Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 3

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £23k - £25k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Gynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 3

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli am apwyntio Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 ar gytundeb penodol o flwyddyn i gefnogi disgyblion yn y ganolfan Drochi.

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio cynorthwy-ydd egnïol i gydweithio gyda’r athro dosbarth. Lleolir y ganolfan drochi ar safle dros dro Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yng Nghaerllion sydd ond 12 milltir o Gaerdydd ac yna fe fydd yn symud i ganol dinas Casnewydd pan fydd y safle parhaol yn barod.

Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant. Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.

Cynigir y ddwy swydd ar sail 31 awr a hanner yr wythnos, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol yn unig. Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mrs Lona Jones-Campbell, Pennaeth Gweithredol, ar 01633 850804 (rhif cyswllt dros dro).

Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.

MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON

Cyflog

💰 £22,571 - £24,920 pro rata

Lleoliad

📍 Casnewydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Grŵp Llywio Canolfan Gyfraith y Gogledd

Ar gau

Cornea Gymunedol

Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £27k - £31k 📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad Ar gau

British Council Cymru

💰 £750 📍 Ariannin Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £34k - £41k Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £35k - £41k 📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad Ar gau

Grŵp Llandrillo Menai

💰 £11k 📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £39k 📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 Di-dâl 📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad Ar gau

Rydych wedi gweld yr holl swyddi.