Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Datblygu

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £39k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Swyddog Datblygu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Swyddogion Datblygu yw asiantau cyflawni lleol ein polisïau a'n strategaethau cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau. Nhw yw'r prif bwynt cyswllt ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd am gael cymorth, cefnogaeth neu gyllid gennym.

Gan adrodd i Reolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, bydd gan y rôl Swyddog Datblygu hon amrywiaeth o gyfrifoldebau gan gynnwys ‘pecyn’ o arbenigeddau ym maes y celfyddydau neu rai proffesiynol, cymryd rhan mewn cyfarfodydd penderfynu ar gyllid, bod yn berson cyswllt ar gyfer sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cymru, a chefnogi maes polisi penodol (yn yr achos hwn, y gwaith Celfyddydau ac Iechyd). 

Amdanoch chi

Os ydych chi'n angerddol ynghylch y celfyddydau, gyda diddordeb mewn iechyd a llesiant, a bod gennych y gallu i reoli a gweithredu mentrau sy'n datblygu blaenoriaethau'r rhaglen, yna hwyrach taw hon yw'r rôl i chi. Bydd yn rhaid i chi rheoli a chyflawni rhaglen amrywiol o brosiectau a thasgau and gyda ffocws ar ddeilliannau a’r penderfyniad i lywio prosiectau a thasgau hyd at eu cwblhau’n ymarferol. Am ddisgrifiad manwl o'r wybodaeth, y profiad a'r nodweddion angenrheidiol, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Sut i ymgeisio

Gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Iau 7 Gorffennaf 2022

Cyfweliadau: Dydd Llun 25 Gorffennaf 2022

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Cyflog

💰 £39,001

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau