Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cynnal a Chadw Ardal

Grŵp Cynefin

💰 £32k 📍 Y Bala📍 Dinbych +2 Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Swyddog Cynnal a Chadw Ardal

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle i unigolyn sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai yn yr adran Cynnal a Chadw, mewn awyrgylch Gymreig lle mae'r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i'r teulu.

Disgrifiad:

  1. Cyfarwyddo gyda stoc tai y Gymdeithas yn eich ardal weithredol.
  2. Archwilio gwaith cynnal a chadw – trwsio, ailosod ac adnewyddu - yn eich ardal weithredol, gan sicrhau fod ansawdd y gwaith yn rhagorol, yn rhoi gwerth am arian, ac yn cydymffurfio â chod ymarfer y Gymdeithas, Rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac arferion gorau perthnasol.
  3. Cydweithio gyda swyddogion Tai mewn achosion o ail-osod, trosglwyddo, neu gyfnewid eiddo i sicrhau proses rwydd a chyflym ac effeithlon.
  4. Gofalu bod tenantiaid yn derbyn ymateb prydlon, effeithiol ac ysgrifenedig i geisiadau am waith, a cheisiadau i addasu eu tai. Ymweld ag eiddo er mwyn penderfynu ar y datrysiad gorau a chadw cofnod perthnasol.
  5. Paratoi disgrifiadau gwaith eglur, a phwrcasu gwaith gan gontractwyr oddi ar y rhestr contractwyr cydnabyddedig neu gyfarwyddo creffwyr mewnol.
  6. Cydymffurfio â gweithdrefnau eiddo a rheolau ariannol a phwrcasu y Gymdeithas wrth godi gwaith, ac wrth wirio anfonebau ar ddiwedd y gwaith.
  7. Arolygu / ôl-archwilio ansawdd gwaith y contractwyr a’r gweithlu mewnol, fel rhan o raglen archwilio reolaidd.
  8. Cyfrannu at adolygiadau perfformiad y contractwyr a’r gweithlu mewnol, a chynnig gwelliannau.
  9. Sicrhau fod cwynion ac anfodlonrwydd yn cael sylw priodol.
  10. Cynnal archwiliadau cyflwr eiddo er mwyn trefnu’r rhaglen adnewyddu flynyddol a chydymffurfio gyda'r safon a gweithdrefnau archwiliadau sydd wedi eu cytuno.
  11. Cynnal archwiliadau rheolaidd o fannau cymunedol mewnol ac allanol ystadau (tân, iechyd a diogelwch, tâl gwasanaeth, blerwch, sbwriel, etc.)
  12. Cynnal archwiliadau o eiddo ‘tai a chefnogaeth’ gyda’r swyddogion Tai.
  13. Bod yn barod i gyfrannu at y gwasanaeth ‘ar-alwad’ .
  14. Bod yn barod i ymateb mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa arferol.
  15. Cefnogi’r Cydlynwyr a Rheolwyr gyda gwariant effeithiol y gyllideb.
  16. Gofalu bod gweithgareddau’r Tîm yn cyflawni polisïau, gweithdrefnau, safonau, targedau, cyllidebau ac anghenion llywodraethu Grŵp Cynefin.
  17. Ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol yn broffesiynol, yn unol â safonau gofal cwsmer Grŵp Cynefin
  18. Cynrychioli’r gwasanaeth yn fewnol ac allanol fel sydd angen.

Cyflog

💰 £31,565

Lleoliad

📍 Y Bala, Dinbych, Penygroes, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau