Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cymunedol Morgannwg Ganol

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Morgannwg Ganol Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Cymunedol Morgannwg Ganol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.

Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.

Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.

Anfonwch ffurflen gais ar e-bost at [email protected]

Am fwy o wybodaeth plîs cysylltwch gyda Sian Rogers, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned ar [email protected]

Dyddiad Cau: 20 Mehefin 2022

Dyddiad Cyfweld : 23/24 Mehefin 2022

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.

Cyflog

💰 £25,211 - £28,223

Lleoliad

📍 Morgannwg Ganol

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau