Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Cynhyrchu / PA

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Mae Tinopolis yn edrych am Gynorthwyydd Cynhyrchu / PA

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ry’ ni’n chwilio am PA profiadol neu dan hyfforddiant i ymuno â Tinopolis, i weithio fel aelod o’r tîm cynhyrchu ar raglenni S4C gan gynnwys yn benodol Heno a Prynhawn Da.

Byddwch yn gyfrifol am ddyletswyddau PA galeri yn ogystal â chreu, casglu a chwblhau’r holl ddeunydd gweinyddol angenrheidiol mewn perthynas â’r rhaglenni.

Sgiliau hanfodol:- Gan mai swydd PA profiadol neu dan hyfforddiant sy’ dan sylw, ry’ ni’n agored i ystyried amrywiaeth o sgiliau. Gan fod y swydd yn rhan anatod o’r tîm cynhyrchu, bydd dealltwriaeth o’r rhaglenni a diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru o fantais.

Oherwydd gofynion y rôl hon mae'r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 19 Mehefin 2022

Manylion Pellach

Oriau gwaith: cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 19 Mehefin 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Llanelli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau