Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Y Goedwig Genedlaethol (x 6)

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych am Swyddog Y Goedwig Genedlaethol (x 6)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Goedwig Genedlaethol yn rhaglen strategol hirdymor i Gymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaglen ambarél y bydd gwahanol fentrau cyffrous, partneriaethau a mecanweithiau cyllido yn gweithredu oddi tani ar wahanol raddfeydd o ran gofod ac amser.

Rôl y Swyddog Cyswllt yw cefnogi rhanddeiliaid i wireddu rhaglen gyffrous Coedwig Genedlaethol Cymru a’i chanlyniadau drwy ymgysylltu, cynnig cyngor a rhoi cefnogaeth barhaus. Mae’r rôl newydd hon yn rhyngwyneb pwysig rhwng polisi, perchnogion tir ac asiantau coedwigaeth, a fydd yn hyrwyddo cynigion amrywiol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, cynnig cyngor arnynt a helpu i’w gweinyddu. Bydd y Swyddogion Cyswllt yn hyrwyddo manteision y Goedwig Genedlaethol ac yn mynd ati i gynghori a chyfathrebu gyda pherchnogion a rheolwyr tir i sicrhau bod y cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU ac yn gwireddu canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol.

Cymwysterau neu wybodaeth

  1. Gwybodaeth a phrofiad o goedwigaeth/creu coetiroedd/mynediad i’r cyhoedd/ymgysylltu â chymunedau yn ystod pob cam o ddatblygu prosiect o’i gychwyn hyd ei derfyn.
  2. Gallu i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid allanol a’r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  3. Aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu ymroddiad amlwg i’ch DPP eich hun (neu barodrwydd i ymuno).
  4. Profiad clir o reoli prosiectau.
  5. Gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm ac arwain grwpiau gorchwyl rhithiol.
  6. Profiad o reoli materion dadleuol a chydgysylltu â chymunedau a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd.
  7. Sgiliau hunan-reoli, trefnu a rhyngbersonol cryf ac effeithiol. 
  8. Gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau a gwneud penderfyniadau doeth.
  9. Gallu i ysgrifennu dogfennau clir a chryno.
  10. Sgiliau ysgrifennu cywir a rhagorol, h.y. llunio llythyrau ac adroddiadau.

Cyflog

💰 £31,490 - £34,902

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau