Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin. Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol sy’n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a phrofiad gwerthfawr ym maes marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y person a gaiff ei benodi wybodaeth a phrofiad o farchnata gan gynnwys y dulliau cyfathrebu diweddaraf ynghyd â sgiliau rhyngbersonol da. Ry’n ni’n disgwyl i’r person a gaiff ei benodi fod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan feddu ar ddawn greadigol a dull rhagweithiol, hyblyg at bob agwedd o’r gwaith i greu cynnwys digidol deniadol. Mae’r gallu i weithio’n yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â’r gallu i chwilio am gyfleoedd creadigol i hyrwyddo amcanion y Mudiad.

Disgrifiad:

Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:   · Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu’r Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes – gan ganolbwyntio ar brosiect Clwb Cwtsh yn benodol   · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol Mudiad Meithrin yn rheolaidd gan lunio cynnwys cywir, amrywiol, deniadol sy’n ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid   · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru platfformau digidol Clwb Cwtsh gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod y cynnwys yn amrywiol a deniadol.

· Cynorthwyo i greu cynnwys, cydlynu dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata cynllun Clwb Cwtsh.   · Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata a chyfathrebu at holl waith yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin   · Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Gŵyl Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith Clwb Cwtsh a’r Mudiad   · Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin   · Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £21,453 - £25,017 pro rata

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau