Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Polisi Caerdydd Ddwyieithog (Cymraeg Hanfodol)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisiyn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd Caerdydd CF10 4UW.

Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd.Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.

Am Y Swydd

Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:

  1. Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
  2. Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
  3. Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
  4. Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg. 
  5. Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
  6. Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
  7. Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
  8. Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati)

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog a Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i Reolwyr a Staff Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at bob agwedd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor gan gynnwys cefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog.

Mae'r gallu i weithio dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i weithio a chyfathrebu i lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Rydym yn symud i fodel gweithio hybrid a fydd yn cynnwys gweithio mewn swyddfa a gartref ar-lein a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Cyflog

💰 £30,095 - £34,373

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cymorth Cristnogol

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Cymorth Cristnogol

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Campws Caerfyrddin📍 Llanbed +1 Ar gau

WWF Cymru

💰 £52,303 📍 Caerdydd Ar gau

Cwmni Theatr Arad Goch

💰 £21,460 – £30,023 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £22,571 - £24,920 📍 Bangor Ar gau

Milfeddygon Dolgellau Cyf

💰 Yn ddibynol ar sgiliau yr ymgeisydd 📍 Dolgellau Ar gau

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £25,000 - £27,000 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,929 - £31,411 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £37,519 - £42,404 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caerffili Ar gau

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £42,155 - £47,423 📍 Caerdydd Ar gau

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

💰 £25,860 - £29,430 📍 Aberystwyth Ar gau

Estyn

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

GwE

💰 £28,226 - £30,095 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

GwE

💰 £25,419 - £27,514 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £20,852 - £22,129 📍 Bae Colwyn Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £29,174 - £30,984 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 – £43,414 📍 Caerfyrddin Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

💰 £27,055 - £32,934 📍 Cwmbrân Ar gau