Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant

Cyfatebol

💰 Yn ôl profiad Ar gau

Mae Cyfatebol yn edrych am Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfatebol sy'n gyfrifol am isdeitlo'r rhan helaeth o raglenni S4C. Rydym yn chwilio am isdeitlydd (neu dan hyfforddiant) i ymuno â'r tïm o baratoi isdeitlau Cymraeg a Saesneg.

Fel rhan o’r swydd byddwch yn paratoi isdeitlau ar gyfer amrywiaeth eang o raglenni S4C fel Cefn Gwlad, Sgorio a Pobol y Cwm. Byddwch yn gweithio ar raglenni sy'n cyrraedd ymhell o flaen y dyddiad darlledu, rhaglenni sy'n cyrraedd yn agos at y dyddiad darlledu a rhaglenni byw. Mae hyblygrwydd a'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol.

Byddai profiad o isdeitlo yn ddelfrydol, ond darperir hyfforddiant llawn ar bob agwedd o’r swydd (felly ddim yn anghenraid, felly ni ddylid oedi cyn cysylltu!).

Yn amlwg mae llygad am fanylder a sgiliau ieithyddol Cymraeg a Saesneg o safon uchel yn bwysig iawn i’r swydd. Yn ogystal, mae angen gallu gweithio yn gywir o dan bwysau amserlen dynn ar adegau. Ydych chi'n frwdfrydig? Rydym yn barod i ystyried hyblygrwydd o ran y math o gytundeb a pherthynas.

Cysylltwch os am sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth.

[email protected] neu [email protected]

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau