Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Cynhyrchu / PA

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Mae Tinopolis yn edrych am Gynorthwyydd Cynhyrchu / PA

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ry’ ni’n chwilio am PA profiadol neu dan hyfforddiant i ymuno â Tinopolis, i weithio fel aelod o’r tîm cynhyrchu ar raglenni S4C gan gynnwys yn benodol Heno a Prynhawn Da.

Byddwch yn gyfrifol am ddyletswyddau PA galeri yn ogystal â chreu, casglu a chwblhau’r holl ddeunydd gweinyddol angenrheidiol mewn perthynas â’r rhaglenni.

Sgiliau hanfodol:- Gan mai swydd PA profiadol neu dan hyfforddiant sy’ dan sylw, ry’ ni’n agored i ystyried amrywiaeth o sgiliau. Gan fod y swydd yn rhan anatod o’r tîm cynhyrchu, bydd dealltwriaeth o’r rhaglenni a diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru o fantais.

Oherwydd gofynion y rôl hon mae'r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 23 Mai 2022

Manylion Pellach

Oriau gwaith: cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

**Ceisiadau **

Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar 23 Mai 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.

Eraill:-

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU neu’r UE. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

Cyflog

💰 Dibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Llanelli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £21k 📍 Sir Benfro Ar gau

💰 £32k - £39k 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

💰 £32k - £36k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £53k - £64k 📍 Cyffordd Llandudno📍 Merthyr +2 Ar gau

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £35k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £20k - £22k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Amrywiol Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Hybrid📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Porthaethwy📍 Llangefni Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £21k - £22k 📍 Aberdyfi📍 Hybrid Ar gau

💰 £55k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth 📍 Amrywiol Ar gau