Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Gwybodaeth (x 2 swydd)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £8k (15 awr) / £20k (37 awr) 📍 Conwy Ar gau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Gynorthwyydd Gwybodaeth (x 2 swydd)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.    Ydych chi wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid? Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n hyderus, yn frwdfrydig a sy’n medru mynegi eu hunain yn dda i ymuno â'n tîm prysur.

Mae'r swydd yn cynnwys delio â nifer fawr o ymholiadau gan drigolion ac ymwelwyr sy'n defnyddio gwasanaethau'r cyngor dros y ffôn, a mewn person ym mhrif swyddfa'r Cyngor, Coed Pella ym Mae Colwyn. Bydd gofyn i chi reoli ymholiadau yn effeithlon ac yn sensitif trwy ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth cywir i alluogi datrys ymholiadau yn y man cyswllt cyntaf, lle bo hynny'n bosibl.

Dylai fod gan ymgeiswyr safon dda o addysg i lefel NVQ 2 (neu gyfwerth), sgiliau TGCh da a bod â'r gallu i wrando a dangos empathi â chwsmeriaid.

Mae'r Gwasanaeth yn delio'n uniongyrchol â'r cyhoedd, mae'r gallu i sgwrsio'n gartrefol â chwsmeriaid yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.

Cyflog

💰 £8,125 - £8,288 (15 awr) / £20,043 - £20,444 (37 awr)

Lleoliad

📍 Conwy

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau