Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd Iaith Gymraeg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

💰 £26k - £32k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd ag ymagwedd hyblyg gyfrannu at waith pwysig y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ymgeiswyr, waeth beth fo’u hamgylchiadau neu eu lleoliad daearyddol. Mae ein pencadlys modern wedi’i leoli wrth gyffordd 41 yr M4 ar bwys gorsaf trên Baglan, ac yno rydyn ni’n hyrwyddo gweithio hyblyg. Er mai hwn yw lleoliad swyddogol ar gyfer y swydd, bydden ni’n awyddus i glywed gan bobl sydd eisiau hyblygrwydd yn eu lleoliad gwaith. Hefyd byddai’r swydd hon yn addas i rywun sydd eisiau rhannu swydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau Cymraeg cadarn, ac yn hyderus i’w defnyddio i greu dogfennau ysgrifenedig. Dylech chi gynnwys tystiolaeth o gyfieithu mewn lleoliad ffurfiol ar eich cais. (Cymraeg/Saesneg. Saesneg/Cymraeg).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â gwahanol ddulliau o gyfieithu. Y dull pwysicaf yw trosi dogfennau o’r naill iaith i’r llall, gan gynnwys adroddiadau, llythyrau a thaflenni gwybodaeth. Hefyd, bydd gwaith trawsgrifio achlysurol o’r Gymraeg i’r Saesneg a’r Saesneg i’r Gymraeg.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n fanwl gywir, a meddu ar ddealltwriaeth dda o becyn Microsoft Office. Byddai profiad blaenorol o feddalwedd cyfieithu proffesiynol hefyd yn fuddiol.

Byddai profiad blaenorol a gwybodaeth o waith y GIG yn fanteisiol, ynghyd â phrofiad o a/neu gymhwyster mewn cyfieithu ar y pryd, ond nid yw hyn yn hanfodol.

Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu ein staff a sicrhau bod gan yr holl dîm gydbwysedd priodol rhwng eu bywydau a’u gwaith.

Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Cyflog

💰 £25,655 - £31,534

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

WWF Cymru

💰 £38k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £27k pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £27k 📍 Bangor Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £10k 📍 Sir Benfro📍 Abertawe +4 Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £42k 📍 Ceredigion Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Hyblyg Ar gau

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £26k - £28k 📍 Llandeilo Ar gau

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £26k - £28k 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata 📍 Ceredigion Ar gau

Cyfrifwyr Aeron Accountants

💰 £22k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £33k - £35k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Llangrannog Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £31k - £33k 📍 Caernarfon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Caerdydd Ar gau

EIDCymru

💰 £26k 📍 Aberystwyth Ar gau

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

💰 £19k 📍 Brynmenyn Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k - £29k 📍 Llangefni📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Hyblyg Ar gau

GwE

💰 £20k - £22k 📍 Bae Colwyn Ar gau

GwE

💰 S3 (pwynt 23-25) 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22k pro rata 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

💰 £26k - £32k 📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £26k 📍 Abertawe Ar gau