Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 De Ddwyrain Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Bydd disgwyl i’r person gefnogi gwaith darpariaethau yr ardal i gynnal a chodi ansawdd a safon yn unol â chyfarwyddiadau’r Rheolwr Talaith.

Cefnogaeth Gyffredinol

· Cefnogi darpariaethau e.e. cylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi, fel rhan o dîm

· Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin

· Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal

· Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth yn ôl yr angen

· Eiriol a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant

· Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni, ysgolion ayyb

· Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol

· Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen

· Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn

· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £19,138

Lleoliad

📍 De Ddwyrain

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau