Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd TG a Gwasanaethau Digidol

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Gynorthwyydd TG a Gwasanaethau Digidol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922, wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Heddiw mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau. Mae hyn wedi eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a chymdeithas, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder.

Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.   Y Swydd

Ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â thîm TG Urdd. Rydym yn gweithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu'r systemau a'r gefnogaeth TG sy'n ofynnol i symud ymlaen yn unol â'n cynllun strategol.

Mae pandemig COVID wedi cyflymu ein cynlluniau trawsnewid digidol ac rydym yng nghanol ein taith i strategaeth cwmwl yn gyntaf. Rydym yn trosglwyddo ein prif systemau data i Microsoft Dynamics 365 ac yn ehangu ein defnydd o feddalwedd Microsoft 365 a Microsoft Azure.

Bydd y rôl hon yn darparu cefnogaeth TG i'n holl leoliadau ledled Cymru. Er mai cefnogaeth o bell fydd mwyafrif y rôl, bydd angen teithio i'n safleoedd o bryd i'w gilydd pan fydd anghenion yn codi na ellir delio â nhw o bell.

Byddwch hefyd yn cefnogi Digwyddiadau mawr fel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, cystadlaethau chwaraeon cenedlaethol gan gynnwys rygbi 7 pob ochr a Gala nofio yn ogystal a’n gwersylloedd poblogaidd.   Croesawir ceisiadau oddi wrth ddysgwyr Cymraeg yn ogystal â Chymry Cymraeg.   Am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Lewis (Pennaeth TG) ar 07976003341 neu [email protected] I gyflwyno cais, anfonwch CV a Llythyr Cais dim mwy ‘na 400 gair at yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau – Byddwn yn cadw’r swydd yn agored hyd nes byddwn wedi penodi ymgeisydd addas.

**Dyddiad Cyfweld **– Yn unol a ceisiadau a trafodaeth efo ymgeiswyr.   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. 

Cyflog

💰 £19,601 - £22,058

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau