Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Arweinydd Tîm Plant a Phobl Ifanc

Grŵp Cynefin

💰 £28k - £31k 📍 Hyblyg📍 Gwynedd +1 Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Plant a Phobl Ifanc

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atadl digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.

Disgrifiad:

  1. Sicrhau dealltwriaeth clir o ddarpariaeth cefnogaeth yn y maes cam-drin domestig gan ymateb i anghenion staff a plant a phobl ifanc fel bod Gorwel yn ffynnu.
  2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn y gymuned yn cael eu hateb yn effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth cefnogaeth holistig a pherson ganolig sy’n arwain at hybu llesiant ac diogelwch.
  3. Yn annibynnol, goruchwylio gan gymryd cyfrifoldeb o drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithiwyr cefnogi a mentoriaid y gwasanaeth.
  4. Adnabod a chynllunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o broses recriwtio, medrusrwydd a disgyblu.
  5. Gweithredu’n annibynnol o fewn ffiniau’r swydd, gan benderfynu pryd mae’n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth am arweiniad.
  6. Cyfrifoldeb i sicrhau bod trefniadau priodol i reoli a monitro risg gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risg yn hyderus ac yn effeithiol.
  7. Arwain ac annog gwaith ataliol gan godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â trais yn y cartref sy’n effeithio plant a phobl ifanc.
  8. Ymateb yn gadarn gan weithredu ar unrhyw bryderon, Amddiffyn Plant neu Amddiffyn Oedolion Bregus gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth cywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
  9. Rhoi arweiniad clir i weithwyr cefnogi drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynllun cefnogi plant a phobl ifanc.
  10. Yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r drefn cefnogi yn unol â gofynion statudol, deddf gwarchod a chytundeb gwasanaeth arianwyr.
  11. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau, ystadegau a gofynion arianwyr.
  12. Paratoi adroddiadau o safon uchel yn chwarterol ar gyfer adolygiadau monitro arianwyr (e.e. Llywodraeth Cymru) gan gynnwys mynychu cyfarfodydd chwarterol monitro.
  13. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i ddatblygu’r gwasanaethau ac unrhyw gynlluniau newydd.
  14. Yn rhan o baratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth comisiynwyr gan weithredu ar argymhellion. (gan gynnwys adrodd yn ôl a’r ddeilliannau Ar-Trac)
  15. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
  16. Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth a thrais yn y cartref. Yn cynnwys cyfarfodydd ‘Early Hub’ a chyfarfod gweithredol Ar-Trac.
  17. Ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaeth cymryd rhan flaenllaw o adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi.
  18. Arwain wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar gyfer y cynllun gan annog gwaith grŵp.
  19. Gwybodaeth eang am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc, cam-drin domestig a chefnogaeth.
  20. Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”

Yn rhinwedd y swydd; parhau i gefnogi ‘llwyth achosion’ plant a phobl ifanc yn unol ac angen y cynllun. 

Cyflog

💰 £28,235 - £30,854

Lleoliad

📍 Hyblyg, Gwynedd, Ynys Môn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau