Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prentis Gofal Iechyd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

💰 £4.81 yr awr 📍 Glangwili Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn edrych am Brentis Gofal Iechyd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

  • A ydych am helpu a gofalu am bobl?

  • A ydych yn barod am her?

  • A fyddech yn hoffi bod yn Nyrs Gofrestredig, ond nad ydych yn teimlo'n barod nac y gallwch barhau mewn addysg lawn-amser (ysgol, coleg neu brifysgol)?

  • A fyddech yn hoffi dysgu ac ennill arian?

Os ydych wedi ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau uchod, yna gallai'r rôl hon fod yn addas ar eich cyfer chi!

Mae'r rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn gyfle cyffrous a fydd yn eich galluogi i hyfforddi i ddod yn Nyrs Gofrestredig trwy ddysgu seiliedig ar waith. Byddwch yn dechrau arni trwy gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Iechyd Clinigol (lefel 2), cyn parhau i Brentisiaeth mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol (lefel 3), ac yna'n ymgymryd ag addysg prifysgol ar drefniant rhan-amser, gan ddechrau ar lefel 4.

Sut y mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn wahanol i unrhyw raglen brentisiaeth arall?

Mae’r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn cyfuno llawer o raglenni dysgu mewn un, sy’n dangos ein bod wedi ymrwymo i brofi llwybr uniongyrchol i nyrsio. Ni fydd angen i chi ailymgeisio am y cymwysterau gwahanol wrth fynd ymlaen. Pan fyddwch wedi cwblhau'r rhaglen, byddwch yn Nyrs Gofrestredig gymwys, ac ni fyddwch wedi gorfod talu am unrhyw ffioedd prifysgol. Byddwch yn ennill arian trwy gydol yr amser y byddwch yn dysgu. 

Pan fyddwch wedi dod yn Nyrs Gofrestredig, disgwylir i chi barhau'n gyflogedig gyda'r Bwrdd Iechyd am o leiaf dwy flynedd.   Prif ddyletswyddau'r swydd

**Gofal iechyd **

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar ofal ar lefel ragarweiniol, yn cynnwys gweithio gyda mentor yn ardaloedd y cleifion, gan eich paratoi i ddarparu gofal i gleifion.     Gwaith Domestig/Porthora

Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â chynllun yr ysbyty, yn ogystal â'r safonau a ddisgwylir mewn amgylchedd gofal iechyd. Byddwch yn rhyngweithio â chleifion ac yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu, gan amlygu'r rhinweddau y mae eu hangen i ddod yn nyrs y dyfodol. Bydd yn rhoi cipolwg ar y modd y mae gwasanaethau cymorth yn chwarae rhan bwysig mewn gofal cleifion, trwy ddarparu amgylchedd hylan. Gan fod maeth a hydradiad yn rhan hanfodol o ofal cleifion, bydd hyn yn rhoi cipolwg ar wasanaeth bwyd, 'Bwydlen Cymru Gyfan', gofynion deietegol a phrosesau adrodd.  

Gwaith gweinyddol sy'n canolbwyntio ar gleifion

Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â'r systemau gweinyddol mewn amgylchedd gofal iechyd. Rhoddir sylw i brosesau cofnodi a'r angen am gyfrinachedd a pharch mewn perthynas â gwybodaeth cleifion. Byddwch yn rhyngweithio â chleifion ac yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu llafar, gan ddatblygu eich cydnerthedd wrth ddelio â chleifion a staff. Bydd y lleoliad yn rhoi cipolwg ar systemau TG amrywiol, gan roi profiad o gyfathrebu trwy e-bost, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn rhoi profiad cyfannol, i ddatblygu nyrsys y dyfodol.   Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

  • Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

  • 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

  • Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

  Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Beth y mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn ei olygu?

  • Byddwch yn ymgymryd â chwrs ymsefydlu cynhwysfawr, a fydd yn eich paratoi ar gyfer lleoliadau gwaith yn y Bwrdd Iechyd

  • Byddwch yn cael cymorth gan fentor yn y gweithle

  • Byddwch yn cael yr hyn sy'n gyfwerth â diwrnod yr wythnos o 'hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith', er mwyn meithrin eich dysgu

  • Byddwch yn cael mentor o'r coleg

  • Byddwch yn mynd i weithdai, lle bydd gennych gyfle i drafod a rhannu syniadau

  • Byddwch yn gweithio tuag at gael cymwysterau galwedigaethol, gan ddatblygu trwy'r lefelau wrth i chi feithrin hyder a phrofiad

  • Byddwch yn cwblhau pedwar lleoliad gwaith ar gylchdro yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, a hynny yn y meysydd canlynol:

    • Gwaith Domestig/Porthora
    • Gwaith Gweinyddol sy'n Canolbwyntio ar Gleifion
    • Gofal Iechyd

Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael?

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2

    • Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Iechyd Clinigol
    • Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif
    • Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu
    • Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Llythrennedd Digidol
  • Prentisiaeth Lefel 3

    • Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
    • Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif
    • Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
    • Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol
  • Tystysgrif Lefel 4 mewn Gofal Iechyd

  • BSc (Gradd) mewn Nyrsio Cyffredinol Oedolion

Beth yw'r gofynion mynediad?

  • Rhaid i chi fod yn unigolyn caredig a gofalgar sy'n frwd dros helpu pobl eraill

  • Rhaid i chi fod yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn ym mis Medi 2022

  • Mae'n rhaid bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig

  • Rhaid i chi allu amlygu caredigrwydd a thosturi ac angerdd dros helpu eraill

  • Rhaid i chi allu amlygu parodrwydd i weithio'n galed

  • Ni ddylech feddu ar gymhwyster lefel 3 llawn ym maes iechyd (os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni)

  • Ni ddylech fod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg dechrau'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd

Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen hon, llenwch y ffurflen gais sydd wedi'i hatodi, a hynny cyn y dyddiad cau. Yn yr adran 'Gwybodaeth Ategol', dywedwch wrthym pam yr ydych yn credu y dylech gael eich dethol ar gyfer y cyfle hwn, a hynny mewn dim mwy na 100 gair y cwestiwn.

  • Beth sy'n gwneud gofalwr da yn eich barn chi?

  • Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?

  • Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?

  • Sut y byddech chi/eich teulu/eich ffrindiau yn teimlo pe byddech yn dod yn Nyrs Gofrestredig?

Ar ôl y dyddiad cau, estynnir gwahoddiad i’r rheiny a fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus fynd i ddiwrnod asesu. Bydd hwn yn ddiwrnod llawn hwyl ac yn gyfle i chi gwrdd â ni, yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am y rhaglen. Bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ddarparu fideo byr yn cyflwyno eu hunain i’r Academi Prentisiaethau.   Os cewch eich recriwtio’n llwyddiannus, byddwch yn dechrau eich cyflogaeth o fod yn Brentis Gofal Iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Medi 2022. Bydd y rheiny nad oeddent yn llwyddiannus y tro hwn yn cael cynnig cymorth gennym ni, eu Coleg lleol, Canolfan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Waith.

Pam y dylech wneud cais am brentisiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

  • Dyma rai o'r rhesymau dros wneud hynny

  • Mae prentisiaethau'n ffordd wych o ddechrau ar yrfa yn y GIG

  • Mae prentisiaethau'n cyfuno hyfforddiant ymarferol â chyflogaeth sy'n talu (‘dysgu wrth ennill’)

  • Mae prentisiaethau'n cynnig cyfle i weithio ochr yn ochr â staff profiadol a fydd yn eich cefnogi ac yn eich helpu i feithrin y sgiliau ymarferol y mae arnoch eu hangen

  • Byddwch yn ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, a hynny heb orfod talu ffioedd dysgu

  • Mae prentisiaethau'n gam cyntaf posibl at hyfforddiant proffesiynol (e.e. i fod yn nyrs, yn beiriannydd)

  • Mae'n brofiad gwych – gweithio mewn tîm, a gwneud gwahaniaeth go iawn

Manyleb y person

Cymwysterau a gwybodaeth

Meini prawf hanfodol

  • Saesneg a Mathemateg i safon resymol

Gwybodaeth Ategol

Meini prawf hanfodol

  • Beth sy'n gwneud gofalwr da yn eich barn chi?

  • Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?

  • Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?

  • Sut y byddech chi/eich teulu/eich ffrindiau yn teimlo pe byddech yn dod yn Nyrs Gofrestredig?

Profiad

Meini prawf hanfodol

  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd tim

  • Deall pwysigrwydd ymddygiad proffesiynol

Meini prawf dymunol

  • Profiad y gellir ei ddangos mewn amgylchedd gofalgar – gall fod o wirfoddoli neu brofiad gwaith

  • Profiad y gellir ei ddangos o weithio gyda gosodiadau TG yn cynnwys Microsoft Office

Cyflog

💰 £4.81 yr awr

Lleoliad

📍 Glangwili

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

💰 £26,038 - £30,908 📍 Caerffili Ar gau

Rily Publications

💰 £30,000 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £21,300 - £24,630 📍 Casnewydd Ar gau

Coleg Penybont

💰 £19,117 - £20,050 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £25,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £20,040 📍 O gartref📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £20,040 📍 I'w drafod Ar gau

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

💰 £22,571 📍 Aberystwyth Ar gau

Gwasg Prifysgol Cymru

💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £27,055 - £32,934 pro rata 📍 I'w drafod📍 O gartref Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 Cyflog cychwynnol o £24,063 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

GwE

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

GwE

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £32,960 📍 Wrecsam Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £5,000 📍 Wrecsam Ar gau

Ysgol Dyffryn Aeron

💰 £52,302 - £60,624 📍 Aberaeron Ar gau

ColegauCymru

💰 £25,612 - £28,756 pro rata 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Coleg Gwent

💰 £30,014 - £32,843 📍 Caerffili Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £28.72 - £31.48 yr awr 📍 Abertawe📍 Castell-nedd Port Talbot +1 Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £31,411 - £35,333 📍 Abertawe Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £31,411 📍 Abertawe📍 Ar-lein +1 Ar gau