Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynhyrchydd Cynorthwyol / Cynhyrchydd Iau

ITV Cymru Wales

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Gynhyrchydd Gynorthwyol / Gynhyrchydd Iau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gan weithio ar gyfres ffeithiol newydd sbon i S4C, mae hwn yn gyfle cyffrous i wneuthurwr rhaglenni uchelgeisiol ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu yn ITV Cymru Wales.

Rydym yn chwilio am gynhyrchydd cynorthwyol profiadol neu gynhyrchydd iau gyda phrofiad blaenorol o gynhyrchu rhaglenni dogfen neu faterion cyfoes i ymuno â'n tîm.

Bydd gennych farn olygyddol gadarn, dawn greadigol i adrodd straeon ac angerdd am werthoedd cynhyrchu uchel. Byddwch yn hunan saethwr hyderus gyda phrofiad ffilmio blaenorol ar gynyrchiadau, gyda'r gallu i gyfarwyddo cyfranwyr ar leoliad yn ogystal â chriwiau camera a sain. Gan weithio gyda’r Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr, bydd disgwyl i chi ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus gyda sefydliadau a chyfranwyr amrywiol. Byddwch yn chwarae rhan fawr mewn cyfarfodydd cynllunio a chynnwys a bydd disgwyl i chi drefnu'r rhan fwyaf o'r ffilmio ar gyfer y gyfres. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r golygydd ac yn cyfrannu at siapio'r gyfres, yn cynorthwyo’r golygu a’r ôl-gynhyrchu.

Gellid gofyn i chi hefyd gynhyrchu cynnwys arall o fewn tîm Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales.

Meini Prawf Lleiaf -

  • Profiad o gynhyrchu ffeithiol gydag agwedd greadigol at adrodd straeon, triniaethau a chynhyrchu.

  • Sgiliau ffilmio hunan saethu cryf

  • Profiad o systemau golygu/llwytho gyda'r gallu i gynorthwyo cynyrchiadau gyda rhagolygu cynnwys.

  • Cyfathrebwr gwych gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus.

  • Siaradwr Cymraeg rhugl

_ Meini prawf allweddol -_

  • Barn olygyddol gadarn gyda gwybodaeth ymarferol drylwyr o faterion Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol.

  • Sgiliau trefnu gwych gyda hanes profedig o ddatrys problemau o fewn cynyrchiadau.

  • Mae gweithio i derfynau amser yn hanfodol, ac mae hanes profedig o weithio dan bwysau yn allweddol.

Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau