Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Gynghorydd Polisi (Deddfwriaeth), Cymru

Y Comisiwn Etholiadol

💰 £38k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Y Comisiwn Etholiadol yn edrych am Uwch Gynghorydd Polisi (Deddfwriaeth), Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod â'ch sgiliau dadansoddol a datrys problemau i sefydliad sy'n helpu i sicrhau hyder ac ymddiriedaeth yn etholiadau Cymru?

Yr ymgeisydd llwyddiannus

Rydym yn chwilio am weithiwr polisi proffesiynol, egnïol, rhagweithiol a medrus i'n helpu i ddatblygu ein hagenda polisi a chyfrannu ein harbenigedd a'n mewnwelediad i ddadleuon ynghylch dyfodol etholiadau yng Nghymru. 

Byddwch yn gyfforddus wrth weithio mewn amgylchedd cyflym, ar eich liwt eich hun, yn ogystal â rhan o dîm cydweithredol a deinamig. Bydd gennych wybodaeth ragorol o brosesau llunio polisïau a deddfwriaeth yng Nghymru ac yn San Steffan, y gallu i ddefnyddio tystiolaeth a sgiliau datrys problemau i ddatblygu dulliau polisi creadigol; a sgiliau rhyngbersonol rhagorol sy'n eich galluogi i adeiladu perthnasoedd cryf â rhan-ddeiliaid mewnol ac allanol. 

Byddwch yn hyderus ac yn gyfathrebwr sy’n gallu argyhoeddi gyda’r sgiliau i gyflwyno dadansoddiad effeithiol wedi'i anelu at aelodau'r cyhoedd a llunwyr polisi. 

Y Rôl

Byddwch yn gweithio'n agos gyda phob aelod o'n timau yng Nghymru, Deddfwriaeth a Pholisi, ond byddwch yn benodol gyfrifol am ddatblygu a chyflawni agenda polisi'r Comisiwn ar gyfer digwyddiadau etholiadol Cymru. Byddwch yn gweithio gyda thimau ar draws y Comisiwn i sicrhau bod ein dadansoddiad polisi yn seiliedig ar dystiolaeth ac y gellir ei gyflawni; a sicrhau bod cynigion deddfwriaethol uchelgeisiol a chymhleth posibl yn glir ac yn ymarferol.

Bydd gennych gyfrifoldeb am gychwyn a gyrru gwaith polisi a phrosiectau ymlaen, a darparu cyngor polisi i uwch reolwyr a chydweithwyr yn y Comisiwn.

Er mwyn arwain a hysbysu’r ddadl gyhoeddus ehangach am etholiadau bydd angen i chi hefyd ddatblygu perthnasoedd gwaith rhagorol gyda swyddogion y llywodraeth a rhan-ddeiliaid eraill, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol a rheoleiddwyr eraill. Byddwch yn gweithio gyda'n tîm cyfathrebu allanol i ymateb i faterion y Senedd, ac i sicrhau bod deddfwriaeth a dadleuon yng Nghymru a ledled y DU lle bo hynny'n berthnasol yn cael eu llywio gan arbenigedd a phrofiad y Comisiwn.

Gwaith yn y Comisiwn Etholiadol

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd. 

Rydym yn cynnig telerau ac amodau gwych, gan gynnwys oriau gweithio hyblyg a'r gallu i ymuno â threfniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil (yn ddibynnol ar reolau'r cynllun). Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, ewch i'n gwefan http://www.electoralcommission.org.uk/jobs i lawrlwytho'r swydd ddisgrifiad, cyn gwneud cais ar-lein.

Mwy o wybodaeth a sut i wneud cais

Os yw’r rôl hon yn swnio’n addas i chi, fe garem ni glywed gennych chi. Er mwyn gwneud cais, cofrestrwch ar ein tudalen swyddi gwag ar ein gwefan a chwblhau cais sydd yn cynnwys datganiad cymorth yn dangos sut mae ateb y meini prawf yn y swydd ddisgrifiad.

Rydym yn cynnig telerau ac amodau gwych, gan gynnwys oriau gweithio hyblyg a'r gallu i ymuno â threfniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil (yn ddibynnol ar reolau'r cynllun).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol Cymru drwy [email protected].

Hoffem gynyddu amrywiaeth ein gweithwyr yn barhaol. Mae croeso arbennig i geisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. 

Efallai y byddwn yn defnyddio offer fideo-gynadledda ar gyfer y cyfweliadau. Byddwn yn cadarnhau y manylion gydag ymgeiswyr a fydd ar y rhestr fer.   Rydym yn rhwymedig i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Cyflog

💰 £38,000

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau