Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Weithredwr

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Bangor Ar gau

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Brif Weithredwr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle unigryw i arwain a rheoli’r Gymdeithas, ac i gynnig gweledigaeth a chyfeiriad strategol i’w gwaith.

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn dymuno penodi Prif Weithredwr newydd wrth i ddeiliad presennol y swydd ymddeol ddiwedd Medi 2022.

Mae hwn yn gyfle unigryw i unigolyn deinamig a chreadigol a all feddwl yn strategol i arwain a datblygu’r gymdeithas genedlaethol ar gyfer cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol Cymraeg <> Saesneg trwy adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn ystod y 46 mlynedd diwethaf.

Prif gyfrifoldebau’r swydd yw:

- arwain a rheoli’r Gymdeithas, cynnig gweledigaeth at y dyfodol, a gosod cyfeiriad strategol i’w gwaith er mwyn sicrhau ffyniant a datblygiad y Gymdeithas.

- arwain ac ysbrydoli staff cyflogedig y Gymdeithas, a’r aelodau hynny sy’n cyflawni tasgau ar ran y Gymdeithas, gan sicrhau bod gan y Gymdeithas dîm o weithwyr sy’n gweithio’n effeithiol i gyflawni ei nod ac amcanion.

- sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol yn unol â chyfansoddiad y Gymdeithas trwy roi arweiniad, cyngor a chefnogaeth i Fwrdd y Cyfarwyddwyr, y byrddau a phwyllgorau eraill ar faterion a datblygiadau pwysig ym maes cyfieithu a dwyieithrwydd.

- cynrychioli’r Gymdeithas ar bwyllgorau perthnasol.

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw dydd Iau, 16 Mehefin 2022, cyn 1yp.

Cyflog

💰 £32,000 - £36,000

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau