Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer

Grŵp Cynefin

💰 £22k pro rata 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Gynghorydd Gwasanaeth Cwsmer

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle i unigolyn sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai yn yr adran gwasanaeth cwsmer, mewn awyrgylch Gymreig lle mae'r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i'r teulu.

Disgrifiad:

  1. Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer bob amser, gan ddatblygu perthnasoedd effeithiol gyda’r cwsmeriaid a gweithio gyda hwy i sicrhau’r profiad a’r canlyniad gorau posibl iddynt. 
  2. Ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a darparu cyngor, gwybodaeth a datrysiad i ystod eang o ymholiadau mewn modd amserol, o’r radd flaenaf, gan ddangos empathi a chadw at y polisïau a’r gweithdrefnau cyfredol. 
  3. Adnabod materion cymhleth a dwys a’u hesgyn i’r adran briodol o fewn y Gymdeithas.
  4. Gwneud defnydd cywir o’r System Tai er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid.
  5. Gweithio mewn modd hyblyg, gofalgar a sensitif.
  6. Cefnogi’r Rheolwr a’r Arweinyddion Tîm i gyfrannu syniadau sy’n darparu gwelliannau i safon y gwasanaeth cwsmer.
  7. Didoli’r post ar gyfer timau ac adrannau a chofnodi gohebiaeth bwysig a’u hanfon i’r swyddogion perthnasol. Ymdrin ag unrhyw ohebiaeth neu waith gweinyddol yn ymwneud â chyfrifoldebau’r Tîm Gwasanaeth Cwsmer.
  8. Sicrhau bod y brif dderbynfa ar agor i’r cyhoedd yn ystod oriau arferol y swyddfa yn ddyddiol.
  9. Cofnodi cwynion ac ymdrin â hwy gan ddilyn y polisïau cyfredol a defnyddio’r prosesau a’r gweithdrefnau cywir, gan sicrhau bod unrhyw gŵyn yn derbyn sylw priodol. 
  10. Cynorthwyo gyda chyrraedd safonau gwasanaeth, Cytundebau Lefelau Gwasanaeth yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol.
  11. Cefnogi Adrannau gyda dosbarthu cyhoeddiadau ynghyd ac unrhyw ohebiaeth gyffredinol a phostiadau mawr e.e. datganiadau rhent ar ran y Gymdeithas.
  12. Cynnal a diweddaru gwybodaeth proffil tenantiaid yn barhaus i sicrhau bod gennym ni’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cwsmeriaid a’u hanghenion a chadw hynny’n gyfredol.
  13. Derbyn a chofnodi taliadau rhent fel bo’n ofynnol.
  14. Derbyn a chofnodi adborth gan gwsmeriaid, ac ymateb i’r sylwadau lle bo’n briodol.

  Gwella boddhad cwsmeriaid a’r ddarpariaeth o wasanaeth yn barhaus, gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu a hyrwyddo’r gwasanaeth a nodi gwelliannau i’r prosesau. 

Cyflog

💰 £22,140 pro rata

Lleoliad

📍 Penygroes, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau