Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymgynghorydd Materion Allanol

💰 £35,022 📍 Llandudno Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Ymgynghorydd Materion Allanol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych chi'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i helpu i ledaenu neges elusen gadwraeth fwyaf y DU? Rydym yn awyddus i benodi gweithiwr proffesiynol hynod frwdfrydig i hyrwyddo a dylanwadu ar ein gwaith eirioli a pholisi a meithrin cysylltiadau â chynrychiolwyr etholedig a rhanddeilaid allweddol.

Sut beth yw gweithio yma?

Mae Gwasanaeth Ymgynghori'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gartref i arbenigwyr ym mhob maes o'n gwaith. Gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol, lle rhennir adnoddau ar draws disgyblaethau a ffiniau, sy'n profi i fod yn gronfa werth chweil o sgiliau, doniau a phrofiadau. Bydd amrywiaeth ac ansawdd yr arbenigedd o fewn y Gwasanaeth Ymgynghori yn galluogi ein heiddo a lleoedd i elwa ar ystod ryfeddol o feddylfryd creadigol ac arloesol, yn ogystal ag arbenigedd dwfn ym mhob mater yn ymwneud â'n diben dwbl o ofalu am dreftadaeth a thirweddau'r genedl, a gwneud y rhain yn hygyrch i bawb.

Fel Ymgynghorydd Materion Allanol, bydd eich cylch gwaith yn cwmpasu Cymru gyfan, ac felly, gallwn fod yn hyblyg o ran lleoliad; byddwch wedi'ch lleoli o'ch hwb swyddfa agosaf, a gallwch weithio gartref; ond hefyd, bydd y rôl yn cynnwys crwydro o un man i'r llall, felly bydd angen ichi fod yn gyfforddus â theithio.

Eich Gwaith

Fel rhan o'r tîm Materion Allanol yng Nghymru, byddwch yn allweddol yn llywio sut mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cael ei gweld yng Nghymru a ledled y byd. Byddwch yn meithrin cysylltiad â gwleidyddion, rhanddeiliaid allweddol ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru; monitro a dehongli polisïau, a dylanwadu arnynt; datblygu crynodebau o ansawdd uchel a threfnu a chyflwyno digwyddiadau.

Byddwch yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd hynod drefnus a strwythuredig – yn rheoli ac yn cofnodi ein cysylltiadau â gwleidyddion allweddol, rhanddeiliaid ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau, yn ogystal â datblygu prosesau effeithiol er mwyn rhannu gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth gyda'r byd allanol.

Byddwch yn gyfathrebwr profiadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn hyrwyddwr effeithiol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'n hachos, gan gynrychioli'r Ymddiriedolaeth i gynulleidfaoedd allanol.

Byddwch yn monitro a dehongli polisïau, ac yn dylanwadu arnynt, wrth gynnig cyngor am yr amgylchedd gwleidyddol i gydweithwyr, briffio staff ar y risgiau a chyfleoedd ar gyfer achos, strategaeth a gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyflym, ac at safon uchel. Byddwch yn gweithio'n agos â'n timau Marchnata a Chyfathrebu er mwyn sicrhau neges gyson ar draws sawl sianel.

Byddwch yn gweithio a chydweithwyr i feithrin cysylltiadau hirdymor gydag unigolion allweddol yn y meysydd gwleidyddol, polisi a grwpiau rhanddeiliad, gan ganolbwyntio ar adnabod pwy sy'n ddylanwadol ar gyfer ein hagenda ymysg seneddwyr a chynnig deunyddiau i feithrin eu hymddiriedaeth a hyder ynom ni.

Byddwch yn cyfrannu at brosesau mewnol ac yn datblygu cysylltiad da ledled yr Ymddiriedaeth, gan gynnwys gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a Thîm Materion Allanol yr Ymddiriedolaeth Gyfan.

Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil rôl llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.

Dyddiad Cynnal y Cyfweliadau dros dro: Dydd Mercher 13 Gorffennaf

Am bwy rydym yn chwilio?

Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn cynnwys manylion am sut ydych chi’n bodloni’r meini prawf canlynol:

- Profiad o weithio yn y maes eirioli, polisi neu weithio mewn partneriaeth allanol.

- Dealltwriaeth am y dirwedd randdeiliaid yng Nghymru.

- Gwybodaeth a phrofiad o dirwedd wleidyddol Cymru.

- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ynghyd â sgiliau rhyngbersonol gwych.

- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i weithio'n gyflym a blaenoriaethu.

- Y gallu i gynnal, dehongli ac ymateb i ymchwil, deallusrwydd a dadansoddiad allanol a mewnol.

Y Pecyn

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd

- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)

- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cyflog

💰 £35,022

Lleoliad

📍 Llandudno

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £21k 📍 Sir Benfro Ar gau

💰 £32k - £39k 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

💰 £32k - £36k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £53k - £64k 📍 Cyffordd Llandudno📍 Merthyr +2 Ar gau

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £35k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £20k - £22k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Amrywiol Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Hybrid📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Porthaethwy📍 Llangefni Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £21k - £22k 📍 Aberdyfi📍 Hybrid Ar gau

💰 £55k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth 📍 Amrywiol Ar gau