Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Datblygu Cymunedol

💰 £22,002 - £23,111 📍 Torfaen Ar gau

Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?

Mae Menter Iaith BGTM yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a wnaed eisoes yn Sir Fynwy.

Cefndir

Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.

Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:

Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.

Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith.

Asesu anghenion cymunedau Sir Fynwy o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.

Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.

Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.

Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.

Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.

Hyrwyddo gwaith y Fenter trwy ddefnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.

Codi proffil y Fenter yn y wasg leol a chenedlaethol, paratoi datganiadau ac erthyglau cyson a’u dosbarthu i’r wasg a’r cyfryngau ac ati.

Paratoi ceisiadau am nawdd.

Manyleb person:

Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Sir Fynwy a'r De-ddwyrain

Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrwy o weithgareddau ar eu cyfer

Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau

Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)

Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol

DBS cyfredol

Trwydded yrru gyfredol a char

Telerau’r Swydd

Cyflog: £22,002 - £23,111 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)

Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol 

**Costau Teithio: **Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM

**Oriau Gwaith: **37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser. 

**Gwyliau: **28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)

**Hyd y Cytundeb: **Parhaol

Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.

Strwythur Rheoli 

Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.

Lleoliad swyddfa’r Fenter:

Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C Llawr Cyntaf Gogledd Ystad Parc Mamhilad Park Pontypŵl  NP4 0HZ

*Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y sir ar adegau yn ogystal â'r posibilrwydd o gweithio o gartref 

Dyddiad Cau: 1 Gorffennaf 2022

Cyswllt:Thomas Hughes, Prif Swyddog

[email protected]

Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 5pm, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2022

Cyflog

💰 £22,002 - £23,111

Lleoliad

📍 Torfaen

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £23,481 - £27,222 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29,116 - £35,627 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £27,450-£38,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £33,706 - £40,588 📍 Nantgarw Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £51,675 - £59,979 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £42,729- £49,600 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £28,866 - £44,450 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £40,561 pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,433 - £32,980 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Llanuwchlyn Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Bangor Ar gau

💰 £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £33,000 – £36,961 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22,017 – £32,956 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,371 - £32,909 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £36,000 - £40,000 📍 Ynys Môn Ar gau