Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd Sgorio

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.

Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu. 

Hanfodol 

Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.

Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol.   Sgiliau TG sylfaenol.

Manteisiol 

Trwydded yrru lawn.

Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu. 

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. 

Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.

Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected] 

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau