Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi Adnoddau Dynol

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cefnogi Adnoddau Dynol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle gwych i ymuno â thim bywiog a blaengar AD Comisiynydd y Gymraeg. Prif bwrpas y swydd fydd darparu cyngor, cefnogaeth ac ymagwedd at wella'n barhaus at bob agwedd o AD yng nghylch bywyd gweithwyr; anwytho, recriwtio, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad, lles - yn ogystal â phrosiectau strategol AD.

Disgrifiad:

Dyletswyddau penodol

  • Cadw ffeiliau cyfrinachol staff yn gyfredol, rheoli’r wybodaeth a gedwir a sicrhau gweithrediad yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
  • Paratoi gwaith papur cytundebol ar gyfer staff yn unol â gofynion yr US AD.
  • Cydlynu gofynion y feddalwedd arbenigol Adnoddau Dynol trwy:
    • sicrhau bod y data yn gyfredol, yn gywir ac yn gyflawn a chynnal trafodaeth barhaus gyda rheolwyr llinell a swyddogion
    • goruchwylio’r elfen hunan wasanaeth o’r feddalwedd arbenigol Adnoddau Dynol a datrys problemau sy’n codi.
    • datblygu a theilwra adroddiadau ar y data o fewn y system AD er mwyn darparu gwybodaeth ac ystadegau perthnasol i’r Tîm Rheoli.
    • darparu hyfforddiant ac arweiniad i swyddogion ar ddefnydd effeithiol y system AD.
  • Adnabod a chynorthwyo gyda’r gwaith gweinyddol o ddarparu hyfforddiant – ymchwilio cyrsiau addas a chost effeithiol, trefnu dyddiadau a lleoliadau, a chodi archebion.
  • Cydlynu’r drefn datblygu perfformiad , cynghori swyddogion ar weithrediad y broses, coladu data yn ôl y gofyn a dwyn unrhyw faterion o bwys i sylw’r Uwch Swyddog Adnoddau Dynol.
  • Darparu cyngor ac arweiniad i swyddogion ar weithrediad polisïau adnoddau dynol, gan gyfeirio at yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol petai angen arweiniad pellach.
  • Cydlynu’r broses o recriwtio staff, ymateb i ymholiadau, hysbysebu, redactio ceisiadau, dosbarthu ceisiadau i reolwyr llinell a threfnu cyfweliadau.
  • Trefnu rhaglenni sefydlu ar gyfer staff sy’n newydd neu’n dychwelyd i’r gwaith. Cydlynu’r broses gyda rheolwyr llinell a sicrhau bod rhaglen wedi’i drefnu’n amserol ynghyd â chydlynu trefniadau Technoleg Gwybodaeth.
  • Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Adnoddau Dynol gyda threfniadau iechyd a diogelwch ym mhob swyddfa.
  • Gweithio ar y cyd gyda’r US Adnoddau Dynol i weithredu Cynllun Strategol yr adran. Golygir hynny i gynorthwyo gydag unrhyw dasg / prosiect yn ôl gofyn ac arweiniad yr US AD.
  • Cymryd rôl flaengar ar faterion lles i staff: ymchwilio a chydlynu gweithgareddau a seminarau, a chyfrannu’n rheolaidd ar faterion lles yn y cylchlythyr mewnol.
  • Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol

Dyletswyddau gweinyddol canolog achlysurol (fel rhan o dîm Swyddogion Cefnogi / Gweinyddol).

Gweithredir ar sail rota i gyfro gwyliau a salwch.

  • Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
  • Monitro negeseuon e-bost post@ yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
  • Gweinyddu ceisiadau am gyfieithu dogfennaeth, rhedeg pob dogfen drwy feddalwedd cof cyfieithu, codi archebion a chysylltu â chyfieithwyr yn ôl yr angen yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
  • Gweinyddu ceisiadau am ddefnydd o’r offer cyfieithu ar y pryd, gan sicrhau bod yr offer wedi’i wefru ac yn barod i’w ddefnyddio yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
  • Cofnodi manylion ceisiadau Iaith Gwaith, dosbarthu’r nwyddau a sicrhau cyflenwad digonol o nwyddau Iaith Gwaith i’w cadw gerllaw’r dderbynfa yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
  • Ymgymryd â thasgau redactio ar gyfer y tîm Llywodraethiant, a hefyd i fod yn barod i ddarparu cymorth redactio i dimoedd eraill yn ôl yr angen.
  • Darparu ysgrifenyddiaeth i gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Panel Cynghori yn absenoldeb y Cynorthwyydd Personol.

Dyletswyddau cyffredinol:

  • Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
  • Ymgymryd â rhai tasgau gweinyddol i gynorthwyo gyda chynnydd mewn llwyth gwaith yr adran Llywodraethiant, ar gais yr Uwch Swyddog.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol, rhesymol eraill yn ôl y galw.

Cyflog

💰 £25,860 - £29,430

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau