Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cysylltydd Cynllun Cyfeirio Gogledd Ceredigion

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gysylltydd Cynllun Cyfeirio Gogledd Ceredigion

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson dwyieithog sydd â pheth gwybodaeth o’r sector wirfoddol ac sy’n argyhoeddedig o werth cynhwysiant i blant ag anghenion ychwanegol yn y blynyddoedd cynnar. Bydd y person yma yn gweithio gyda Chylchoedd Meithrin a darpariaethau gofal plant yn y sir, er mwyn sicrhau bod cyfle i blant ag anghenion ychwanegol elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.

Dyletswyddau’r Swydd:   Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cynllun Cyfeirio am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:   · Derbyn cyfeiriadau am blant sydd ag anghenion ychwanegol gan rieni/gofalwyr, darpariaethau gofal plant neu unigolion proffesiynol

· Cynnig cymorth a chefnogaeth i rieni/gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol gan gyfeirio i wybodaeth bellach

· Sicrhau bod y lleoliadau gofal plant yn darparu ethos cynhwysol

· Cysylltu ag arweinyddion a swyddogion darpariaethau gofal plant i baratoi’r lleoliadau i dderbyn plant ag anghenion ychwanegol

· Cynnig cymorth a chefnogaeth i ddarpariaeth gofal plant i benodi cynorthwywyr

· Cyd-weithio a phartneriaid megis Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ymwelwyr Iechyd, Seicolegyddion Addysg, Dechrau’n Deg, Tîm o Amgylch y Teulu a Swyddog Arweiniol ADY

· Cadw cofnodion cyfrinachol a chyflwyno adroddiadau rheolaidd i Rheolwr Cynllun Cyfeirio ac asiantaethau perthnasol a chydymffurfio gyda rheolau GDPR

· Paratoi adroddiadau yn ôl y gofyn

· Mynychu cyfarfodydd amrywiol yn ôl y gofyn gan gynnwys Panelu Plant a byrddau llywio

· Cefnogi darpariaethau Gofal Plant i gydymffurfio a gofynion y Côd ADY

· Trefnu a mynychu cyfarfodydd rhwng y lleoliad gofal plant, rhieni/gofalwyr ac unigolion proffesiynol

· Trefnu a mynychu hyfforddiant yn ôl y gofyn

· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

Cyflog

💰 £19,453

Lleoliad

📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau