Rheolwr Marchnata
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y prif gampws fydd Abertawe neu Gaerfyrddin, ond dylid bod yn gallu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen, a bod yn barod i wneud hynny
£36,382 - £42,149 y flwyddyn
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Reolwr Marchnata i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Gaerfyrddin, a hynny'n llawn-amser ac yn barhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn gyfrifol am reoli tîm o Swyddogion Marchnata, a byddwch yn cael eich rheoli gan y Pennaeth Marchnata. Byddwch yn cynllunio, rheoli a gweithredu prosesau a fydd yn galluogi'r tîm Marchnata i gyflawni ei gynlluniau marchnata blynyddol. Byddwch yn datblygu strategaeth gynnwys 'orau yn y dosbarth' a phrosesau cwbl archwiliadwy er mwyn sicrhau cydymffurfedd parhaus â gofynion rheoliadol.
Byddwch yn gyfrifol am gynllunio, rheoli, mesur ac adrodd ar weithgarwch ac ymgyrchoedd marchnata, a disgwylir y bydd deiliad y swydd yn goruchwylio'r gwaith o lunio cynnwys, gan fonitro a gwerthuso gweithgarwch marchnata yn barhaus. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i feithrin perthnasoedd partneriaid busnes cynhyrchiol. Bydd disgwyl i chi hefyd ddirprwyo ar ran y Pennaeth Marchnata yn ôl yr angen. Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'. -** AMDANOCH CHI** -
I gael eich ystyried ar gyfer swydd Rheolwr Marchnata, bydd arnoch angen y canlynol:
- Cymhwyster lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster proffesiynol mewn marchnata neu faes perthnasol arall
- Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd marchnata
- Profiad amlwg o reoli prosiectau
- Profiad amlwg o lunio a lledaenu dirnadaeth farchnata, a hynny ym maes Addysg Uwch yn ddelfrydol
- Profiad o gyflwyno i gynulleidfaoedd lefel uchel
- Sgiliau rhwydweithio, negodi a dylanwadu mewn perthynas â rhanddeiliaid uwch
- Profiad o'r gallu i flaenoriaethu'n effeithiol a rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Sgiliau TG rhagorol
- Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch
- Profiad o reoli cyllideb
- Yn gallu gweithio'n rhan o dîm, mewn partneriaeth ag eraill, a heb oruchwyliaeth
- Yn cydnabod yr angen am gyfrinachedd ac yn amlygu cyfrinachedd priodol
- Yn gallu gweithio'n hyblyg ac yn barod i wneud hynny, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau eraill yn ôl y gofyn Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Profiad blaenorol o reoli llinell
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig). Gwybodaeth am arferion cyfathrebu effeithiol a phrofiad o lunio deunyddiau marchnata dwyieithog atyniadol
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Rheolwr Marchnata, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Cyflog
💰 £36,382 - £42,149
Lleoliad
📍 Abertawe, Caerfyrddin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Mae Barcud Cyf yn edrych am Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
**Cyfrifoldebau allweddol **
Cyfleusterau:
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan denantiaid busnes ynghylch Creuddyn, gan geisio ymdrin â materion tenantiaid busnes yn gyflym ac yn llwyddiannus ac mewn modd croesawgar, proffesiynol a chyfeillgar.
· Datblygu a chyflwyno dulliau gweithredu a strategaethau ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau yng nghyswllt rheoli cyfleusterau.
· Hyrwyddo a marchnata’n weithredol y cyfleusterau cynadledda a hyfforddi, gan ddefnyddio amryw ddulliau sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
· Bod yn gyfrifol am drefnu’r ystafelloedd hyfforddi / cynadledda fel eu bod yn addas i anghenion y sawl sy’n cynnal digwyddiadau.
· Bod yn gyfrifol am gynnwys y wefan / sianelau ar gyfryngau cymdeithasol ac am drefniadau archebu ystafelloedd neu ddesgiau a rennir, ar-lein a thros y ffôn.
· Yn gallu gweithio’n achlysurol gyda’r nos a phenwythnosau yn ddibynnol ar hyfforddiant/digwyddiadau cynadleddau.
· Cysylltu â sefydliadau arlwyo lleol er mwyn darparu gwasanaeth arlwyo allanol ar gyfer digwyddiadau yn ôl y gofyn.
· Trefnu te a choffi ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yng Nghreuddyn.
· Datblygu cydberthnasau â darparwyr llety lleol er mwyn cynnig cyfleoedd i’r sawl sy’n mynychu cynadleddau aros dros nos.
· Rhoi gwybod i denantiaid busnes am y prosesau a’r gweithdrefnau y bydd y Gymdeithas yn eu dilyn wrth ymdrin â’r materion y maent wedi’u codi ynghylch y cyfleusterau.
· Rhoi gwybod i denantiaid am gyfrifoldebau Barcud a’u cyfrifoldebau nhw o ran rheoli cyfleusterau ac eiddo.
· Cysylltu â’r Syrfëwr Cynnal a Chadw er mwyn ymchwilio i faterion a godir, a defnyddio’r weithdrefn gywir i roi gwybod am unrhyw angen am waith atgyweirio.
· Bod yn gyfrifol am gario allan a recordio profion Iechyd a Diogelwch wythnosol megis larymau, goleuadau brys ag ati.
· Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws y sefydliad i ddatrys unrhyw faterion a godir gan denantiaid busnes yng nghyswllt problemau sy’n ymwneud â chyfleusterau ac elfennau hanfodol.
· Gweithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Ddatblygu a Rheoli Asedau i gyflawni gwaith cynnal a chadw a chydymffurfio sydd wedi’i gynllunio, gan sicrhau bod tenantiaid busnes yn gwybod am y gwaith cyn iddo ddechrau ac yn gwybod am ba hyd y disgwylir iddo bara.
· Ymdrin â chwynion a chanmoliaeth ynghylch cyfleusterau Barcud, gan ddosbarthu’r cwynion a’r ganmoliaeth dan sylw i’r staff perthnasol fel y bo’n briodol.
· Cynnal a rheoli cronfeydd data ar gyfer ymholiadau tenantiaid ynghylch y cyfleusterau, gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n gywir ac yn briodol.
· Cynorthwyo gyda gweithgareddau ehangach yn y swyddogaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau.
· Dirprwyo dros y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau pan fo angen.
Pobl:
· Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
· Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
· Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
· Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
· Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
· Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
· Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
· Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
· Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.
Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn rhestr gyflawn, ac o gofio y bydd gofynion, deddfwriaeth a rheoliadau’n newid, efallai y bydd angen adolygu a diwygio’r dyletswyddau fel y bernir yn rhesymol ac yn briodol.
Cyflog
💰 £23,174 - £25,579
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd
Mae Grŵp Ymgynghori Lafan yn edrych am Ymgynghorydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn blaengar, sy’n rhannu ein brwdfrydedd a’n hangerdd i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig.
Disgrifiad:
Rydym yn cynnig:
Oriau gwaith hyblyg o’ch cartref.
Cyfle i gynnig eich arbenigedd er budd cleientiaid Lafan.
Cefnogaeth reolaidd i'ch arwain a’ch dysgu am yr economi wledig.
Cyfle i fod yn rhan o’r uchelgais i gefnogi busnesau a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru i ffynnu.
Gweithio fel rhan o dîm sydd am weld economi wledig gref a phawb ar hyd y gadwyn gyflenwi yn llwyddo.
Cyflog
💰 £34,000 - £40,000
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiectau Hyfforddiant Iaith
Mae IAITH yn edrych am Reolwr Prosiectau Hyfforddiant Iaith
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle cyffrous i arwain a datblygu ein prosiectau hyfforddiant iaith. Mae IAITH wedi bod yn arwain y maes hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith ers 1993 ac rydym yn darparu nifer o gyrsiau amrywiol mewn agweddau o bolisi, cynllunio ac ymddygiad iaith. Mae ein Academi IAITH yn darparu rhaglen o gyrsiau achlysurol yn ogystal â bwydlen o gyrsiau a ellid eu darparu i sefydliadau cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol a chwmnïau preifat yn uniongyrchol. Cewch ragor o wybodaeth am rai o’n cyrsiau yma: https://www.iaith.cymru/cy/academi-iaith/hyfforddiant-pwrpasol/. Rydym hefyd yn gweithredu nifer o brosiectau sy’n datblygu hyfforddiant iaith newydd https://www.iaith.cymru/cy/prosiectau/listen/ ac sy’n cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a’r mentrau iaith.
Cyflog
💰 £26,823 - £34,906
Lleoliad
📍 Castellnewydd Emlyn, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata
Mae Cwmni Theatr Volcano yn edrych am Reolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Volcano yn chwilio am berson egnïol, trefnus sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill, yn hyfedr gyda Google Workspace, WordPress, Canva, Photoshop a chymwysiadau perthnasol eraill, ac yn defnyddio ac yn mwynhau’r cyfryngau cymdeithasol.
Prif Leoliad: Swyddfa Volcano (Abertawe)
Oriau gwaith: Rhan amser 0.6 (22.5 awr yr wythnos)
Cyflog: £24,000 y flwyddyn pro rata
Bydd deiliad y Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata yn creu a datblygu ein presenoldeb drwy’r cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau argraffedig, a’n gwefan, gan sicrhau bod gwaith sy’n cael ei greu, ei gomisiynu neu ei gefnogi gan Volcano yn sylw’r cyhoedd cyn gynted ag y bo modd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol hefyd am oruchwylio seilwaith Volcano gan ddefnyddio Google Workspace. Byddant yn gyfrifol am farchnata gwaith Volcano a’r cyfleusterau sydd gan y cwmni i’w cynnig.
Dyddiad cau: 31/08/2022
Cyflog
💰 £24K pro rata
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Swyddfa Gweithredol
Mae Senedd Cymru yn edrych am Gynorthwy-ydd Swyddfa Gweithredol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A hoffech weithio mewn rôl brysur, gyfeillgar, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru?
Byddwch yn darparu cymorth o ddydd i ddydd i Gyfarwyddwyr unigol penodol gyda’u swyddogaethau a bod yn bwynt cyswllt cyntaf mewn perthynas â phob agwedd ar eu dyletswyddau.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n eithriadol o drefnus ac wedi arfer rheoli tasgau lluosog ar yr un pryd i fod yn rhan o'r tîm bach hwn sy'n darparu cymorth gweithredol i'n huwch-dîm a chyrff sy'n gwneud penderfyniadau.
Bydd angen ichi fod yn dda am weithio'n gywir i derfynau amser tyn, blaenoriaethu a pharhau’n ddigynnwrf.
Bydd angen profiad arnoch o weithio mewn amgylchedd prysur a gallu meithrin a chynnal ymddiriedaeth a hyder ein tîm uwch, ac ymdrin â materion sensitif a chyfrinachol.
Cyflog
💰 £25,945 - £31,137
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr/Cynorthwyydd Cyllid
Mae Innvois LTD yn edrych am Weinyddwr/Cynorthwyydd Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn rôl allweddol i weinyddu'r System Gynhyrchu Hyrddod, gan weithio gyda'r Tîm Bridio, Tyfwyr Hyrddod a'r Partneriaid Bridio.
Disgrifiad:
Yn adrodd i Brif Weithredwr a Chyfrifydd Rheolaeth y cwmni, mi fydd y Gweinyddwr yn gweithio ochr yn ochr a'r Tim Cynhyrchu/Bridio Hyrddod a staff y Swyddfa Gyllid.
- Yn gyfrifol am cadw taenlen Ram Master yn gyfoes
- Yn gyfirfol am gofnodi'r hyrddod sy'n tyfu mewn lleoliadau amrywiol, gan wneud anfonebau a hunan-filiau ble fo angen
- Yn gyfrifol am gynnal datganiadau Partneriaid Bridio Magu
- Cynorthwyro ar ddiwrnodau arwerthianau hyrddod er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth i'r tim anfonebu; gall hyn gynnwys teithio rhywfaint o fewn y DU
- Cynorthwyo i gynnal Cronfa Ddata Cwsmeriaid Sage (System CRM)
- Yn gyfrifol am uwchlwytho gwybodaeth hyrddod o'r Brif daenlen i system gyllid Sage 200
- Cynorthwyo i gynnal cofnodion stoc ar Sage 200
- Creu anfonebau cwsmeriaid ar Sage 200 pan fo angen
- Cyflwyno derbynebau arian parod ar Sage 200 pan fo angen
- Cymeryd taliadau cerdyn o gwmseriaid pan fo angen
- Cynorthwyo gyda gweinyddu arwerthianau a gwaith marchnata
- Cynorthywo gyda gweinyddu cofnodion symudiadau da byw
- Darparu dyletswyddau gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol gan gynnwys delio ag ymholiadau ffôn, cymryd a dosbarthu negeseuon
- Cynorthwyo â gwirio a nodi anfonebau cyflenwyr ar Sage 200
- Cynhyrchu sieciau a gwybodaeth ategol ar gyfer talu cyflenwyr yn ôl yr angen
- Bancio (fel bo angen)
- Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol cyffredinol i sicrhau rhediad esmwyth y swyddfa
- Dyletswyddau eraill y mae'r Prif Weithredwr neu'r Cyfrifydd Rheoli yn gofyn yn rhesymol amdanynt
Ar adegau bydd y swydd yn golygu teithio ledled Cymru a'r DU. Gofynnir i ymgeiswyd anfon CV a llythyr eglurhaol i Dewi Jones ar [email protected].
I drafod y rol, ffoniwch 01970 828236
Dyddiad Cau: 12pm, 22ain Awst 2022 Dyddiad Cyfweliad: 26ain Awst 2022
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyletswyddau penodol
1. Gweithredu prosesau cyllid yn unol â pholisïau a gweithdrefnau mewnol y sefydliad ac yn unol ag egwyddorion ac arferion da y maes cyfrifyddu.
2. Codi archebion ar gais ac yn unol ag awdurdodaeth fframwaith rheolaeth fewnol y sefydliad a’u dosbarthu at gyflenwyr.
3. Prosesu a thalu anfonebau cyflenwyr a threuliau staff yn amserol a gywir gan sicrhau bod y trafodion wedi eu cofnodi yn briodol, yn cydymffurfio â pholisïau’r Comisiynydd, a bod yr awdurdodaeth briodol wedi ei dderbyn.
4. Cadw cofnodion a thystiolaeth gyflawn a chywir o’r trafodion cyfrifyddu ar systemau’r cyfrifyddu a systemau eraill y sefydliad.
5. Delio gydag ymholiadau gan gyflenwyr a datrys unrhyw anghydfod.
6. Cwblhau prosesau rheolaeth ariannol sylfaenol diwedd y mis yn gywir a chyflawn, ac yn unol â’r amserlen.
7. Paratoi adroddiadau safonol i’r Dalwyr Cyllideb yn fisol, eu dosbarthu ac ymchwilio i ac ymateb i unrhyw ymholiadau gan y Dalwyr Cyllideb.
8. Paratoi’r Adroddiad Cyllid misol sy’n cael ei gyflwyno i’r Tîm Rheoli yn adrodd ar berfformiad ariannol y sefydliad.
9. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda chynllunio ariannol, megis paratoi'r Amcangyfrif ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chyllideb Flynyddol y sefydliad.
10. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda pharatoi’r Cyfrifon Blynyddol a chefnogi gyda’r archwiliad.
11. Mewn cydweithrediad gyda’r Tîm Adnoddau Dynol prosesu cyflogau staff, gan:
§ Sicrhau bod y prosesu yn gywir â chyflawn yn unol â chyfarwyddiadau a rheoliadau a chyfreithiau perthnasol;
§ Gwneud ymholiadau perthnasol a datrys ymholiadau yn ôl yr angen;
§ Derbyn awdurdodaeth briodol i’r trafodion;
§ Codi taliadau i staff ac i’r awdurdodau perthnasol yn unol â’r amserlen;
§ Prosesu trafodion cyflogau i’r system gyfrifyddu yn gywir, yn gyflawn ac yn amserol; a
§ Sicrhau bod adroddiadau a datganiadau yn cael eu hanfon at awdurdodau perthnasol yn unol ag amserlenni.
12. Cydymffurfio gyda, a chael dealltwriaeth fanwl o bolisïau a gweithdrefnau yn y meysydd dan gyfrifoldeb y tîm. Gweithredu yn unol â’r polisïau a chynghori staff ar y polisïau:
§ Polisi Rheolaeth Ariannol
§ Polisi a Gweithdrefnau Prynu Nwyddau a Gwasanaethau
§ Polisi Teithio a Chynhaliaeth.
13. Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol
14. Adnabod a chynorthwyo gyda’r gwaith gweinyddol yn y maes cyllid
15. Cynorthwyo gydag unrhyw waith gweinyddol ac ymarferol er mwyn darparu adnoddau a gwasanaethau swyddfa i staff y sefydliad yn unrhyw un o’r lleoliadau.
16. Cynorthwyo’r Swyddog TG gydag unrhyw waith gweinyddol ac ymarferol, yn ôl y gofyn.
Dyletswyddau gweinyddol canolog achlysurol (fel rhan o dîm Swyddogion Cefnogi / Gweinyddol). Gweithredir ar sail rota i gyfro gwyliau a salwch.
17. Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
18. Monitro negeseuon e-bost post@ yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
19. Gweinyddu ceisiadau am gyfieithu dogfennaeth, rhedeg pob dogfen drwy feddalwedd cof cyfieithu, codi archebion a chysylltu â chyfieithwyr yn ôl yr angen yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
20. Cofnodi manylion ceisiadau Iaith Gwaith, dosbarthu’r nwyddau a sicrhau cyflenwad digonol o nwyddau Iaith Gwaith i’w cadw gerllaw’r dderbynfa yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant.
21. Ymgymryd â thasgau redactio ar gyfer y tîm Llywodraethiant yn absenoldeb y Swyddog Cefnogi Llywodraethiant, a hefyd i fod yn barod i ddarparu cymorth redactio i dimoedd eraill yn ôl yr angen.
22. Darparu ysgrifenyddiaeth i gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Panel Cynghori yn absenoldeb y Cynorthwyydd Personol.
Dyletswyddau cyffredinol:
1. Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
2. Ymgymryd â gwaith gweinyddol i gynorthwyo’r timoedd eraill sy’n cynnal gwasanaethau cefnogi’r sefydliad.
3. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol, rhesymol eraill yn ôl y galw.
Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd
Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol di-elw sy’n bodoli i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac sydd â’r nod o gyfrannu at gynnal y defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol, cefnogi rhwydweithiau cymdeithasol y Gymraeg a chynyddu statws y Gymraeg ym mhob sector o fewn Dinas a Sir Casnewydd.
Gwaith Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Casnewydd yw datblygu a chryfhau cynnig a gwasanaethau’r Fenter i gymunedau Casnewydd a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith o fewn cymunedau Casnewydd. Prif ddyletswyddau’r rôl yw llunio, cydlynu a gweithredu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau amrywiol a chynhwysfawr i bobl o bob oed ar hyd a lled sir Dinas Casnewydd er mwyn iddynt gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Bydd yr unigolyn delfrydol yn gallu datblygu syniadau newydd ac arloesol i barhau i adeiladu a datblygu darpariaeth a rhaglenni presennol y Fenter. Chwiliwn am berson egnïol a brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm yn effeithiol. Byddwch yn gallu cysylltu’n hyderus gydag ystod o bobl ac yn awyddus ac yn barod i ddysgu pethau newydd ar hyd y ffordd hefyd.
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol.
Cyflog
💰 £21,074- £23,111
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gyfieithydd a Phrawf Ddarllenydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru. Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. **Nod y Rôl ** I ddarparu a chydlynu gwasanaeth cyfieithu a phrawf ddarllen i brosiect Cyswllt Ffermio. Prif Gyfrifoldebau · Cyfieithu trawsgrifiadau fideo, papurau, adroddiadau, taflenni, manylebau, erthyglau, ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill ar gyfer Cyswllt Ffermio yn ôl y galw
· Prawf ddarllen deunydd ysgrifenedig gan sicrhau cywirdeb ac ansawdd
· Defnyddio meddalwedd cof cyfieithu
· Gweithio’n agos gyda’r tîm marchnata i sicrhau fod deunyddiau’n cael eu cynhyrchu’n gywir
· Cynnal gwybodaeth gyfredol ar faterion yn ymwneud â chyfieithu a phrawfddarllen a mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol
· Diweddaru cronfa ddata o waith cyfieithu mewnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
• Addysg hyd at lefel gradd
• Profiad gwaith dangosol mewn maes perthnasol
• Aelodaeth sylfaenol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg) neu barodrwydd i weithio tuag at ennill y safon honno o fewn cyfnod penodol
• Profiad ymarferol o gyfieithu o Gymraeg i Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg
• Gwybodaeth arbenigol o Gymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau cyfieithu’n fanwl gywir, gydag ymwybyddiaeth o ofynion/geirfa’r maes sydd ynghlwm â’r deunydd
• Sgiliau ysgrifennu rhagorol gyda’r gallu i gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd glir
• Sgiliau prawf ddarllen eithriadol
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i gydweithio gyda staff a chyfieithwyr eraill
• Gallu cwblhau cyfieithiadau cywir yn y ddwy iaith, a chynnal ansawdd a safon uchel ym mhob agwedd o’r broses
• Sgiliau cydlynu a gweinyddol rhagorol
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
• Sgiliau technoleg gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, meddalwedd cof cyfieithu, E-bost a’r Rhyngrwyd
• Gallu ysgogi ei hun i reoli rhaglen waith gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethu gwaith yn effeithiol o fewn amserlen dynn, gyda ffocws clir ar ansawdd • Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm • Gallu cadw data mewn cydymffurfiaeth â deddfau diogelu data perthnasol Dymunol
· Aelodaeth Gyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg)
· Dealltwriaeth o hanfodion llunio copi dwyieithog o’r briff cychwynnol hyd at gyflwyno’r deunydd gorffenedig gan gydlynu bob agwedd o’r broses
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Gwybodaeth am y rhaglen Cyswllt Ffermio **Gwneud Cais ** Gellir gwneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen monitro cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Helen Lowcock James ar 02920 467 402 Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 yb, 5 Medi 2022. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd ar 12 Medi 2022. Os nad yw’r dyddiad hwn yn gyfleus, nodwch hyn ar eich ffurflen gais. Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth Gweler ein Polisi Cyfartaledd ac Amrywiaeth ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £24,657-£30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd/Rheolwr Rhaglen
Mae Barnardo's yn edrych am Arweinydd/Rheolwr Rhaglen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n chwilio am her newydd yn eich bywyd? Oes gennych chi'r angerdd a'r sgiliau i newid dyfodol llesiant pobl ifanc yn Ynys Môn a Gwynedd? A hoffech wneud hynny drwy sicrhau bod y bobl ifanc eu hunain yn gyrru'r newid hwn? Yna darllenwch ymlaen!
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig i fwrw ymlaen â phrosiect 5 mlynedd newydd y Loteri Genedlaethol sy'n cael ei ariannu gan y Gymuned ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd, lle mae'r weledigaeth yn creu dyfodol o fwy o lesiant a gwytnwch i bobl ifanc. Fel Arweinydd/Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn gyfrifol am ddechrau a rheoli'r prosiect arloesol drwy gyfnod datblygu cychwynnol o 12 mis ac wedyn ymgorffori a dylanwadu ar newid am gyfnod pellach o 4 blynedd. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gynllunio a'i ddefnyddio'n llawn gyda phobl ifanc, asiantaethau partner a chymunedau Ynys Môn a Gwynedd i sicrhau bod y systemau sy'n cael eu newid yn cyd-fynd ag anghenion lleol.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Cyflog
💰 £46,380
Lleoliad
📍 Ynys Môn, Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu'r Gymraeg yn y Gweithle
Mae Cyngor Sir Penfro yn edrych am Swyddog Datblygu'r Gymraeg yn y Gweithle
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
Bod yn gyfrifol am gydlynu cyrsiau hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle ar draws y Cyngor.
Gweithio tuag at dargedau fel y’u gosodwyd ac y cytunwyd arnynt mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Sir Penfro a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i gynyddu’r canfyddiad o’r Cyngor fel un sy’n darparu amgylchedd gwaith dwyieithog ac i fodloni gofynion Rheoliadau Safonau’r Gymraeg yn well.
Gwella dealltwriaeth a chanfyddiadau o’r defnydd o’r Gymraeg yn ysgolion a chymunedau Sir Benfro er mwyn ysgogi mwy o barodrwydd ymhlith staff, gan gynnwys rheolwyr, ac aelodau i ymgysylltu’n gadarnhaol â’r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a ddarperir drwy’r rhaglen.
Sefydlu a chynnal cydberthnasau gwaith cadarnhaol gyda’r rheolwyr y mae eu staff yn ymwneud â’r rhaglen gan gydnabod natur ddeinamig hyfforddiant a datblygiad, a’r angen am agwedd hyblyg a rhagweithiol at y rôl er mwyn ymgysylltu’n weithredol ag unigolion a grwpiau.
Arwain ar nodi anghenion hyfforddi a datblygu iaith Gymraeg y cyflogeion ac aelodau.
Cynllunio rhaglenni hyfforddi a datblygu, a hwyluso dysgu gyda grwpiau unigol, wrth adolygu cynnydd a chyfrannu at systemau gwerthuso, i sicrhau gwelliant ac effeithiolrwydd parhaus.
Datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu iaith Gymraeg dwys, hwyluso dysgu gydag unigolion a grwpiau tra’n cyfrannu at fonitro’r rhaglenni er mwyn adrodd i Grŵp Cyflawni Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Darparu hyfforddiant pwrpasol i feysydd penodol o'r busnes pan ofynnir amdano.
Darparu cynllun cymorth un-i-un i bartneru a chefnogi uwch-reolwyr (targed rhif 2). Datblygu, cynnal a hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau cymorth dysgu anffurfiol, sy'n ysgogi recriwtio a chadw, ac yn hyrwyddo cysylltedd a hyder ymhlith dysgwyr.
Ystyried costau ac amserlenni gweithgareddau a gynllunnir gan gadw o fewn y cyllidebau a'r amserlenni a nodwyd.
Datblygu adnoddau hyfforddi, gan gynnwys paratoi nodiadau ac arddangosiadau gweledol gan ddefnyddio gwybodaeth ac ymchwil eich hun.
Cadw cofnodion ar bresenoldeb/absenoldeb mewn hyfforddiant a digwyddiadau i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n gyfredol at ddibenion monitro ac adrodd.
Meddu ar wybodaeth am bolisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol.
Hyrwyddo diogelwch gwybodaeth a chyfrinachedd yn unol â deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau'r cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw waith ychwanegol a ystyrir yn briodol i natur y swydd.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Sir Benfro
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu Cynlluniau Tai – Tai ac Eiddo
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu Cynlluniau Tai – Tai ac Eiddo
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y (Pecyn Gwybodaeth)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
• Cyfrannu’n weithredol at gyfathrebu cynlluniau tai yr Adran
• Datblygu a gweithredu Cynllun Cyfathrebu ar gyfer y Cynllun Gweithredu Tai
• Cydweithio gyda’r Uwch Swyddog Gweithredol, swyddogion prosiect a gwasanaeth cyfathrebu corfforaethol y Cyngor ar sicrhau bod materion yn ymwneud â chynlluniau tai yn cael eu rhannu’n rhagweithiol gydag Aelodau Etholedig ac yn gyhoeddus yn ôl yr angen
• Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer materion cyfathrebu cynlluniau tai yr Adran
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sion Elwyn Hughes ar 01286 679660
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 25/08/22
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £28,226 - £30,095
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych am Gogydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym ni’n dymuno penodi Cogydd i ymuno â’n tîm arlwyo yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth a phrofiad da o ran paratoi a darparu gwasanaeth bwyd gwych, gwybodaeth am safonau Hylendid Bwyd, ac yn berson creadigol ac ysbrydoledig.
Cyflog
💰 £20,255 - £23,008
Lleoliad
📍 Ponterwyd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Maes Ardal Arfordirol a Chymorth Gweinyddol (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Menter Iaith Conwy yn edrych am Swyddog Maes Ardal Arfordirol a Chymorth Gweinyddol (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mi fydd y swyddog yn gyfrifol am arwain gwaith maes Menter Iaith Conwy yn ardal arfordirol y Sir.
Amcan y gwaith yw creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio hefo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal o fewn y diriogaeth.
Mae hefyd rhywfaint o ddyletswyddau gweinyddol megis cadw cofnodion, materion diogelu data, cofnodi oriau staff ayyb.
Cyflog
💰 £19,000 - £22,000
Lleoliad
📍 Llanrwst
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Canolfan Gyswllt (x 4 swydd) - (18.5 / 37 Awr)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Ymgynghorydd Canolfan Gyswllt (x 4 swydd) - (18.5 / 37 Awr)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm Ffit Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel rhan o’r tîm Canolfan Gyswllt sydd newydd ei sefydlu.
Cyflog
💰 £19,264 - £19,650
Lleoliad
📍 Llandudno, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgyrchoedd
Mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych am Swyddog Ymgyrchoedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn chwilio am Swyddog Ymgyrchoedd i weithio gyda’n grwpiau ymgyrchu a'n rhanbarthau i gefnogi ein hymgyrchoedd ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chyfrannu at lwyddiant ymgyrchoedd y Gymdeithas o fewn meysydd addysg, cymunedau, hawliau iaith a’r byd darlledu a digidol mewn cyfnod tyngedfennol i’r iaith a’n cymunedau.
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithredwr Comisiynu (Sgriptio)
Mae S4C yn edrych am Weithredwr Comisiynu (Sgriptio)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Gweithredwr Comisiynu i gyfrannu at y broses o gomisiynu cynnwys wedi ei sgriptio ar draws bob llwyfan. Trwy weithio'n agos gyda'r Pennaeth Sgriptio, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr ac yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
Mae CADMHAS yn edrych am Brentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae CADMHAS yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig.
Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n ddarparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.
Rydym yn penodi pedwar EGMA llawn amser (37 awr yr wythnos) i ymuno a’n cynllun prentisiaeth. Gofyniad y cynllun yw bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cwblhau cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4, trwy fynychu coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis. Bydd gweddill yr amser yn cael ei rhannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol, gan gychwyn gweithio ar achosion yn ymwneud a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS). Rydym eisiau penodi un person i weithio yng Ngwynedd ac Ynys Môn (lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol), dau i weithio yng Nghonwy a Sir Ddinbych (gydag un post lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a’r ail lle mae’r Gymraeg yn ddymunol iawn) ac un ar gyfer Sir Fflint a Wrecsam (gyda’r Gymraeg yn ddymunol).
Cyflog
💰 £22,287
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd Graffig
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Ddylunydd Graffig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Ddylunydd creadigol iawn i ymuno â'n tîm gwobredig.
Mae arnom angen rhywun sy'n wych am adrodd straeon data ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd drwy ddylunio effaith uchel. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys fideos wedi'u hanimeiddio; ffeithluniau a dylunio digidol, i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd drwy ein gwahanol sianeli.
Ydych chi'n angerddol, yn drefnus ac yn fedrus mewn meddalwedd dylunio?
Ydy hyn yn swnio fel chi?
Hoffem glywed gennych...
Cyflog
💰 £27,024 - £32,739
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Olygydd Newyddion Digidol S4C
Mae S4C yn edrych am Uwch Olygydd Newyddion Digidol S4C
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â greddf newyddiadurol gryf a syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddenu dilyniant newydd yn enwedig ymysg pobol ifanc.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes
Mae S4C yn edrych am Gomisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel un o dîm o Gomisiynwyr Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.
Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol a'r BBC drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.
Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi (x 2 swydd)
Mae WWF Cymru yn edrych am Swyddog Polisi (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio gyda thîm ymroddedig a defnyddio’ch angerdd dros ddatblygu polisïau ym meysydd cadwraeth a chynaliadwyedd i helpu i achub ein planed.
Cyflog
💰 £26,713
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arbenigwr Materion
Mae WWF Cymru yn edrych am Arbenigwr Materion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â ni fel Arbenigwr Materion Cyhoeddus a defnyddiwch eich arbenigedd ym maes materion cyhoeddus i ddylanwadu ar system wleidyddol Cymru a’r rhanddeiliaid perthnasol.
Cyflog
💰 £38,433
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!