Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cadeirydd y Coleg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 Honorariwm 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gadeirydd y Coleg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w arwain mewn cyfnod cyffrous.

Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn profiadol sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau helaeth ym myd llywodraethiant, arweinyddiaeth ac addysg i arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.

Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf. 

Fel Cadeirydd, byddwch yn arwain y Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Coleg wrth weithredu Cynllun Strategol y Coleg, sydd yn canolbwyntio ar ehangu a datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr a dysgwyr yng nghyd-destun Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau polisi eraill.

Prif ddyletswyddau’r Cadeirydd yw cynnig a dangos arweiniad strategol, ac arwain y Bwrdd wrth iddo lunio a chymeradwyo strategaethau, monitro perfformiad a sicrhau bod strwythurau llywodraethiant cryf yn goruchwylio holl ystod gwaith y Coleg.

Disgwylir ymrwymiad o tua dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Telir honorariwm o £7,500 y flwyddyn ac ad-delir costau yn unol â pholisi costau’r Coleg.

Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2022. 

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.

Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2022

Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cadeirydd2022

Cyflog

💰 Honorariwm

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Senedd Cymru

💰 £55,240 - £66,234 📍 Hyblyg Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27,116 – £33,309 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +3 Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Yr Wyddgrug Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Bae Colwyn Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27,116 – £33,309 📍 Hyblyg📍 Caerfyrddin +3 Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £48,835 - £54,943 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 📍 Hyblyg Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £31,406 - £34,304 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 £30,000 - £38,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30,142 📍 Bae Colwyn📍 Bae Caerdydd +1 Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £27,116 📍 Bangor Ar gau

Y Lolfa Cyf

💰 I'w drafod 📍 Talybont Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25,667 pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £22,140 pro rata 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £24,895 - £27,201 📍 Ynys Môn Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28,235 - £30,854 📍 Hyblyg📍 Gwynedd +1 Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £39,947 - £43,652 📍 Hyblyg📍 Dinbych +3 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £19,601 - £22,058 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £31,565 📍 Y Bala📍 Dinbych +2 Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27,491 - £42,333 📍 O fewn a thu allan i Geredigion Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £39,947 - £43,652 📍 Hyblyg📍 Penygroes +2 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £36,918 – £46,335 pro rata 📍 Llangefni📍 Aberystwyth +2 Ar gau