Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Marchnata

Menter a Busnes

💰 £27k - £30k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.

Cywain

Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gryfhau a thyfu, yn eu helpu i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n darparu gwasanaethau drwy Gymru gyfan gyda phwyslais ar gydweithredu drwy glystyru, ychwanegu gwerth, datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.

Mae tair elfen i’r prosiect: 

●   Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro   ●   Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru

●   Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd 

**Nod y Rôl **

Cefnogi’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i lunio a gweithredu’r cynllun marchnata a chyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbennig ar gefnogi cyfathrebiadau allanol gyda budd-ddeiliad allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, gyda’r gallu i addasu unrhyw weithgareddau marchnata a chyfathrebu yn ôl yr angen, a hyn yn seiliedig ar ymchwil, newidiadau i’r farchnad a/neu mewn ymateb i ffactorau allanol.

Prif Gyfrifoldebau

●   Cyd weithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadaui weithredu cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer y prosiect

●   Datblygu brand a hunaniaeth y prosiect; dewis a datblygu sianelau cyfathrebu perthnasol 

●   Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu copi ar gyfer gwefan y prosiect

●   Cyfrannu at gyflawni targedau marchnata a chyfathrebu y rhaglen, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf

●   Cynorthwyo i ddylunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu y rhaglen

●   Ysgrifennu a golygu copi, gan sicrhau bod datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a chyhoeddiadau mewn print, gan gynnwys ffeithlenni a chyhoeddiadau technegol ac erthyglau, oll yn cael eu cynhyrchu’n amserol a chywir, yn unol â chanllawiau’r arianwyr

●   Prawf ddarllen copi’n gydwybodol, gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a’u cywiro, yn ogystal â sicrhau darpariaeth a chyfathrebiad cyson brand y prosiect

●   Cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau’r prosiect

●   Cynorthwyo i weithredu portffolio o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn ffordd broffesiynol, yn lleol a chenedlaethol, gan sicrhau amserlen gynnwys berthnasol ac ymgysylltiol

●   Cydweithio â’r cyfryngau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ddelio gydag ymholiadau fel y bo’n ofynnol

●   Cyflawni tasgau ymchwil farchnad penodol a darparu arweiniad i gytundebwyr allanol

●   Gweithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i oruchwylio a rheoli isgontractwyr sy’n darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r rhaglen

●   Profi, mesur a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu’r rhaglen yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu creu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol

●   Monitro, adolygu ac adrodd am ganlyniadau cyfathrebu a marchnata, gwariant a pherfformiad yn unol â gofynion y rhaglen, gan gynnwys creu a chynnal systemau rheoli effeithiol er mwyn bodloni gofynion Archwilio perthnasol

**Arall **

●   Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

●   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw

●   Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw

Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

●   Addysg hyd lefel gradd, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol megis marchnata, cyfathrebu, busnes neu faes tebyg, neu brofiad dangosadwy mewn rôl farchnata, gyfathrebu a/neu ddigwyddiadau

●   Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau bwyd, diod ac amaeth yng Nghymru

●   Profiad dangosadwy o helpu gyda datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad effeithiol o gynlluniau marchnata a chyfathrebu integredig

●   Profiad eang o ysgrifennu copi clir, cywir a manwl ar gyfer ei brintio a/neu gyhoeddiadau digidol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac o fewn canllawiau penodol

●   Sgiliau prawf ddarllen ragorol 

●   Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes, gan gynnwys paratoi calendr cynnwys misol, monitro ac adrodd ar berfformiad cyfryngau cymdeithasol a chanlyniadau ymgyrchoedd 

●   Profiad o reoli ac optimeiddio ymgyrchoedd hysbysebu digidol gan ddefnyddio chwiliad taledig a chyfryngau cymdeithasol taledig

●   Profiad o ddiweddaru cynnwys y we

●   Rhwydweithiau wedi eu datblygu’n dda gyda’r cyfryngau yng Nghymru

●   Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, cywir a manwl sy’n berthnasol i’r gynulleidfa

●   Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn

●   Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd

●   Gweithio’n dda fel aelod o dîm gydag agwedd ragweithiol a’r hyder i gymryd yr awenau ac arwain gweithwyr eraill pan fo raid

●   Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol 

●   Sgiliau TG o safon uwch, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Ebost, cronfeydd data a’r we

●   Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio   Manteisiol

●   Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, megis cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig

●   Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau 

●   Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaeth, bwyd a diod yng Nghymru   Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].   Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alex James ar 07539 173732.   Cyfweliadau   Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00yb, dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022.    **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £27,433 - £30,205

Lleoliad

📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau