Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyllid - Gwasanaeth Pensiynau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Gwynedd Ar gau

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyllid - Gwasanaeth Pensiynau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes arbenigol yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol ym myd pensiynau llywodraeth leol, gyda golwg ar ddatblygu i ddod yn un o reolwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hwn.

Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes pensiynau i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth Strategol o’r Ysgol Fusnes ac Economeg, Prifysgol Loughborough.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes arbenigol yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol ym myd pensiynau llywodraeth leol, gyda golwg ar ddatblygu i ddod yn un o reolwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hwn.

Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory

Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus.   Bydd y hyfforddai proffesiynol yn cael profiad helaeth o gyfrifo a prosesu buddion megis ymddeoliadau ac marwolaethau. Mae cyfrifo buddion pensiwn aelodau yn gywir ac yn brydlon yn rhan mawr o waith y Gwasanaeth Pensiynau.

Bydd yr hyfforddai yn cael bod yn rhan o’r tîm sy’n datblygu prosesau priodol er mwyn gwella lefel y gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol. Mae'r Gwasanaeth yn ymroddedig i wella ei ddarpariaeth o wasanaeth a bydd yn adolygu'r mesurau sydd mewn lle i fonitro perfformiad er mwyn adnabod lle y gellir gwneud gwelliannau.

Mae sicrhau bod aelodau yn deall y cynllun pensiwn yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y penderfyniadau cywir mewn perthynas a’u buddion pensiwn. Felly mae cyfathrebu yn effeithiol gyda’r aelodau yn hollol bwysig i sicrhau hyn. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyflwyniadau rheolaidd, diweddaru’r safle we yn gyson ac cymryd rhan mwn digwyddiadau hyrwyddo. Mi fydd rhan o rôl yr hyfforddai yn helpu gyda’r agwedd yma o’r gwaith.

Bydd cyfle hefyd i fod yn rhan o ddatblygiad safle we a porth Hunan Wasanaeth Aelodau’r gwasanaeth. Bydd cyfle hefyd i ddysgu am waith ehangach y Cyngor fel rhan o’r swydd a fydd yn cyfoethogi profiad yr hyfforddai o weithio i’r Cyngor.

Cyflog

💰 £25,419 - £27,514

Lleoliad

📍 Gwynedd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau