Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Cambria

💰 £25,374 - £27,639 📍 Wrecsam Ar gau

Mae Coleg Cambria yn edrych am Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Platinwm Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Lleoliad: Iâl, Wrecsam

Math o Gontract: Llawn Amser - Parhaol

Graddfa Gyflog: £25,374 - £27,639

Mae gennym ni swydd wag ar gyfer Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gydlynu gwaith cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar draws Coleg Cambria.

Gofynion Hanfodol

  • Brwdfrydedd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg

  • Wedi derbyn addysg i lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol gyfatebol

  • Y gallu i gyfathrebu’n broffesiynol ac yn gywir yn y Gymraeg a Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig

  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn sawl cyd-destun o fewn y sector Addysg Bellach yng Nghymru

  • Hyfedredd mewn TG 

  • Yn meddu ar drwydded yrru ddilys gyfredol ac â defnydd cerbyd

  • Y gallu i weithio’n hyblyg ac i berfformio’n dda o dan bwysau

  • Yn meddu ar hunan gymhelliad, y gallu i weithio ar eich menter eich hun, a defnyddio’ch amser yn effeithiol

  • Parodrwydd i dderbyn hyfforddiant perthnasol yn ôl y galw

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.  Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.  Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar y safle

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg 

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Cyflog

💰 £25,374 - £27,639

Lleoliad

📍 Wrecsam

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £34,015 - £36,973 📍 Y Barri Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36,382 - £42,149 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Barcud Cyf

💰 £23,174 - £25,579 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £34,000 - £40,000 📍 O gartref Ar gau

IAITH

💰 £26,823 - £34,906 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Theatr Volcano

💰 £24K pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Senedd Cymru

💰 £25,945 - £31,137 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Innvois LTD

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Casnewydd

💰 £21,074- £23,111 📍 Casnewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £24,657-£30,205 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

Barnardo's

💰 £46,380 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

Cyngor Sir Penfro

💰 £30,095 - £34,373 📍 Sir Benfro Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £20,255 - £23,008 📍 Ponterwyd Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £19,000 - £22,000 📍 Llanrwst Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £19,264 - £19,650 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £25,000 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

CADMHAS

💰 £22,287 📍 O gartref Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £27,024 - £32,739 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

WWF Cymru

💰 £26,713 📍 Caerdydd Ar gau