Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Weithredwr

Menter a Busnes

💰 Tua £90k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Brif Weithredwr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Menter a Busnes yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n cefnogi unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddechrau a datblygu eu busnesau. Mae’r Cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau ymgynghorol yn ymwneud â materion datblygu economaidd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r gweithlu yn cwmpasu 140 o staff sydd wedi eu lleoli mewn 5 swyddfa ar draws Cymru ac mae tua 60 o weithwyr llawrydd yn cyflawni gwaith i’r cwmni ar unrhyw adeg.

Yn dilyn cyhoeddi ymddeoliad Prif Weithredwr cyfredol y cwmni, mae Menter a Busnes yn nawr yn awyddus i benodi Prif Weithredwr newydd. Dyma gyfle cyffrous i arwain cwmni mor flaenllaw ar adeg hollbwysig. Bydd angen i’r unigolyn llwyddiannus:

·   arwain datblygiad parhaus Menter a Busnes trwy ddarparu gweledigaeth strategol ac arweinyddiaeth gadarn

·   gweithredu fel prif lysgennad y cwmni, trwy feithrin cysylltiadau allweddol ar bob lefel, gan sicrhau ymddiriedaeth yng ngallu’r cwmni i gyflawni targedau uchelgeisiol

·   cydweithio gyda Cadeirydd y Bwrdd i sicrhau llywodraethiant effeithiol a sefydlu fframweithiau atebolrwydd cadarn ar draws y cwmni, ac i sicrhau fod y Bwrdd yn derbyn cyngor, argymhellion a gwybodaeth mewn modd effeithlon

·   gofalu fod yr holl adnoddau angenrheidiol ar gael i weithredu gweledigaeth a rhaglen waith y cwmni a gofalu fod holl waith Menter a Busnes yn cael ei gyflawni’n effeithiol ac yn unol gyda nod, amcanion, ethos a gwerthoedd y cwmni

·   goruchwylio gweithgareddau datblygol a chyfrannu tuag at borffolio gwasanaethau masnachol y cwmni yn ôl arbenigedd a phrofiad a gofalu fod y defnydd o’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i ddatblygu ymhob agwedd ar waith y cwmni

Yn ogystal â dealltwriaeth drwyadl o’r maes datblygu economaidd yng Nghymru, bydd gan yr unigolyn llwyddiannus brofiad dangosadwy:

·   ym maes rheolaeth ac arweinyddiaeth

·   o allu i ysbrydoli a datblygu staff

·   o gynllunio strategol a rheolaeth ariannol 

·   o ffurfio partneriaethau a rhwydweithiau

·   o lunio ceisiadau a pharatoi tendrau llwyddiannus 

·   o ad-drefnu

I drafod yn anffurfiol ac am gopi o’r Pecyn Ymgeiswyr, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu [email protected] . I ymgeisio defnyddiwch y botwm 'Cyflwyno Nawr/Apply Now' ar wefan Goodson Thomas (www.goodsonthomas.com/opportunities/2387) i gyflwyno eich CV a llythyr eglurhaol. 

Cydnabyddir pob cais.

Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022

Cyfweliadau Panel Terfynol: 27/28/29 Gorffennaf 2022     

Cyflog

💰 tua £90,000

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau