Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Marchnata Digidol Eisteddfod yr Urdd

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Marchnata Digidol Eisteddfod yr Urdd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.

Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.

Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.   Y Swydd

Wrth i ni gynllunio ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol bydd sicrhau cynnwys gwreiddiol a dawn i gysylltu’n ddigidol gyda’n aelodau a chynulleidfaoedd yn medru dyrchafu presenoldeb ar-lein yr Eisteddfod i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt. 

Bydd y Swyddog Marchnata Digidol yn gyfrifol am arwain ac ychwanegu gwerth i blatfformau a chynnwys digidol Eisteddfod yr Urdd drwy greu cynnwys sy’n berthnasol, apelgar a chyfoes. Un o brif nodau’r swydd bydd codi proffil yr Eisteddfod fel un o brif wyliau Ieuenctid Ewrop a chodi ymwybyddiaeth o waith celfyddydol yr adran trwy gydol y flwyddyn.

Bydd disgwyl i’r Swyddog Digidol i fod yn gyfrifol am greu cynnwys newydd ar gyfer ein cynulleidfaoedd amrywiol, creu ymgyrchoedd i hyrwyddo gwaith yr adran, arwain ar ddatblygu ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol, a denu incwm drwy ymgyrchoedd gwerthiant tocynnau ac ymgyrchoedd i ddenu noddwyr a chystadleuwyr newydd.   Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Eirian (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau) ar [email protected]  Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau: 12pm ar y 6ed o Orffennaf

Cyfweliadau:  Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. 

Cyflog

💰 £28,505 - £31,757

Lleoliad

📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £23,481 - £27,222 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29,116 - £35,627 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £27,450-£38,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £33,706 - £40,588 📍 Nantgarw Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £51,675 - £59,979 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £42,729- £49,600 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £28,866 - £44,450 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £40,561 pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,433 - £32,980 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Llanuwchlyn Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Bangor Ar gau

💰 £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £33,000 – £36,961 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22,017 – £32,956 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,371 - £32,909 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £36,000 - £40,000 📍 Ynys Môn Ar gau