Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant

TIAA Ltd

💰 £21k 📍 Amrywiol Ar gau

Mae TIAA Ltd yn edrych am Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae ein tîm archwilio mewnol wedi'i sefydlu ers dros 20 mlynedd ac mae'n ganolog i'r gwasanaeth gofalgar a gynigiwn i'n cleientiaid. Ni anghofiwn mai pobl go iawn - cleifion, myfyrwyr, tenantiaid, neu gwsmeriaid sydd wrth wraidd unrhyw archwiliad a thu ôl i'r holl ffigurau a thaenlenni. O’r herwydd, mae ein timau’n cael eu hannog i ddod â’u hunain yn gyflawn i’r gwaith. Gweithredu gydag uniondeb a dealltwriaeth, a defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i wella bywydau pobl.   Y rôl   A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn Prentisiaeth? Neu a fyddai'n well gennych rywbeth mwy mewnol? Mae gennym opsiynau ar gyfer y ddau fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich dewis o lwybr gyrfa yn berffaith.   Defnyddir Archwilio Mewnol gan ein cleientiaid i'w helpu i gynnal fframwaith llywodraethu a rheoli risg cryf. Mae'n helpu i ganfod risgiau gweithredol ac yn arwain at gryfhau a thyfu busnesau. Os ydych chi eisiau gyrfa mewn cyfrifeg a chyllid, mae’n bosib nad dyma'r rôl i chi, fodd bynnag, os oes gennych chi feddwl dadansoddol ac rydych am fod yn rhan bwysig wrth helpu busnesau eraill i lwyddo yna gallai hyn fod yn berffaith i chi!   Fel Archwilydd Mewnol dan Hyfforddiant, byddwch yn cefnogi eich tîm i gynnal adolygiadau archwilio mewnol ar gyfer ystod eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Bwriad yr adolygiadau a gynhelir yw gweld a yw'r prosesau'n gweithredu yn ôl y bwriad ac i ganfod cyfleoedd i weithredu'n fwy effeithiol.   Fel Hyfforddai, byddwn yn rhoi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i ennill eich cymwysterau proffesiynol a llwyddo yn eich gyrfa. Mae'r cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen o fewn y cwmni yn ddiddiwedd. Am hynny, gofynnwn am unigolyn brwdfrydig, gweithgar sy'n angerddol am ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n cleientiaid.   Gofynion:

Byddwn yn rhoi'r arfau sydd eu hangen arnoch i lwyddo fel Archwilydd Mewnol. Waeth beth fo'ch cefndir, dyfnder eich profiad, neu lefel addysg, rydym yn awyddus i archwilio eich addasrwydd gyda TIAA Ltd. Y cyfan a ofynnwn yw bod gennych y meddylfryd cywir a diddordeb cryf ym myd Archwilio Mewnol.   Yr elfennau allweddol sydd gan ein Harchwilwyr Mewnol yw:

  • Sgiliau ysgrifennu cryf.

  • Meddwl dadansoddol.

  • Gallu rhagorol i roi sylw i fanylion.

  • Sgiliau ardderchog o ran cadw at derfynau amser a threfnu.

  • Y gallu i ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office.

  • Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel (ar lafar ac yn ysgrifenedig).

  • Cymhwysedd i fyw a gweithio yn y DU.

  Byddai o fudd cael trwydded yrru lawn y DU. Gallai hefyd fod angen aros oddi cartref o bryd i'w gilydd oherwydd lleoliad daearyddol y cleientiaid.   Pam ymuno â TIAA Ltd:

  • Cyflog cychwynnol o £21,200.

  • 30 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc.

  • Cynllun hyfforddi wedi'i gefnogi'n llawn, sy'n eich galluogi i ennill eich cymhwyster IIA

  • Opsiynau gweithio o bell a hybrid.

  • Oriau hyblyg sy'n caniatáu’r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith

  • Cynllun aberthu cyflog ar gyfer car trydan/hybrid

  • Prosesau arfarnu rheolaidd gyda chyfleoedd diderfyn o ran camu ymlaen yn eich gyrfa.

  • Mentrau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad yn y byd gweithio o bell.

  Mae gennym ymrwymiad i lwyddo yn hytrach na chyfundrefn a yrrir gan dargedau absoliwt, ac rydym yn gofalu am bob un o’n harbenigwyr unigol ac yno iddynt i gynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant. Rydym yn credu mewn rhoi'r annibyniaeth a'r gydnabyddiaeth i chi ysgogi eich llwyddiant eich hun. P’un a ydych newydd ddechrau ar eich gyrfa neu os oes gennych y profiad i reoli eich maes gwaith eich hun yn hyderus, rydym am eich helpu i wireddu’ch potensial oherwydd rydym yma i’ch gwarchod.   Sut i wneud cais:

I ddod yn Archwiliwr Mewnol dan Hyfforddiant, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol trwy glicio ar 'Apply Now!', neu mae croeso i chi anfon e-bost at Claire yn [email protected].

Cyflog

💰 £21,200

Lleoliad

📍 Amrywiol

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau