Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cadeirydd y Coleg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 Honorariwm 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gadeirydd y Coleg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w arwain mewn cyfnod cyffrous.

Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn profiadol sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau helaeth ym myd llywodraethiant, arweinyddiaeth ac addysg i arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.

Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf. 

Fel Cadeirydd, byddwch yn arwain y Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Coleg wrth weithredu Cynllun Strategol y Coleg, sydd yn canolbwyntio ar ehangu a datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr a dysgwyr yng nghyd-destun Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau polisi eraill.

Prif ddyletswyddau’r Cadeirydd yw cynnig a dangos arweiniad strategol, ac arwain y Bwrdd wrth iddo lunio a chymeradwyo strategaethau, monitro perfformiad a sicrhau bod strwythurau llywodraethiant cryf yn goruchwylio holl ystod gwaith y Coleg.

Disgwylir ymrwymiad o tua dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Telir honorariwm o £7,500 y flwyddyn ac ad-delir costau yn unol â pholisi costau’r Coleg.

Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2022. 

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.

Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2022

Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cadeirydd2022

Cyflog

💰 Honorariwm

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter a Busnes

💰 tua £90,000 📍 Hyblyg Ar gau

GwE

💰 £16,916 - £17,255 📍 Bae Colwyn Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £20,092 - £22,254 📍 Caerdydd Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Mudiad Meithrin

💰 £21,453 - £25,017 📍 Aberystwyth Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Costau teithio a chynhaliaeth 📍 Hyblyg Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Costau teithio a chynhaliaeth 📍 Hyblyg Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22,295 - £24,952 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32,074 - £36,425 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £22,050 – £42,345 📍 Nantgarw Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £35,022 📍 Llandudno Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21,049 pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31,490 - £34,902 📍 Hyblyg Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22,234 pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 O gartref Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £25,834 pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 O gartref Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £12,185 – £15,289 📍 Llanberis Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22,002 - £23,111 📍 Torfaen Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £54,782 - £57,899 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 Cyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau