Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Tinopolis yn edrych am Beiriannydd dan Hyfforddiant - Heno / Prynhawn Da

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Beiriannydd i ymuno â ni a gweithio gydag un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU. Byddwch yn gweithio mewn tîm o weithwyr proffesiynol hynod dalentog a dynamig ar raglenni teledu byw ac wedi'u recordio ymlaen llaw.

Crynodeb

Mae Tinopolis yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU, ac mae iddo swyddfeydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Llundain, Glasgow, Washington DC a Los Angeles. Rydym yn darparu dros 500 o oriau o raglenni teledu byw ac wedi'u recordio ymlaen llaw bob blwyddyn o'n stiwdios yn Llanelli. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig lle mae creadigrwydd, ansawdd, dibynadwyedd a rhagoriaeth dechnegol wrth wraidd popeth a wnawn. 

Darperir hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Trosolwg o'r Rôl:

• Cyflanwni dyletswyddi ymarferol dyddiol gan gynnwys Reoli Lluniau, y Brif Ystafell Reoli (MCR), Darlledu y tu Allan, SNG (Casglu Newyddion â Lloeren) 

• Rhoi cymorth technegol elfennol i'r staff cynhyrchu a'r criwiau technegol i hwyluso eu gweithrediadau. • Gweithio gyda'r timau Darlledu a TG mewnol yn ôl yr angen 

• Gweithrediadau'r Brif Ystafell Reoli (MCR), gan gynnwys gwiriadau a recordio, gwiriadau darlledu, darllediadau lloeren a ffrydiau ffibr sy'n dod i mewn

• Rheoli lluniau, darlledu stiwdio a darlledu y tu allan

• Casglu Newyddion â Lloeren (SNG), Gweithrediadau trosglwyddo o orsaf ar y tir i loeren (band KU a KA), cysylltiadau camera Microdon, system cyfathrebu â'r stiwdio UHF/symudol/lloeren/IP

• Cynnal a chadw OB, SNG a Stiwdio llinell gyntaf gan gynnwys cynnal a chadw systemau

Cymwyseddau Manteisiol

• Cymhwysedd TG 

• Yn frwdfrydig ac yn hyblyg 

• Yn gweithio'n dda mewn tîm 

• Yn cadw amser yn dda 

• Trwydded yrru lawn 

• Y gallu i gadw pen clir o dan bwysau

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Oriau Gweithio: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc

Gwyliau: Yn ogystal â'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 25 diwrnod o wyliau dros y flwyddyn pro rata

Pensiwn: Bydd gennych hawl i ymuno â'r cynllun pensiwn yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol. Os ydych yn aelod o'r cynllun pensiwn bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol. Disgwylir i chi gyfrannu 5%

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV ynghyd â llythyr eglurhaol cyn 12:00 ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 i: [email protected] neu Post: Swyddi, Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE.

Rydym yn gwmni sy’n credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid bod gan bob ymgeisydd hawl i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen tystiolaeth ddogfennol o gymhwysedd gan ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio. Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV yn ystod y broses. Byddwn yn cadw copi o'ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn dod ar gael yn y cyfnod hwn, gallem ddefnyddio'r wybodaeth i gysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o'n ffeiliau unrhyw bryd. I gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Llanelli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau