Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30k 📍 Wrecsam Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Byddwch yn rheoli ein tîm sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid yng Nghastell y Waun, sef castell canoloesol ysblennydd sy'n sefyll ym mhen uchaf Dyffryn Ceiriog, a'r unig gastell Edwardaidd y mae rhywun wedi trigo ynddo'n barhaus. Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, mae wedi bod yn gartref i'r teulu Myddelton. Fel caer strategol allweddol yn y Gororau, mae hunaniaeth Gymreig a Saesnig yn brwydro am oruchafiaeth yma hyd heddiw.

Byddwch yn rhan allweddol o dîm arweinyddiaeth portffolio gogledd-ddwyrain Cymru, yn cydweithio â rhai sy'n gofalu am gefn gwlad, ein treftadaeth adeiledig a chyfleusterau ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Dyma gyfle i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gweithrediadau ymwelwyr ysbrydoli ac arwain staff i wneud gwahaniaeth er lles natur a phobl, a darparu profiadau gwych i ymwelwyr.  

Cymraeg yn ddymunol. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: [email protected]

Sut beth yw gweithio yma

Mae pob diwrnod yn wahanol yng Nghastell y Waun. Yn y swydd amrywiol hon, byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu profiadau newydd i ymwelwyr, dod o hyd i ffyrdd newydd o ddod â hanes yn fyw, a chefnogi partneriaethau allanol.  

Ceir digonedd o gyfleoedd i ddatblygu eich hun a'ch tîm, ac i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm gwych o bobl sy'n llawn brwdfrydedd ynghylch rhannu'r lle hwn a'i awyrgylch rhagorol. Fel rhan o gymuned ehangach o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn ein helpu i greu profiadau newydd a gwell ar gyfer ein holl ymwelwyr.

Beth y byddwch yn ei wneud

Byddwch yn ymuno â phortffolio gogledd-ddwyrain Cymru ar adeg gyffrous, gan gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a dylanwadu ar ei drywydd ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn chwarae rhan weithgar mewn prosiectau mawr, wrth reoli cyllidebau ac wrth sicrhau ein bod yn cyflawni tasgau cydymffurfio. Fe fyddwch yn arweinydd a rheolwr gweladwy i dimau, yn ysgogi perfformiad gweithredol cryf ac yn darparu profiadau o'r safon uchaf un i'n holl ymwelwyr. Bydd gennych brofiad yn y maes rheoli ymwelwyr, a byddwch yn mynnu safonau cyflwyno a diogelwch uwch.  

Os ydych yn arweinydd a rheolwr profiadol, wrth eich bodd yn gweithio mewn amgylchedd prysur a gydag eraill - gallai hon fod y swydd berffaith i chi!

**Am bwy ydym yn chwilio **

Byddai’n wych clywed gan bobl sydd â'r sgiliau/profiad canlynol:   

  • Arweinydd deinamig, pragmataidd a llawn egni sydd â hanes o lwyddiant ym maes gweithrediadau ymwelwyr 

  • Rheolwr llinell profiadol ac effeithiol 

  • Hyfforddwr a mentor gwych, sydd â safonau perfformiad uchel 

  • Unigolyn trefnus sy'n gallu ymdopi â nifer o flaenoriaethau 

  • Gallu rheoli gweithrediadau, gan gynnwys cyllidebau, rotâu a chynlluniau, yn fedrus

  • Presenoldeb hyderus a digynnwrf sy'n cefnogi'r tîm ar draws yr eiddo

 

Yn fedrus wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn datblygu partneriaethau.

Y pecyn

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

  • Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd

  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

  • Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cyflog

💰 £29,640

Lleoliad

📍 Wrecsam

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau