Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Mae Rondo yn edrych am Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm cynhyrchu Sgorio.

Mae’r swydd yn benodol yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol sydd â’r ddawn i ddweud stori, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol o gyhoeddi cynnwys arlein.

Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys

- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio 

- Dyletswyddau penodol ar Sgorio Stwnsh, sy’n cynnwys atodi ystadegau ar y wefan, rhannu uchafbwyntiau a diweddaru playlists ar YouTube 

- Hyrwyddo gemau byw, e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop   - Is-deitlo eitemau a chyfweliadau, e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro 

- Clipio, neu recordio deunydd systemau’n y cwmwl a golygu pan bydd angen 

- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio, yn cynnwys amserlennu negeseuon 

Hanfodol 

Dealltwriaeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu Gallu defnyddio meddalwedd Adobe Photoshop a PremierePro neu debyg i greu cynnwys atyniadol Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg

Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein   Manteisiol 

Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed.

Profiad o ddylunio graffeg trawiadol.

Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka. 

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a chyfrannu at waith adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. 

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. 

Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw. 

Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected] 

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau