Cydlynydd Addysg Gymunedol
Mae Y Groes Goch Brydeinig yn edrych am Gydlynydd Addysg Gymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Addysg Gymunedol i ymuno â’n tîm yn Y Groes Goch Brydeinig. Mae angen Addysgwr brwd arnom sydd eisiau cefnogi ei gymunedau a’u galluogi i feithrin y sgiliau hanfodol drwy ddarparu addysg ddyngarol, wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, a thrwy ddatblygu a rheoli tîm o wirfoddolwyr ledled Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos.
Byddwch chi’n rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau a gwirfoddolwyr yn yr ardal er mwyn cynyddu ôl troed daearyddol a chapasiti’r Groes Goch Brydeinig mewn cymunedau.
Byddwch chi’n atebol i’r Rheolwr Addysg Gymunedol, yn rheoli cysylltiadau a phartneriaethau cymunedol allanol ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu partneriaethau a phrosiectau a gaiff eu hariannu’n allanol.
Byddwch chi hefyd yn atebol am bob agwedd ar y ddarpariaeth dysgu cyfunol ar gyfer Addysg Gymunedol yn eich ardal a byddwch yn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn gyson ac yn cyrraedd y safon ansawdd briodol.
Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith wirioneddol, drwy ddarparu dysgu wedi’i hwyluso i oedolion a phobl ifanc. Byddwch chi’n ein helpu i baratoi miloedd o bobl yn well ar gyfer ymdopi a chymryd camau os bydd argyfwng.
Cofiwch, er mai 9am i 5pm yw’r oriau craidd ar gyfer y swydd hon, 5 diwrnod yr wythnos, bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i weithio gyda’r nos ac ar y penwythnos o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen.
GAIR AM Y TÎM...
Ein gweledigaeth yw byd lle mae pawb yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw mewn argyfwng.
Mae ein darpariaeth addysg wedi cael ei datblygu ar gyfer y rheini sydd â risg uwch o brofi argyfwng. Rydym ni wedi dylunio ein gwasanaeth i ddatblygu gwytnwch unigolion a chymunedau; gan feithrin sgiliau hanfodol sy’n helpu pobl i ymdopi’n effeithiol ag argyfwng a chymryd camau mewn argyfwng.
Rydym ni am i bawb yn y DU gael y cyfle i ddysgu cymorth cyntaf/addysg, ac rydym ni am i grwpiau risg a nodir feddu ar y sgiliau a’r hyder i allu ymdopi mewn argyfwng, er mwyn iddyn nhw allu helpu eu hunain ac eraill.
GALLAI'R RÔL YMA FOD YN ADDAS I CHI OS...
Mae gennych chi gymhwyster addysg, hyfforddiant neu hwyluso cydnabyddedig (neu gymhwyster cyfatebol drwy brofiad) a sgiliau hyfforddi ac ysgogi rhagorol.
Mae gennych chi brofiad o recriwtio, dewis, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr.
Mae gennych chi brofiad o ddysgu wedi’i hwyluso ac addasu cynnwys dysgu sydd wedi’i gymeradwyo’n genedlaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd un cwestiwn yn cael ei ofyn yn Gymraeg.
(Darllenwch y Proffil Rôl/Disgrifiad Swydd llawn i gael rhagor o wybodaeth am y swydd wag hon gan gynnwys cyfrifoldebau a manyleb lawn y person. Cyfeiriwch at y ‘Gwybodaeth Ychwanegol’ sydd ynghlwm i gael cymorth i lenwi’ch cais)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59 ddydd Llun 21 Chwefror 2022 a chynhelir cyfweliadau.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff, gan gynnwys:
- 36 diwrnod o wyliau (gan gynnwys Gwyliau Banc) - pro rata ar gyfer swyddi tymor penodol
- Y dewis i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddo
- Hyd at 6% o bensiwn cyfrannol
- Polisi gweithio’n hyblyg
- Buddsoddiad gwirioneddol yn eich hyfforddiant a’ch datblygiad personol
Cyflog
💰 £20,501 - £22,429
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Diogelwch a Cynnal a Chadw Adeiladau
Mae Adra yn edrych am Swyddog Diogelwch a Cynnal a Chadw Adeiladau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Fel Swyddog Diogelwch a Chynnal a Chadw Adeiladau, byddwch yn ymuno â'r Tîm Cyfleusterau a Chylchol, o fewn adran Monitro ac Adolygu'r Gwasanaeth Asedau a Buddsoddiadau i sicrhau bod Cyfleusterau Adra, ardaloedd cymunedol o fewn blociau o fflatiau (wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ac wedi'u trosi) a modurdai. yn cael eu cynnal, yn cael buddsoddiad lle bo angen ac yn bodloni’r safonau diogelwch gofynnol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 07/07/22
Cyflog
💰 £25,641 - £28,250
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyllid
Mae Adra yn edrych am Bennaeth Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Ein bod bob amser un cam ar y blaen, ac yn cynnal y safonau uchaf o ran gonestrwydd ariannol - sicrhau ein bod yn ennyn hyder ein rheoleiddwyr, archwilwyr, cyllidwyr, aelodau bwrdd a’r cyhoedd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 07/07/22
Cyflog
💰 £54,782 - £57,899
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau
Mae Senedd Cymru yn edrych am Bennaeth Cyswllt â’r Aelodau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am arweinydd cryf sy’n gallu ysgogi ei hun ac sy’n rhoi pwyslais cryf ar wasanaethau cwsmeriaid, sy’n barod i gymryd y camau cyntaf i ddatrys problemau, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae pawb yn gweithio dan gryn bwysau.
Byddwch yn arwain y tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu berthnasol ac amserol, o safon uchel, a’i chyflwyno i’r Aelodau a’u staff. Mae'r tîm yn rheoli'r gyllideb ac yn datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu hyfforddiant ledled Cymru sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith yr Aelodau. Mae hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd yr Aelodau ac arolwg bodlonrwydd yr Aelodau.
Gan ddefnyddio ffyrdd cynhyrchiol o ymgysylltu â’r Aelodau i gasglu adborth er mwyn nodi a deall anghenion yr Aelodau, byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i wneud penderfyniadau effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau gan godi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth o'r anghenion hynny.
Bydd angen ichi ddangos barn sicr ac ennyn ymddiriedaeth a hyder yr Aelodau a chydweithwyr ac ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol. Bydd angen ichi ddatblygu a meithrin perthynas ag eraill, cael pobl i ddeall safbwyntiau pobl eraill, a deall rôl y Senedd a’r Comisiwn.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn gallu cynhyrchu gwybodaeth sy’n glir a chywir, a chynnig cyngor diduedd, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid ichi fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser.
Yn fwy cyffredinol, bydd angen ichi ddangos ymrwymiad personol i werthoedd Comisiwn y Senedd, gan arwain newid i hybu amcanion strategol Comisiwn y Senedd.
Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.
Cyflog
💰 £55,240 - £66,234
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –
cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon
hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon
cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol
Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Mae GwE yn edrych am Gymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm i ddarparu cymorth gweinyddol o safon uchel o fewn GwE a bydd yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei amcanion a’i nod.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044 neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 GS3
Lleoliad
📍 Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Mae GwE yn edrych am Gymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm i ddarparu cymorth gweinyddol o safon uchel o fewn GwE a bydd yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei amcanion a’i nod.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 GS3
Lleoliad
📍 Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Pynciol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Pynciol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau datblygu prosiectau sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-16?
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau sy’n cyflawni nod Cynllun Academaidd Addysg Uwch newydd y Coleg o roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo prosiectau a gweithgareddau boed y rheiny’n fodiwlau neu ddigwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyllid
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna'r Coleg benodi Rheolwr Cyllid, sef rôl newydd a chyffrous i reolwr sydd â phrofiad ym maes cyllid i sicrhau bod yna arweiniad clir a rheolaeth arbenigol wrth ymwneud â holl brosesau cyllid y Coleg. Derbynia’r Coleg Cymraeg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn profiadol sydd wedi bod yn gwaith ym maes cyllid i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiad helaeth i arwain a grymuso ein gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Byddwch chi’n arwain ac yn llywio holl brosesau cyllid y Coleg ac yn darparu gwybodaeth a chyngor i reolwyr y Coleg ar holl faterion cyllid, archwilwyr allanol a’r weithdrefn gaffael.
Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yna gofodau swyddfa briodol ar gyfer staff y Coleg ar draws 4 lleoliad ac yn gyfrifol am reoli tîm Gwasanaethau Gwybodaeth y Coleg ac yn rheolwr llinell i’r Uwch Swyddog Cyllid. Yn rhan o dîm o reolwyr uchelgeisiol, blaengar a chydweithredol byddwch yn darparu sgiliau, gwybodaeth a chyngor arbenigol ar holl faterion ariannol y Coleg i’r cyfnod nesaf a thu hwnt.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd.
Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru.
Cyflog
💰 £19,138
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyfadran y Gymraeg
Mae Ysgol Brynhyfryd yn edrych am Bennaeth Cyfadran y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Pennaeth Cyfadran Y Gymraeg a Ieithoedd Modern. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol ddynamig lle mae arweinyddiaeth ysbrydoledig a gwaith caled ar draws yr ysgol wedi trawsnewid ei pherfformiad yn erbyn pob un o’r mesuriadau perfformiad. Yn gyson, mae canlyniadau’r ysgol ymysg canlyniadau gorau Gogledd Cymru.
Cyflog
💰 PRC/ URC CAD1b
Lleoliad
📍 Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyfrannu at gynlluniau cyfryngau a ddatblygwyd gan yr Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ac yn helpu i gyflawni elfennau allweddol y strategaeth gyfathrebu.
Byddwch yn darparu dull ymatebol iawn o drin y cyfryngau ac yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio a chreu straeon a datblygu cynnwys o safon gan ddefnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol.
Byddwch yn rheoli anghenion gwybodaeth gyhoeddus, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ysgrifennu copi y Brifysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio yn y Gymraeg i safon uchel.
Beth rydym yn chwilio amdano
Cynorthwyo'r Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus i gyflwyno ymgyrchoedd cyfryngau cenedlaethol a lleol sy'n deilwng o newyddion, wedi'u teilwra, i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol.
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau gan y cyfryngau, delio ag ymholiadau'r wasg, a dod o hyd i arbenigwyr ar gyfer sylwadau yn y cyfryngau.
Drafftio datganiadau i'r wasg ansawdd o fewn protocolau y cytunwyd arnynt. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar bob lefel o bob rhan o'r Brifysgol i gasglu gwybodaeth a chael cymeradwyaeth.
Cymryd cyfrifoldeb am negeseuon corfforaethol ar gyfryngau cymdeithasol ar draws pob platfform, monitro proffiliau allanol a diogelu enw da'r Brifysgol.
Darparu'r cynnwys diweddaraf i holl grynhowyr tablau Cynghrair gan gysylltu ag adrannau mewnol. Mae hyn yn cynnwys cofnodion ar Wicipedia a phyrth tebyg eraill i sicrhau bod gwybodaeth gorfforaethol yn gywir.
Cefnogi academyddion ar sut y gallant hyrwyddo eu hymchwil/gwaith a chodi eu proffil yn y cyfryngau.
Sefydlu cyfweliadau cyfryngau ar gyfer staff, gan ddarparu sesiynau briffio llawn a phresenoldeb yn ôl yr angen.
Cysylltu â staff ar draws Met Caerdydd i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu pwysig.
Gweithio gydag uwch gydweithwyr i ymchwilio ac ysgrifennu deunydd ar gyfer cyhoeddiadau corfforaethol y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cydlynu'r holl gynnwys (gan gynnwys dwyieithog), prawfddarllen a goruchwylio ansawdd cyhoeddiadau lle bo hynny'n briodol.
Meintioli effaith gweithgarwch cyfathrebu Met Caerdydd drwy gasglu gwybodaeth gan y darparwyr cyfathrebu allanol sy'n gwerthuso cysylltiadau cyhoeddus ac adrodd ar y canlyniadau i'r tîm Rheoli.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu (Mewnol) yn cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu i gydlynu â chydweithwyr ar draws Met Caerdydd i ddarparu dulliau cyfathrebu mewnol amserol, clir ac effeithiol.
Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn ymdrin ag ymholiadau cyfathrebu mewnol ac yn helpu i gynghori ar y dull gorau o gyrraedd cynulleidfaoedd, monitro, diweddaru a gwella sianeli cyfathrebu mewnol yn rheolaidd a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth gyfathrebu integredig yn llwyddiannus.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiynol (pro rata os yn rhan-amser).
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal.
Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.
Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Rheolwr Cyfathrebu, trwy e-bostio [email protected].
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Cyflog
💰 £31,406 - £34,304
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Adnoddau Dynol
Mae S4C yn edrych am Reolwr Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt. Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a’r tîm. Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth Adnoddau Dynol.
Os hoffech sgwrs am y rôl, plîs cysylltwch â [email protected] sef Pennaeth Adnoddau Dynol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid hefyd.
Cyflog: £30,000 - £38,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i [email protected] neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 30 Mehefin 2022.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 £30,000 - £38,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
CYNLLUN YFORY 2022 - Cynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hon.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae’r maes trafnidiaeth yn mynd trwy gyfnod o newid mawr. Yr argyfwng hinsawdd yw un o broblemau diffiniol mwyaf ein hoes. Mae lleihau llygredd carbon yn y maes trafnidiaeth yn rhan bwysig i sicrhau bod Gwynedd yn ceisio cyrraedd y nod o garbon sero-net erbyn 2050. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni addasu'r ffordd rydym yn teithio. Golygai hyn fod angen i’r gwasanaeth ymrwymo i edrych ar nifer o wahanol gynlluniau a byddai modd i drigolion Wynedd ddewis dull mwy cynaliadwy o deithio.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd fyddai’n gallu helpu’r gwasanaeth i wella’r isadeiledd trafnidiaeth a byddai’n helpu pobl Gwynedd i leihau eu hôl troed carbon.
Mi fydd yr hyfforddai Proffesiynol yn rhoi sylw penodol ar wella ein rhwydwaith llwybrau cerdded a beicio, cyflwyno mannau gwefru yn ogystal â gwelliannau i’r isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus. Ar rhai adegau, mi fydd angen helpu’r gwasanaeth yn yr uned traffig.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Dysgu Cymraeg
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Canlyniad partneriaeth newydd rhwng y Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yw’r swydd hon gyda nawdd ychwanegol o’r Ganolfan trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Ei bwriad yw i greu, cynnal a chydlynu gwasanaeth newydd ‘Cymraeg Gwaith’ ar gyfer y sector gelfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn darparu cyfleoedd i staff y cyngor, artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol i ddatblygu a thyfu eu sgiliau a hyder yn y Gymraeg trwy ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg perthnasol, cydlynu cyfleoedd i fagu hyder yn eu Cymraeg a chreu adnoddau dysgu Cymraeg perthnasol i’r maes celfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn ymateb i argymhellion ymchwil ‘Llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau’ gan ganolbwyntio ar anghenion artistiaid, mudiadau a chanolfannau celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Amdanoch chi
Bydd gofyn defnyddio gwybodaeth a phrofiad dysgu Cymraeg wrth ymateb i ofynion o fewn y sector. Bydd profiad neu sgiliau creadigol yn fanteisiol i’r swydd am y bydd angen ymateb yn greadigol i heriau a chreu dulliau dysgu perthnasol i’r sector.
Bydd gennych ddealltwriaeth am y maes dysgu Cymraeg a chodi hyder yn y defnydd o’r Gymraeg, dealltwriaeth am sector y celfyddydau a sector y Gymraeg yng Nghymru a sut maent yn gweithredu, profiad o weithio gydag amryw bartneriaid ac unigolion, a’r gallu i ysbrydoli pobl i gofleidio'r Gymraeg. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn gofynion y rôl.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd dan Hyfforddiant
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gyfieithydd dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd llawn amser dan hyfforddiant am gyfnod penodol hyd at 31 Awst 2024 yw hon.
Dyma gyfle rhagorol i ymuno â thîm cyfieithu Prifysgol Bangor er mwyn dysgu’r sgiliau sy’n hanfodol eu cael fel cyfieithydd a chyfieithydd ar y pryd. Yn yr ail flwyddyn bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn paratoi i sefyll arholiadau aelodaeth Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Ar ddiwedd y cyfnod penodol, y gobaith yw y bydd cyfle i’r sawl a benodir ymgeisio am swydd lawn amser fel cyfieithydd ar raddfa 7.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel Cyfieithydd Dan Hyfforddiant yn ymgymryd â gwaith cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn holl adrannau academaidd a gweinyddol y Brifysgol. Fel Cyfieithydd Dan Hyfforddiant yng Nghanolfan Bedwyr byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gryfhau a datblygu safle Prifysgol Bangor fel sefydliad dwyieithog a hefyd fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran gweinyddiaeth a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd neu bron â chwblhau, cefndir academaidd a sgiliau iaith rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y sawl a benodir yn cael ei hyfforddi i fedru gweithio’n annibynnol ac o dan bwysau fel cyfieithydd, ond hefyd fel aelod o dîm. Bydd hefyd yn cael ei hyfforddi i drin cyfrifiadur yn fedrus a defnyddio cymhorthion cyfieithu cyfrifiadurol.
Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau yn ei swydd ar 5 Medi 2022 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny. Bydd yn atebol i’r Pennaeth Cyfieithu.
Mae manylion pellach a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio i’w gweld ar wefan ‘Cyfleoedd’ Prifysgol Bangor (http://jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy).
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu ag Ifan Prys, Pennaeth Cyfieithu ([email protected])
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £27,116
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwd, effeithiol a chreadigol i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r wasg a’i chyhoeddiadau yn y cyfryngau print, radio, teledu ac ar-lein. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis. Mae’n swydd amrywiol, diddorol a heriol fydd yn cynnig profiad unigryw o weithio mewn maes sy’n tyfu ac yn newid yn gyflym. Rhoddir hyfforddiant yn ôl y galw.
Disgrifiad:
- Datblygu a gweithredu cynlluniau marchnata ar gyfer llyfrau Cymraeg a Saesneg. Bydd angen trafod â golygyddion Y Lolfa, awduron y cyfrolau, Adran Farchnata Cyngor Llyfrau Cymru ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.
- Datblygu a diweddaru gwefan Y Lolfa a gofalu am gyfrifon cymdeithasol y cwmni sy’n cynnwys Twitter,_ Facebook_, Instagram ac YouTube. Edrych i’r posibilrwydd o ddatblygu presenoldeb y cwmni ar Tiktok.
- Cynorthwyo gyda threfniadau lansiadau a sesiynau arwyddo a chydgysylltu gyda threfnwyr digwyddiadau eraill fel gwyliau llyfrau, ffeiriau ac ysgolion. Mynychu’r digwyddiadau yma a chadw trefn ar unrhyw daliadau.
- Cydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau a dosbarthwyr a chyfanwerthwyr eraill i sicrhau fod y llyfrau ar werth yn eang a bod deunydd hyrwyddo yn y siopau. Paratoi dalennau gwybodaeth o flaen llaw, bwydo gwybodaeth i Gwales a mynychu Cynhadledd Werthu’r Cyngor Llyfrau.
- Gweithio yn stondinau’r Lolfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, hefyd mynychu digwyddiadau gwerthu eraill, yn cynnwys ffeiriau llyfrau pan fo galw.
- Danfon datganiadau i’r wasg a chopïau adolygu i unigolion perthnasol yn y cyfryngau.
- Danfon cylchlythyron digidol i gwsmeriaid y cwmni.
- Archebu a pharatoi hysbysebion digidol a phrint.
- Dylunio a dosbarthu posteri a gwahoddiadau syml. Bydd Y Lolfa yn cynnig hyfforddiant.
- Cynnig syniadau ar sut i farchnata ein llyfrau yn fwy effeithiol gan fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau technolegol diweddaraf.
- Ymgymryd â gwaith gweinyddol a phrosesu data ynghlwm â marchnata llyfrau’r Lolfa.
- Fel â phob swydd yn Y Lolfa, rhaid bod yn barod i ymgymryd â gwaith mewn adrannau eraill yn ôl y gofyn.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Talybont
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cynllun Hafod y Gest
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Reolwr Cynllun Hafod y Gest
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ein Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Hafod y Gest, Porthmadog?
Disgrifiad:
- Darparu cefnogaeth briodol i drigolion i’w galluogi i gynnal eu tenantiaeth yn llwyddiannus ac i fyw mor annibynnol â phosib. Llunio a diweddaru asesiad o anghenion yr unigolyn, datblygu Cynllun Cefnogaeth Unigol ac asesiadau risg. Bydd y gefnogaeth yn cyd-fynd â deilliannau rhaglen Cefnogi Pobl, sef cefnogi unigolion i:-
- Deimlo’n ddiogel
- Cyfrannu at ddiogelwch a lles eu hunain ac eraill
- Rheoli llety
- Ysgogi perthynas iach
- Teimlo’n rhan o’r gymuned
- Rheoli arian a chyllideb
- Cymryd rhan mewn addysg a dysgu
- Ymchwilio i gyfleon gwaith a gwirfoddoli
- Hybu iechyd a lles
- Iechyd meddwl
- Ysgogi ffordd o fyw iach
- Mynychu cyfarfodydd achos fel fo’n briodol. Cyfeirio ymlaen/arwyddbostio at asiantaethau neu wasanaethau proffesiynol neu arbenigol fel fo’n briodol ac adrodd ar ddeilliannau i gomisiynwyr Cefnogi Pobl fel bo angen.
- Cysylltu’n rheolaidd gyda’r tenantiaid gan sicrhau cyswllt dyddiol gyda rhai unigolion yn unol â’u asesiad anghenion. Delio gydag unrhyw ymholiad yn brydlon ac effeithiol.
- Datblygu perthynas waith effeithiol gyda’r tîm gofal ar safle a hefyd gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill er mwyn hyrwyddo lles a chwrdd ag anghenion cymorth y tenantiaid e. gweithwyr cymdeithasol, darparwyr gofal/cefnogaeth, gweithwyr maes iechyd, asiantaethau gwirfoddol a chydweithwyr o fewn Grŵp Cynefin.
- Gweithredu trefniadau dyrannu a gosod y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas. Delio ag ymholiadau am lety ac ymweld â darpar denantiaid yn eu cartref gan ddilyn polisïau perthnasol e.e. iechyd a diogelwch. Sicrhau bod trosiant eiddo gwag yn cyrraedd targed gweithredu’r Gymdeithas.
- Hyrwyddo cynhwysedd ariannol a chefnogi’r tenantiaid i gael gwybodaeth briodol am eu hawliau, budd-daliadau lles, cyllido ayb i leihau’r risg iddynt fynd i ddyled rhent. Cyfeirio at wasanaethau arbenigol fel fo angen.
- Gweinyddu prosesau cyfrifon rhent a gwasanaethau (utilities) yn gywir a chadw gwybodaeth yn gyfredol, gan gynnwys agor tenantiaethau newydd, cau cyfrifon yn amserol ac uchafu incwm rhent y Gymdeithas trwy reoli ôl-ddyledion rhent yn effeithiol.
- Cysylltu’n rheolaidd gyda’r Adran Budd-daliadau Tai i sicrhau bod rhenti’n cael eu talu’n brydlon, i reoli achosion o ordalu ac i drafod apeliadau. Cysylltu gyda’r Adran Cefnogi Pobl ynglŷn â thaliadau Grant Rhaglen Cefnogi Pobl.
- Ymateb yn brydlon ac effeithiol i achosion o anghydfod cymdogion neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Trafod achosion difrifol gyda’r Arweinydd Tim.
- Sicrhau fod systemau gwybodaeth y cynllun yn gywir a chyfredol, gan sicrhau cydymffurfiad â gofynion Diogelu Data.
- Cydweithio gyda darparwyr arlwyo a glanhau er mwyn sicrhau gwasanaeth safonol.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ym mhob agwedd o weithgareddau’r cynllun. Cydweithio gyda’r Arweinydd Tîm i ymgynghori a mesur bodlonrwydd tenantiaid ac ymateb i adborth am wasanaethau er mwyn hybu gwelliant parhaus.
- Sicrhau rhaglen amrywiol o weithgareddau cymdeithasol a hwyluso defnydd o’r cyfleusterau cymunedol. Annog a chefnogi trigolion i gymryd rhan ac i drefnu a chynnal gweithgareddau eu hunain. Cynnal asesiadau risg fel bo’n berthnasol.
- Cyd-weithio’n agos gyda’r Tîm Cynnal a Chadw i gynnal safonau a chyflwr eiddo’r Gymdeithas; adrodd am waith trwsio yn amserol a sicrhau mynediad i weithwyr gyflawni’r gwaith angenrheidiol. Monitro safon gwaith contractwyr ar safle e.e. glanhau neu arddio.
- Mewn cydweithrediad â’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, gwirio materion iechyd a diogelwch y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas, gan gynnwys asesiadau risg, profi system tân, CCTV a theleofal. Sicrhau bod y trigolion yn ymwybodol o’r trefniadau argyfwng a sicrhau bod proses PEEPS y Gymdeithas (Personal Emergency Evacuation Plans) yn cael ei gweithredu. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel. Cydweithio i sicrhau bod y tîm gofal ar-safle, ymgymerwyr allanol ayb yn ymwybodol o drefniadau argyfwng y cynllun. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel.
- Sicrhau bod y ddarpariaeth llinell gofal yn cael ei drosglwyddo yn ystod cyfnodau pan nad oes staff ar safle. Bod yn gyfrifol am wirio bod y ddarpariaeth llinell gofal yn gweithio. Sicrhau fod y darparwr llinell gofal yn derbyn gwybodaeth gywir a chyfredol am y tenantiaid.
- Rheoli defnydd yr ystafell ymwelwyr.
- Rheoli a monitro unrhyw fân incwm a gwariant yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas.
- Creu cysylltiadau cadarnhaol gyda’r gymuned ehangach er budd y tenantiaid a sicrhau fod y cynllun yn adnodd defnyddiol i’r gymuned leol. Cydweithio gyda’r Uwch Swyddog i farchnata’r cynllun yn effeithiol.
- Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i adrodd am ddeilliannau neu ddangosyddion perfformiad fel bo angen.
- Cyd-weithio’n agos gyda chynllun tai gwarchod Maes y Mor (a bod ar gael i gynorthwyo yno ar adegau o wyliau a salwch y staff).
Cyflog
💰 £25,667 pro rata
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Gynghorydd Gwasanaeth Cwsmer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle i unigolyn sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai yn yr adran gwasanaeth cwsmer, mewn awyrgylch Gymreig lle mae'r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i'r teulu.
Disgrifiad:
- Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer bob amser, gan ddatblygu perthnasoedd effeithiol gyda’r cwsmeriaid a gweithio gyda hwy i sicrhau’r profiad a’r canlyniad gorau posibl iddynt.
- Ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a darparu cyngor, gwybodaeth a datrysiad i ystod eang o ymholiadau mewn modd amserol, o’r radd flaenaf, gan ddangos empathi a chadw at y polisïau a’r gweithdrefnau cyfredol.
- Adnabod materion cymhleth a dwys a’u hesgyn i’r adran briodol o fewn y Gymdeithas.
- Gwneud defnydd cywir o’r System Tai er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid.
- Gweithio mewn modd hyblyg, gofalgar a sensitif.
- Cefnogi’r Rheolwr a’r Arweinyddion Tîm i gyfrannu syniadau sy’n darparu gwelliannau i safon y gwasanaeth cwsmer.
- Didoli’r post ar gyfer timau ac adrannau a chofnodi gohebiaeth bwysig a’u hanfon i’r swyddogion perthnasol. Ymdrin ag unrhyw ohebiaeth neu waith gweinyddol yn ymwneud â chyfrifoldebau’r Tîm Gwasanaeth Cwsmer.
- Sicrhau bod y brif dderbynfa ar agor i’r cyhoedd yn ystod oriau arferol y swyddfa yn ddyddiol.
- Cofnodi cwynion ac ymdrin â hwy gan ddilyn y polisïau cyfredol a defnyddio’r prosesau a’r gweithdrefnau cywir, gan sicrhau bod unrhyw gŵyn yn derbyn sylw priodol.
- Cynorthwyo gyda chyrraedd safonau gwasanaeth, Cytundebau Lefelau Gwasanaeth yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol.
- Cefnogi Adrannau gyda dosbarthu cyhoeddiadau ynghyd ac unrhyw ohebiaeth gyffredinol a phostiadau mawr e.e. datganiadau rhent ar ran y Gymdeithas.
- Cynnal a diweddaru gwybodaeth proffil tenantiaid yn barhaus i sicrhau bod gennym ni’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cwsmeriaid a’u hanghenion a chadw hynny’n gyfredol.
- Derbyn a chofnodi taliadau rhent fel bo’n ofynnol.
- Derbyn a chofnodi adborth gan gwsmeriaid, ac ymateb i’r sylwadau lle bo’n briodol.
Gwella boddhad cwsmeriaid a’r ddarpariaeth o wasanaeth yn barhaus, gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu a hyrwyddo’r gwasanaeth a nodi gwelliannau i’r prosesau.
Cyflog
💰 £22,140 pro rata
Lleoliad
📍 Penygroes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Weithiwr Cefnogi Lloches Ynys Môn
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Uwch Weithiwr Cefnogi Lloches Ynys Môn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atadl digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
(Mae’r swydd wedi ei heithrio o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 – merched yn unig fydd yn cael eu hystyried)
Disgrifiad:
- Cefnogi a darparu gwasanaeth rheng flaen rhagweithiol o ansawdd uchel i unigolion a theuluoedd sy'n profi cam-drin domestig; darparu llwybr cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch ac amddiffyn gan weithio ar draws pob lefel o risg.
- Dealltwriaeth am wybodaeth ddamcaniaethol, ymarferol a gweithdrefnol o safbwynt datrysiadau cyfiawnder sifil a throseddol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a'u plant.
- Cynnal perthynas gadarnhaol a therapiwtig â defnyddwyr gwasanaeth gan ddangos dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â thrawma, anhwylder personoliaeth ac ymlyniad.
- Rheoli mentoriaid yn annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am oruchwyliaeth, rheoli achosion ac adolygiadau blynyddol.
- Trefnu rotas i sicrhau bod y cynlluniau’n darparu cefnogaeth uniongyrchol i ddefnyddwyr gwasanaeth yn unol â gofynion y cytundeb gwasanaeth.
- Esbonio cynnwys cytundeb trwydded, gan nodi hawliau defnyddwyr gwasanaeth a'u cyfrifoldebau mewn eiddo tai â chymorth.
- Cyfrifoldeb am gwblhau'r broses at gyfeirio ac asesu ar gyfer darpar ddefnyddwyr gwasanaeth, a chwblhau asesiad anghenion / risg yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r prosiect.
- Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ysgogi defnyddwyr gwasanaeth i ragori yng nghanlyniadau'r Grant Cymorth Tai: -
- Teimlo'n ddiogel
- Cyfrannu at eu diogelwch a’u lles eu hunain, ac eraill
- Rheoli Llety
- Annog perthynas iach
- Teimlo'n rhan o'r gymuned
- Rheoli Arian a Chyllideb
- Cymryd rhan mewn addysg a dysgu
- Ymchwil i gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli
- Iechyd a lles
- Iechyd meddwl
- Annog ffordd iach o fyw
- Arwain a gweithredu i fonitro a chwblhau cynllun cymorth unigol gyda defnyddwyr gwasanaeth yn rheolaidd gan gymryd cyfrifoldeb am drafod lefel yr angen, yr amcanion, y canlyniadau, y dewisiadau a'r cynnydd sy'n cyd-fynd â chanllawiau'r Rhaglen Grant Cymorth Tai.
- Asesu risg a phenderfynu ar lefel risg a chymryd cyfrifoldeb i gynllunio cynllun rheoli risg sy'n ymateb i anghenion defnyddwyr gwasanaeth.
- Cynnal ffeiliau defnyddwyr gwasanaeth yn unol â gofynion statudol, cyfraith diogelu data gyda chofnodion ansawdd clir a chryno, gan wneud defnydd llawn o'r system rheoli achosion Discovery.
- Cyfrifoldeb am ddarparu adroddiadau ansawdd penodol ar faterion perthnasol e.e. adroddiadau llys, atgyfeiriadau MARAC, cyfarfodydd achos ac astudiaethau achos rheolaidd.
- Ymateb a gweithredu'n brydlon a hysbysu'r Arweinydd Tîm am unrhyw achosion Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed gan cwblhau atgyfeiriadau cywir a ffeithiol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Cefnogi defnyddwyr gwasanaethau i eirioli gyda chyfreithwyr, yr Heddlu, y Llys, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Tai, Asiantaethau Hawliau Lles, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd ac asiantaethau perthnasol eraill a'u cefnogi trwy'r broses.
- Rhoi gwybodaeth i'r unigolion am faterion perthnasol gan gynnwys tai, hawliau lles, amddiffyniad cyfreithiol, gwasanaethau cymdeithasol, sefydliadau addysg ac ati a'u cynorthwyo i lenwi ffurflenni perthnasol.
- Trefnu gwasanaethau perthnasol ac arbenigol sydd eu hangen ar ddefnyddwyr gwasanaeth gan eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol yn ôl yr angen. Gan gynnwys mynychu cynadleddau achos neu gyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol (e.e. Tîm Iechyd Meddwl, Tîm Camddefnyddio Sylweddau, Swyddfa Cyngor ar Bopeth.)
- Rhoi cyngor i ddelio â materion budd-dal lles gan ystyried effaith diwygio lles ar ddefnyddwyr gwasanaeth, hyrwyddo cynhwysiant ariannol a chynnal profion fforddiadwyedd.
- Monitro a rheoli cyfrifon rhenti, gan gysylltu â'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn eu hawl lawn i Fudd-dal Tai ac i leihau gordaliadau Budd-dal Tai.
- Rheoli ac ymateb i anghydfodau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, casglu tystiolaeth a chwblhau adroddiadau manwl ar ddigwyddiadau difrifol i'r Arweinydd Tîm.
- Cynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ag asiantaethau allanol gan gynnwys cynlluniau mewnol Gorwel.
- Arwain i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i reoli cyllideb bersonol gan eu helpu i gwblhau ceisiadau grant i fynd i'r afael â thlodi.
- Cyfrifoldeb am gefnogi ac annog defnyddwyr gwasanaeth yn y prosiect i sefydlu perthnasoedd cadarnhaol â'u perthnasau (os yw'n ddiogel gwneud hynny).
- Annog defnyddwyr gwasanaeth i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli a chyflogaeth.
- Arwain a chefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan neu drefnu gweithgareddau cymunedol gyda phwyslais ar gyfleoedd gwirfoddoli sy'n arwain at gyflogaeth
- Cyfrannu at hyrwyddo cyfranogiad i sicrhau y gall defnyddwyr gwasanaeth ddylanwadu ar y gwasanaeth a ddarperir gan Gorwel.
- Meddu ar wybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i gam-drin domestig, digartrefedd a chefnogaeth.
- Cyfrifoldeb i fynd i'r afael â gwaith gweinyddol sy'n ymwneud â'r swydd trwy gadw a chasglu dadansoddiadau sy'n cynnwys canlyniadau'r Rhaglen Grant Cymorth Tai ac ystadegau Cymorth i Ferched.
- Hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, Microsoft Office ac iPad.
Cyflog
💰 £24,895 - £27,201
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Plant a Phobl Ifanc
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Plant a Phobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atadl digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
- Sicrhau dealltwriaeth clir o ddarpariaeth cefnogaeth yn y maes cam-drin domestig gan ymateb i anghenion staff a plant a phobl ifanc fel bod Gorwel yn ffynnu.
- Gweithredu i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn y gymuned yn cael eu hateb yn effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth cefnogaeth holistig a pherson ganolig sy’n arwain at hybu llesiant ac diogelwch.
- Yn annibynnol, goruchwylio gan gymryd cyfrifoldeb o drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithiwyr cefnogi a mentoriaid y gwasanaeth.
- Adnabod a chynllunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o broses recriwtio, medrusrwydd a disgyblu.
- Gweithredu’n annibynnol o fewn ffiniau’r swydd, gan benderfynu pryd mae’n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth am arweiniad.
- Cyfrifoldeb i sicrhau bod trefniadau priodol i reoli a monitro risg gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risg yn hyderus ac yn effeithiol.
- Arwain ac annog gwaith ataliol gan godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â trais yn y cartref sy’n effeithio plant a phobl ifanc.
- Ymateb yn gadarn gan weithredu ar unrhyw bryderon, Amddiffyn Plant neu Amddiffyn Oedolion Bregus gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth cywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
- Rhoi arweiniad clir i weithwyr cefnogi drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynllun cefnogi plant a phobl ifanc.
- Yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r drefn cefnogi yn unol â gofynion statudol, deddf gwarchod a chytundeb gwasanaeth arianwyr.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau, ystadegau a gofynion arianwyr.
- Paratoi adroddiadau o safon uchel yn chwarterol ar gyfer adolygiadau monitro arianwyr (e.e. Llywodraeth Cymru) gan gynnwys mynychu cyfarfodydd chwarterol monitro.
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i ddatblygu’r gwasanaethau ac unrhyw gynlluniau newydd.
- Yn rhan o baratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth comisiynwyr gan weithredu ar argymhellion. (gan gynnwys adrodd yn ôl a’r ddeilliannau Ar-Trac)
- Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
- Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth a thrais yn y cartref. Yn cynnwys cyfarfodydd ‘Early Hub’ a chyfarfod gweithredol Ar-Trac.
- Ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaeth cymryd rhan flaenllaw o adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi.
- Arwain wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar gyfer y cynllun gan annog gwaith grŵp.
- Gwybodaeth eang am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc, cam-drin domestig a chefnogaeth.
- Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”
Yn rhinwedd y swydd; parhau i gefnogi ‘llwyth achosion’ plant a phobl ifanc yn unol ac angen y cynllun.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Hyblyg, Gwynedd, Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Reolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd trais yn y cartref ac atal digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous trwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
- Sicrhau bod gwasanaethau yn cael ei gyflawni i safon uchel, ar amser ac o fewn cyllidebau, ac yn darparu gwerth am arian.
- Sicrhau dealltwriaeth clir o anghenion darpariaeth cefnogaeth gan ymateb yn weithredol ac yn strategol fel bod Gorwel yn ffynnu.
- Rheoli’r Arweinwyr Tim drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynlluniau cefnogi, a sicrhau ei bod yn cynnal rheolaeth achosion yn brydlon.
- Cyfrifol am lunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau cytundebau gwasanaeth.
- Cynorthwyo Prif Swyddog Gorwel i ddatblygu cynllun busnes strategol.
- Adnabod cyfleodd i ddatblygu gwasanaethau newydd ac arwain yn y broses tendro.
- Cynorthwyo Prif Swyddog Gorwel drwy baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
- Cyfrifol am fonitro cyllidebau blynyddol ar gyfer y cynlluniau.
- Cyfrifol am lunio ac adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi er mwyn cael y gwasanaeth mwyaf effeithiol i bobl sy’n profi digartrefedd.
- Cynrychioli Gorwel a chynnal perthynas weithredol rhagorol gyda chomisiynwyr, cynrychiolwyr o gyrff statudol, mudiadau gwirfoddol neu drydydd sector.
- Arwain a chynrychioli Gorwel mewn cyfarfodydd wrth ymateb i ddigwyddiadau diogelu / difrifol.
- Cwblhau ceisiadau / ffynonellau arian ar gyfer y gwasanaethau. (o dan £10k)
- Sicrhau hyrwyddo cyson a chyhoeddusrwydd o wasanaethau Gorwel gan gynnwys cynrychioli Gorwel mewn cyfarfodydd, fforymau a chynadleddau.
- Sicrhau fod fframwaith monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau yn cael ei weithredu’n effeithiol sydd yn ymateb i ddeilliannau arianwyr a chynllun busnes Gorwel.
- Cyfrifol am weithdrefnau priodol mewn lle i fonitro a phenderfynu ar achosion risg ac anghenion canolog ag uchel.
- Cyfrifol am arwain, paratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth arianwyr gan weithredu ar argymhellion.
- Sicrhau fod Gorwel yn cyfrannu i’r drefn Cynllun Gweithredol Grant Cymorth Tai a Strategaethau Awdurdodau Lleol yn y maes tai, digartrefedd, VAWDASV.
- Hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar draws Gorwel.
- Cyfrifol am gynllunio rhaglen hyfforddiant blynyddol ar gyfer y tîm.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth o faterion budd-daliadau lles gan gynnwys oblygiadau ymdrin â diwygio lles.
- Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar ran Gorwel a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth, VARM ac digartrefedd.
- Cymryd rhan egnïol mewn cyfarfodydd tîm gan fynychu’r cynlluniau yn ôl yr angen.
- Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”.
- Sicrhau bod prosesau deddfwriaeth diogelu cenedlaethol yn cael eu gweithredu a’u monitro ar draws cynlluniau gweithredol Gorwel.
- Rheoli, hyfforddi a mentora ( y staff sydd yn atebol ichi gan sicrhau eu bod yn cyflawni a chynnal y safonau disgwyliedig i’w rolau, ac eu galluogi i ddatblygu a chefnogi timoedd sy’n ymateb i Fframwaith Amgylchedd sy’n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE)
- Hyrwyddo a sicrhau diwylliant sydd yn croesawu newid, drwy fod yn croesawu arloesedd, a bod yn barod i dreialu dulliau newydd o weithio sydd yn anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib.
- Arwain ar weithredu safonau ansawdd perthnasol a chynnal prosesau gwelliant parhaus gan sicrhau bod holl ddata monitro ac adolygu yn ein cynorthwyo i gynnal gwelliant parhaus, gan ganolbwyntio ar allbynnau i’r cwsmer.
- Sicrhau defnydd effeithiol o systemau rheoli achosion i gefnogi’r darpariaeth o wasanaethau sydd yn blaenoriaethu diogelwch y cwsmer.
Cyflog
💰 £39,947 - £43,652
Lleoliad
📍 Hyblyg, Dinbych, Penygroes, Swyddfeydd eraill Gorwel, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Gweinyddol yr Adran Gyfathrebu
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Gweinyddol yr Adran Gyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20. Y Swydd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn chwilio am unigolyn i ymgymryd a tasgau gweinyddol yr adran gyfathrebu._ _Bydd y Swyddog Gweinyddol yn gyfrifol am weinyddu aelodaeth yr Urdd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mali Thomas (Cyfarwyddwr Cyfathrebu): 07834 709082 neu [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 09:00 Dydd Iau 23 Mehefin
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £19,601 - £22,058
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cynnal a Chadw Ardal
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Swyddog Cynnal a Chadw Ardal
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle i unigolyn sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai yn yr adran Cynnal a Chadw, mewn awyrgylch Gymreig lle mae'r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i'r teulu.
Disgrifiad:
- Cyfarwyddo gyda stoc tai y Gymdeithas yn eich ardal weithredol.
- Archwilio gwaith cynnal a chadw – trwsio, ailosod ac adnewyddu - yn eich ardal weithredol, gan sicrhau fod ansawdd y gwaith yn rhagorol, yn rhoi gwerth am arian, ac yn cydymffurfio â chod ymarfer y Gymdeithas, Rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac arferion gorau perthnasol.
- Cydweithio gyda swyddogion Tai mewn achosion o ail-osod, trosglwyddo, neu gyfnewid eiddo i sicrhau proses rwydd a chyflym ac effeithlon.
- Gofalu bod tenantiaid yn derbyn ymateb prydlon, effeithiol ac ysgrifenedig i geisiadau am waith, a cheisiadau i addasu eu tai. Ymweld ag eiddo er mwyn penderfynu ar y datrysiad gorau a chadw cofnod perthnasol.
- Paratoi disgrifiadau gwaith eglur, a phwrcasu gwaith gan gontractwyr oddi ar y rhestr contractwyr cydnabyddedig neu gyfarwyddo creffwyr mewnol.
- Cydymffurfio â gweithdrefnau eiddo a rheolau ariannol a phwrcasu y Gymdeithas wrth godi gwaith, ac wrth wirio anfonebau ar ddiwedd y gwaith.
- Arolygu / ôl-archwilio ansawdd gwaith y contractwyr a’r gweithlu mewnol, fel rhan o raglen archwilio reolaidd.
- Cyfrannu at adolygiadau perfformiad y contractwyr a’r gweithlu mewnol, a chynnig gwelliannau.
- Sicrhau fod cwynion ac anfodlonrwydd yn cael sylw priodol.
- Cynnal archwiliadau cyflwr eiddo er mwyn trefnu’r rhaglen adnewyddu flynyddol a chydymffurfio gyda'r safon a gweithdrefnau archwiliadau sydd wedi eu cytuno.
- Cynnal archwiliadau rheolaidd o fannau cymunedol mewnol ac allanol ystadau (tân, iechyd a diogelwch, tâl gwasanaeth, blerwch, sbwriel, etc.)
- Cynnal archwiliadau o eiddo ‘tai a chefnogaeth’ gyda’r swyddogion Tai.
- Bod yn barod i gyfrannu at y gwasanaeth ‘ar-alwad’ .
- Bod yn barod i ymateb mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol.
- Cefnogi’r Cydlynwyr a Rheolwyr gyda gwariant effeithiol y gyllideb.
- Gofalu bod gweithgareddau’r Tîm yn cyflawni polisïau, gweithdrefnau, safonau, targedau, cyllidebau ac anghenion llywodraethu Grŵp Cynefin.
- Ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol yn broffesiynol, yn unol â safonau gofal cwsmer Grŵp Cynefin
- Cynrychioli’r gwasanaeth yn fewnol ac allanol fel sydd angen.
Cyflog
💰 £31,565
Lleoliad
📍 Y Bala, Dinbych, Penygroes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!