Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Tim (Y Celfyddydau Iechyd a Llesiant)

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Tim (Y Celfyddydau Iechyd a Llesiant)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n darparu rhaglen bwysig i hyrwyddo'r manteision y gall y celfyddydau eu cynnig i lesiant y boblogaeth ac wrth greu Cymru fwy cyfartal, diwylliannol a chynaliadwy. Rhaglen weithgarwch uchelgeisiol yw hon â'i nod yw gosod y celfyddydau wrth galon iechyd a llesiant y genedl.

Mae’r Cydlynydd Tîm (Y Celfyddydau Iechyd a Llesiant) yn sicrhau bod gweithgareddau'r Tîm yn cael eu cyflawni'n effeithiol trwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol o safon uchel sy'n hwyluso gweithio hyblyg/mudol. Mae hyn yn cynnwys cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth ac apwyntiadau. Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd hefyd.

Amdanoch chi

Os ydych chi’n rhywun sydd â wybodaeth am neu diddordeb mewn sut y gallu celfyddydau gynorthwyo iechyd a llesiant pobl, yna hwyrach taw hon yw’r rôl i chi. Bydd gennych sgiliau TG a gweinyddu datblygedig iawn a profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o safon uchel. Bydd angen i chi gweithio o’ch menter eich hun, blaenoriaethu a chynllunio’ch gwaith eich hun, a bod yn hyblyg ac yn addasadwy i anghenion newidiol y tîm Celfyddydau Iechyd a Llesiant.   Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Sut i ymgeisio

Gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Iau 7 Gorffennaf 2022

Cyfweliadau: Dydd Llun 1 Awst 2022

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Cyflog

💰 £24,063

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau