Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd - Heno / Prynhawn Da

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Mae Tinopolis yn edrych am Ymchwilydd - Heno / Prynhawn Da

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ry’n ni’n chwilio am ymchwilydd cynnwys creadigol i ymuno â thîm Heno a Prynhawn Da. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm brwdfrydig ac uchelgeisiol ar raglenni sydd ymhlith y mwyaf poblogaidd ar S4C.

Mae’n gyfle cyffrous i greu cynnwys blaengar gwreiddiol ar gyfer rhaglenni a chyfresi aml lwyfan i S4C. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddiddordeb amlwg yn y diwydiannau creadigol a’r gallu i greu cynnwys apelgar.

Y prif ddyletswyddau fydd dod o hyd i straeon gwreiddiol poblogaidd ar gyfer Heno a Prynhawn Da, straeon adloniannol fydd yn creu sgwrs ar bob llwyfan darlledu. Byddwch yn paratoi eitemau stiwdio a phecynnau wedi’u ffilmio ar leoliad ac yn dilyn eitemau o’r syniad i’r sgrin. Bydd cyfleoedd hefyd i weithio ar raglenni eraill Tinopolis fel Ralio, Pawb a’i Farn a dogfennau amrywiol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 19 Mehefin 2022

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 19 Mehefin 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Llanelli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau