Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Addysg ac Ieuenctid

Stonewall Cymru

💰 £27k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Stonewall Cymru yn edrych am Swyddog Addysg ac Ieuenctid

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Allwch chi ddychmygu'ch hunan yn creu adnoddau hyfforddi i athrawon ar gyfer elusen hawliau dynol flaenllaw? Hoffech chi ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gefnogi ysgolion, colegau a gwasanaethau ieuenctid i gael mwy o effaith yn eu gwaith ar gynhwysiant LHDTC+? Oes gennych chi'r sgiliau a'r offer i ysgogi ystod eang o gynulleidfaoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o arfer da o ran cynhwysiant LHDTC+? Os yw hyn yn eich disgrifio chi, gwnewch gais i ymuno â ni fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Stonewall Cymru.

Mae Stonewall yn elusen hawliau dynol. Rydym yn sefyll dros bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, queer, cwestiynu ac ace (LHDTC+) ym mhobman. Rydym yn dychmygu byd lle mae pob person LHDTC+ yn rhydd i fod yn nhw eu hunain a gallwn fyw ein bywydau i'r eithaf. 

Dros y 30+ mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau pobl LHDTC+ yn y DU. Mae ein hymgyrchoedd yn sbarduno newid cadarnhaol yn agweddau'r cyhoedd a pholisi cyhoeddus. Rydym yn sicrhau y gall pobl LHDTC+ ffynnu drwy gydol ein bywydau drwy adeiladu rhaglenni newid dwfn a pharhaus gyda'r sefydliadau sy'n cael yr effaith fwyaf arnom, p'un a'i ydym yn dysgu, yn gweithio, yn gweddïo neu'n chwarae chwaraeon.

Fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid Stonewall Cymru, byddech yn rhan allweddol o dîm o bobl angerddol sy'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein Strategaeth Rhydd i Fod (2021-25). Ar gyfer y rôl hon rydym yn chwilio am swyddog dwyieithog profiadol gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg ac ieuenctid, profiad o feithrin perthynas â rhanddeiliaid a'r gallu i ysbrydoli ystod o gynulleidfaoedd trwy siarad cyhoeddus a chyflwyno.

Mae ein pobl yn ffurfio cymuned fywiog a deinamig. Mae gan lawer o'n staff fuddsoddiad personol yn y gwaith a wnawn, ac rydym yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Rydym yn falch o'r amrywiaeth hwn, ac o'n cefnogaeth i'n gilydd – yn ein timau, ein grwpiau rhwydwaith, a'n cyfeillgarwch.

Cyflog

💰 £27,440

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Senedd Cymru

💰 £55k - £66k 📍 Hyblyg Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +3 Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Yr Wyddgrug Ar gau

GwE

💰 GS3 📍 Bae Colwyn Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Hyblyg📍 Caerfyrddin +3 Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 Hyblyg Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £31k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 £30k - £38k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30k 📍 Bae Colwyn📍 Bae Caerdydd +1 Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £27k 📍 Bangor Ar gau

Y Lolfa Cyf

💰 I'w drafod 📍 Talybont Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £22k pro rata 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25k - £27k 📍 Ynys Môn Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28k - £31k 📍 Hyblyg📍 Gwynedd +1 Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £40k - £44k 📍 Hyblyg📍 Dinbych +3 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £32k 📍 Y Bala📍 Dinbych +2 Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £42k 📍 O fewn a thu allan i Geredigion Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £40k - £44k 📍 Hyblyg📍 Penygroes +2 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £37k - £46k pro rata 📍 Llangefni📍 Aberystwyth +2 Ar gau