gwybodaeth drylwyr a gorau oll os oes gennych gymhwyster cydnabyddedig yn gysylltiedig â'ch maes gwaith arbenigol.
  4. Gwybodaeth ymarferol ardderchog o ddeddfwriaethau amrywiol yr ydym wedi ein cyfyngu ganddynt a pholisi cwynion a chanmoliaeth a pholisi taliadau a thrwyddedu data CNC, ynghyd â'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a datblygu polisïau. 
  5. Sgiliau trefnu cadarn ynghyd â'r gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun a monitro llwyth gwaith eraill, gweithio yn ôl amserlenni caeth, ac addasu i flaenoriaethau sy'n newid yn ôl yr angen.
  6. Profiad o ddatblygu cydberthnasau gwaith cadarn gyda chydweithwyr mewnol, gan gyfathrebu syniadau yn glir ac mewn ffordd sy'n llawn perswâd, ynghyd â'r gallu i gyflwyno dadleuon grymus i drafod a dylanwadu ar ganlyniadau boddhaol.
  7. Lefel uchel o greadigrwydd ac arloesedd ynghyd â'r gallu i weithio'n rhagweithiol gydag arweinwyr maes busnes i wella'r wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

Cyflog

💰 £31,490

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Senedd Cymru

💰 £55k - £66k 📍 Hyblyg Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +3 Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Yr Wyddgrug Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Bae Colwyn Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Hyblyg📍 Caerfyrddin +3 Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 Hyblyg Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £31k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 £30k - £38k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30k 📍 Bae Colwyn📍 Bae Caerdydd +1 Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £27k 📍 Bangor Ar gau

Y Lolfa Cyf

💰 I'w drafod 📍 Talybont Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £22k pro rata 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25k - £27k 📍 Ynys Môn Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28k - £31k 📍 Hyblyg📍 Gwynedd +1 Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £40k - £44k 📍 Hyblyg📍 Dinbych +3 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £32k 📍 Y Bala📍 Dinbych +2 Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £42k 📍 O fewn a thu allan i Geredigion Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £40k - £44k 📍 Hyblyg📍 Penygroes +2 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £37k - £46k pro rata 📍 Llangefni📍 Aberystwyth +2 Ar gau